Roedd Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y’i diwygiwyd) yn gweithredu Cyfarwyddeb Adar Ewropeaidd 1979, ynghyd â Chonfensiwn Bern 1979. Nid yw’r dudalen hon yn rhoi sylw i bob agwedd ar y gyfraith nac ecoleg adar, ond mae’n gyflwyniad i sut y gallwch chi helpu i warchod y rhywogaethau hyn.
Mae pob aderyn gwyllt, eu nythod a’u hwyau yn cael eu gwarchod o dan y Ddeddf. Mae’n drosedd gwneud y canlynol yn fwriadol:
- Lladd, anafu neu gymryd unrhyw aderyn gwyllt
- Cymryd, difa neu ddinistrio nyth Eryr Euraid, Eryr Môr neu Walch y Pysgod (hyd yn oed os nad ydyn nhw’n cael eu defnyddio)
- Cymryd, difa neu ddinistrio nyth unrhyw aderyn gwyllt tra’i bod yn cael ei defnyddio neu yn cael ei hadeiladu
- Cymryd, difa neu ddinistrio wy unrhyw aderyn gwyllt
- Neu feddu ar unrhyw aderyn gwyllt byw neu farw neu wy unrhyw aderyn gwyllt, neu unrhyw beth sy’n deillio ohono
Mae llawer o adar prin wedi’u rhestru yn Atodlen 1 hefyd sy’n ei gwneud hi’n drosedd i wneud y canlynol yn fwriadol neu’n ddi-hid:
- Tarfu ar aderyn Atodlen 1 wrth iddo adeiladu nyth neu os yw yn y nyth neu’n agos at nyth sy’n cynnwys wyau neu rai bach; neu
- Darfu ar adar bach dibynnol aderyn o’r fath
Gweler ‘Adar a warchodir gan y gyfraith yng Nghymru’ am restr o adar Atodlen 1.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n rhoi trwyddedau at ddibenion penodol er mwyn i chi allu gweithio’n gyfreithlon heb dorri’r gyfraith. Gweler ‘Trwyddedu adar’ am ragor o wybodaeth.
Bydd ein tudalen Rhoi Gwybod am Ddigwyddiad yn rhoi rhagor o wybodaeth ichi ar sut i roi gwybod am droseddau yn erbyn bywyd gwyllt.