Cwblhau nodiadau cludo gwastraff peryglus
Pan symudir gwastraff peryglus i neu o unrhyw leoliad yng Nghymru, rhaid cael nodyn cludo gwastraff peryglus ar ei gyfer
Pan symudir gwastraff peryglus i neu o unrhyw leoliad yng Nghymru, rhaid cael nodyn cludo gwastraff peryglus ar ei gyfer.
Eithriadau
Yr unig eithriadau yw:
- Yn y rhan fwyaf o achosion gallwch symud gwastraff peryglus domestig o gartrefi heb nodyn cludo. Fodd bynnag, bydd contractwyr sy’n symud asbestos o gartrefi angen defnyddio nodiadau cludo
- Mae nifer fechan o sefyllfaoedd i’w cael pan na fyddwn yn mynnu bod yn rhaid ichi gael nodyn cludo. Gweler ein Datganiad Canllaw. http://naturalresources.wales/media/1205/guidance-statement-premises-notification-for-the-hazardous-waste-regulations.pdf
- Pan gaiff gwastraff peryglus ei fewnforio neu ei allforio dan reolau Cludo Gwastraff Rhyngwladol, golyga’r dogfennau angenrheidiol nad ydych angen nodyn cludo
Proses nodiadau cludo
Caiff y weithdrefn sy’n berthnasol i nodiadau cludo ei phennu yn Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005 fel y’u diwygiwyd, a rhaid i bawb sy’n gysylltiedig â symud y gwastraff ddilyn y weithdrefn hon.
Rhan A1
Dylai’r rhif nodyn cludo sydd i’w gwblhau yn Rhan A1 y nodyn ddilyn y fformat a nodir isod.
- Pan gaiff y gwastraff ei gasglu oddi wrth gynhyrchwr cofrestredig, rhaid i rif y nodyn fod ar ffurf Cod Safle ac yna gyfres o bum llythyren neu rif unigryw. (Gweler cofrestru neu adnewyddu fel cynhyrchwr gwastraff peryglus i gael manylion am gofrestru safleoedd)
- Os caiff y gwastraff ei gasglu oddi wrth gynhyrchwr eithriedig, yna rhaid i rif y nodyn fod ar ffurf EXE ac yna wyth llythyren neu rif sy’n gwneud rhif y nodyn cludo’n unigryw
Rhan B2
Yn Rhan B2 y ffurflen, rhaid cofnodi Dosbarthiad Diwydiant Safonol (SIC) ar gyfer y broses. Ar gyfer cwblhau nodiadau cludo, byddwn yn derbyn naill ai SIC 2003 neu SIC 2007.
Rhan C
Os yw’r llwyth yn perthyn i sawl casgliad gwahanol, yna rhaid i’r cludwr gofnodi manylion y rownd yn Rhan C pob nodyn. Bydd rhif y rownd yn gyffredin i bob casgliad sy’n rhan o’r rownd a gall gynnwys unrhyw 15 llythyren neu rif. Y rhif dilyniannol yw rhif y casgliad, felly 1 ar gyfer y casgliad cyntaf, 2 ar gyfer yr ail gasgliad ac yn y blaen.
Pan fydd y cerbyd yn cyrraedd y derbynnydd, rhaid i’r derbynnydd gofnodi cyfanswm y llwythi sy’n rhan o’r casgliad yn yr adran berthnasol yn Rhan E y ffurflen.
Dadlwythwch y templed nodyn cludo (Saenes yn unig).
Dadlwythwch y daflen barhad (Saesneg yn unig).