Ymlusgiaid
Caiff holl ymlusgiaid Prydain eu gwarchod rhag eu lladd, eu hanafu neu eu gwerthu. Mae madfall y tywod hefyd yn Rhywogaeth a warchodir gan Ewrop. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhoi trwyddedau fel y gallwch chi weithio o fewn y gyfraith
Ceir chwe rhywogaeth o ymlusgiaid y tir brodorol yng Nghymru. Mae angen mannau agored ar y nadredd a’r madfallod hyn i dorheulo fel y gallant hela am fwyd. Hefyd, mae angen mannau cysgodol arnyn nhw er mwyn gaeafgysgu.
Mae eu niferoedd wedi disgyn ym Mhrydain wrth i gynefinoedd naturiol ddiflannu. Hefyd, mae nadredd, a hyd yn oed y neidr ddefaid, wedi bod yn cael eu lladd yn fwriadol; a thargedwyd madfallod ar gyfer y fasnach anifeiliaid anwes.
Nid yw’r dudalen hon yn rhoi sylw i bob agwedd ar y gyfraith nac ecoleg ymlusgiaid, ond mae’n gyflwyniad i sut y gallwch chi helpu i warchod y rhywogaethau hyn.
UK legislation
Caiff pob ymlusgiad ym Mhrydain ei warchod rhag ei ladd neu ei anafu’n fwriadol, neu ei werthu, o dan Atodlen 5 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y’i diwygiwyd). Dyma’r ymlusgiaid:
- Gwiber, Vipera berus,
- Neidr y gwair, Natrix natrix,
- Neidr ddefaid, Anguis fragilis,
- Madfall, Lacerta vivipara
Nod y ddeddfwriaeth hon yw eu gwarchod rhag cael eu herlid, a hefyd rhag eu hecsbloetio gan y fasnach anifeiliaid anwes.
Hefyd, caiff ein hymlusgiad mwyaf prin, madfall y tywod (Lacerta agilis), a’n holl grwbanod môr eu gwarchod o dan Atodlen 5 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y’i diwygiwyd) rhag y canlynol:
- tarfu arnynt pan fyddant mewn man cysgodol neu warchodol,
- rhwystro’u mynediad i fan cysgodol neu warchodol,
- eu gwerthu / eu cynnig ar gyfer eu gwerthu
European legislation
Caiff madfall y tywod a chrwbanod môr eu gwarchod o dan Reoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 (a elwir yn ‘Rheoliadau Cynefinoedd’) oherwydd bod eu niferoedd wedi bod yn disgyn ledled Ewrop dros y degawdau diwethaf.
Mae’r Rheoliadau Cynefinoedd yn datgan bod y canlynol yn drosedd:
- Dal, anafu neu ladd yn fwriadol unrhyw anifail gwyllt sy’n rhan o rywogaeth a warchodir gan Ewrop,
- Tarfu’n fwriadol ar unrhyw anifeiliaid gwyllt o’r cyfryw rywogaethau,
- Cymryd neu ddifa’n fwriadol wyau anifail o’r fath, neu
- Ddifa neu ddinistrio safle bridio neu fan gorffwys anifail o’r fath
Mae tarfu’n cael ei ddiffinio fel rhywbeth sy’n debygol:
- o amharu ar eu gallu –
- i oroesi, bridio neu atgenhedlu, neu i fagu neu feithrin eu rhai bach, neu
- yn achos anifeiliaid rhywogaeth sy’n gaeafgysgu neu sy’n mudo, yn amharu ar eu gallu i wneud hynny
Mae yna droseddau eraill yn ymwneud â meddu, cludo a gwerthu. Gweler ‘Meddu ar a Gwerthu Rhywogaethau a Warchodir’ am ragor o wybodaeth.
Am grynodeb o’r darpariaethau cyfreithiol ar gyfer eu gwarchod, gweler ‘Ymlusgiaid ac amffibiaid sy’n cael eu gwarchod gan y gyfraith yng Nghymru’.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhoi trwyddedau o dan Reoliad 55 y Rheoliadau Cynefinoedd i ganiatáu gweithgarwch yn ymwneud â Rhywogaethau a warchodir gan Ewrop, a fyddai fel arall yn droseddau. Am ragor o wybodaeth, gweler ‘Trwyddedu Ymlusgiaid’ a ‘Trwyddedu Rhywogaethau Morol a warchodir gan Ewrop’.