Trwyddedau gwiberod, nadroedd y glaswellt, mwydod araf, madfallod cyffredin

Ceir chwe rhywogaeth o ymlusgiaid y tir brodorol yng Nghymru. Mae eu niferoedd wedi disgyn ym Mhrydain wrth i gynefinoedd naturiol ddiflannu. Hefyd, mae nadredd, a hyd yn oed y neidr ddefaid, wedi bod yn cael eu lladd yn fwriadol; a thargedwyd madfallod ar gyfer y fasnach anifeiliaid anwes.

Nid yw’r dudalen hon yn rhoi sylw i bob agwedd ar y gyfraith nac ecoleg ymlusgiaid, ond mae’n gyflwyniad i sut y gallwch chi helpu i warchod y rhywogaethau hyn.

Deddfwriaeth y DU

Caiff pob ymlusgiad ym Mhrydain ei warchod rhag ei ladd neu ei anafu’n fwriadol, neu ei werthu, o dan Atodlen 5 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y’i diwygiwyd). Dyma’r ymlusgiaid:

  • Gwiber, Vipera berus
  • Neidr y gwair, Natrix natrix
  • Neidr ddefaid, Anguis fragilis
  • Madfall, Lacerta vivipara

Nod y ddeddfwriaeth hon yw eu gwarchod rhag cael eu herlid, a hefyd rhag eu hecsbloetio gan y fasnach anifeiliaid anwes.

Hefyd, caiff ein hymlusgiad prinnaf, madfall y tywod (Lacerta agilis), a’n holl grwbanod môr eu gwarchod o dan Atodlen 5 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y’i diwygiwyd) rhag y canlynol:

  • tarfu ar y rhywogaeth yn ei man cysgodi neu lochesu
  • rhwystro mynediad at ei man cysgodi neu lochesu
  • gwerthu / cynnig gwerthu

Gall Cyfoeth Naturiol Cymru roi trwyddedau at ddibenion penodol o dan y ddeddfwriaeth hon, yn cynnwys dibenion gwyddonol, ymchwil, addysgol, cadwraeth a ffotograffiaeth, ond nid ar gyfer datblygu.

Deddfwriaeth Ewropeaidd

Caiff madfall y tywod a chrwbanod môr eu gwarchod o dan Reoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 (a elwir yn ‘Rheoliadau Cynefinoedd’) oherwydd bod eu niferoedd wedi bod yn disgyn ledled Ewrop dros y degawdau diwethaf.

Mae’r Rheoliadau Cynefinoedd yn datgan bod y canlynol yn drosedd:

  • Dal, anafu neu ladd yn fwriadol unrhyw anifail gwyllt sy’n rhan o rywogaeth a warchodir gan Ewrop
  • Tarfu’n fwriadol ar unrhyw anifeiliaid gwyllt o’r cyfryw rywogaethau
  • Cymryd neu ddifa’n fwriadol wyau anifail o’r fath, neu
  • Ddifa neu ddinistrio safle bridio neu fan gorffwys anifail o’r fath

Mae tarfu’n cael ei ddiffinio fel rhywbeth sy’n debygol:

  • o amharu ar eu gallu –
    • i oroesi, bridio neu atgenhedlu, neu i fagu neu feithrin eu rhai bach, neu
    • yn achos anifeiliaid rhywogaeth sy’n gaeafgysgu neu sy’n mudo, yn amharu ar eu gallu i wneud hynny
  • i effeithio’n sylweddol ar ddosbarthiad neu niferoedd y rhywogaeth y maen nhw’n perthyn iddi yn lleol

Mae yna droseddau eraill yn ymwneud â meddu ar rywogaethau a warchodir, eu cludo, eu gwerthu neu eu cyfnewid.

Am grynodeb o’r darpariaethau cyfreithiol ar gyfer eu gwarchod, gweler Ymlusgiaid ac amffibiaid sy’n cael eu gwarchod gan y gyfraith yng Nghymru.

Trwyddedu

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhoi trwyddedau o dan Reoliad 55 y Rheoliadau Cynefinoedd er mwyn caniatáu gweithgareddau sy’n ymwneud â rhywogaethau a warchodir gan Ewrop, a fyddai’n droseddau fel arall. Rydym yn eu rhoi at ddibenion penodol a restrir yn y Rheoliadau, os ydych chi’n bodloni’r tri phrawf canlynol:

  • diben y gwaith yw diogelu iechyd y cyhoedd neu ddiogelwch y cyhoedd neu unrhyw reswm hanfodol arall sydd o fudd cyhoeddus tra phwysig yn cynnwys rhesymau cymdeithasol neu economaidd eu natur a chanlyniadau buddiol sy’n bwysig iawn i’r amgylchedd
  • does yna ddim dewis arall boddhaol
  • ni fydd y weithred a awdurdodir yn cael effaith niweidiol ar y gwaith o gynnal poblogaeth y rhywogaeth dan sylw ar statws cadwraethol ffafriol yn eu hystod naturiol

Mae dibenion trwyddedu eraill yn cynnwys y canlynol:

  • dibenion gwyddonol ac addysgol
  • gosod modrwy neu nod
  • gwarchod anifeiliaid gwyllt neu blanhigion gwyllt
  • gwarchod unrhyw gasgliad sŵolegol neu fotanegol
  • atal clefyd rhag lledaenu
  • atal difrod difrifol

Pwy all wneud cais am drwydded

Dysgwch pwy sy’n gallu gwneud cais ar gyfer trwydded rhywogaethau gwarchodedig

Gwneud cais am drwydded rhywogaethau a warchodir

Os nad oes modd i chi osgoi tarfu ar rhywogaethau a warchodir, neu ddifrodi eu safleoedd bridio a’u mannau gorffwys, gallwch wneud cais am drwydded am ystod o wahanol weithgareddau:

Cysylltu â ni

Gallwch gysylltu â ni am gymorth ar unrhyw adeg cyn neu yn ystod eich cais ar gyfer trwydded.

Diweddarwyd ddiwethaf