Gwybodaeth a dyddiadau cau ar gyfer cofnodion gwastraff i gweithredwyr yng Nghymru
Mae’n rhaid i weithredwyr sydd â thrwydded amgylcheddol lenwi ffurflenni cofnodion gwastraff i ddweud wrth Cyfoeth Naturiol Cymru am y gwastraff y maent wedi ei dderbyn neu ei waredu o’u safle
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio’r wybodaeth hon i:
- fonitro cydymffurfiad y safle ag amodau eu trwydded amgylcheddol
- cadw cofrestr gyhoeddus
- casglu ystadegau cenedlaethol am wastraff
Gellir lawrlwytho'r fersiwn bresennol o'r daenlen ar waelod y dudalen hon. Sicrhewch eich bod yn cyflwyno'ch ffurflen yn ôl gan ddefnyddio'r fersiwn hon o'r daenlen i'w dderbyn. Mae'n bwysig eich bod chi'n cwblhau'r holl feysydd gorfodol o fewn y daenlen a defnyddio'ch rhif EPR (Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol) yn hytrach nag unrhyw rifau cyfeirio hanesyddol. Os oes gennych unrhyw anawsterau wrth ddadlwytho'r taenlen cofnodion gwastraff diweddaraf isod, cysylltwch â ni am gymorth.
Sut i ddosbarthu ac asesu gwastraff
Am ragor o gymorth ar sut i ddewis cod EWC cywir ar gyfer gwastraff, defnyddiwch y canllawiau sydd ar gael.
Cofnodion gwastraff – ffurflen electronig
Mae angen i gyfleusterau gwastraff nad ydynt yn Gyfleusterau Deunyddiau lenwi’r rhannau cyntaf ar y tair taflen yn y llyfr gwaith sydd mewn glas ar y top yn unig, mae angen i Gyfleusterau Deunyddiau lenwi’r ffurflenni cyfan.
Os oes gan eich safle fwy nag un drwydded gwastraff, mae'n rhaid i chi danfon ffurflen I ni ar gyfer bob trwydded.
Os ymgymerir â sawl gweithrediad gwastraff yn eich cyfleuster o dan un drwydded yr ydym am i chi lenwi mwy nag un ffurflen gofnodion er mwyn dogfennu’r gwastraff ar wahân sy’n dod i mewn ac allan o bob gweithrediad gwastraff.
Danfonwch ffurflenni wedi'u cwblhau i waste.returns@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk. Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y broses, yna anfonwch nhw at y cyfeiriad hwn hefyd.
Cofnodion gwastraff - ffurflen bapur
Os na allwch gyflwyno'ch ffurflen drwy anfon neges e-bost, gallwch chi lenwi ffurflen bapur. Cysylltwch â ni i ofyn am ffurflen papur waste.returns@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk. Dylid dychwelyd ffurflenni papur wedi'u llenwi i:
Cyfoeth Naturiol Cymru
Canolfan Gofal Cwsmeriaid
29 Heol Casnewydd
Caerdydd, CF24 0TP
Terfynau amser ar gyfer cyflwyno cofnodion gwastraff
Chwarter | Terfyn amser |
---|---|
1 Ionawr i 31 Mawrth | Ebrill 30 |
1 Ebrill i 30 Mehefin | Gorffennaf 31 |
1 Gorffennaf 1 i 30 Medi | Hydref 31 |
1 Hydref 1 i 31 Rhagfyr | Ionawr 31 |
Cyfnod cofnodion blynyddol | Terfyn amser ar gyfer danfon y cofnod |
---|---|
1 Ionawr i 31 Rhagfyr | 31 Ionawr y flwyddyn ganlynol |