Ymgynghoriad Rheolau Safonol rhif 15: Gweithfeydd Hylosgi Canolig a Generaduron Penodol

Trosolwg

Rydym yn cynnig trwyddedau safonol o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016. Mae’r trwyddedau hyn yn helpu i leihau’r baich gweinyddol ar fusnesau gan gynnal safonau amgylcheddol ar yr un pryd. Maent wedi’u seilio ar setiau o reolau safonol y gellir eu gweithredu’n eang.

Mae dolenni i’r ddogfen ymgynghori a’r ffurflen ymateb, y rheolau safonol arfaethedig a diwygiedig, ac asesiadau risg generig, ar gael ar waelod y dudalen hon.

Pam rydym yn ymgynghori

Hoffem glywed eich barn chi am ein newidiadau arfaethedig i’r setiau rheolau safonol ar gyfer generaduron penodol tranche B. Diben y cynigion hyn yw diwygio’r rheolau i gynnwys gweithfeydd hylosgi canolig (MCP) newydd. Rydym hefyd yn cynnig diwygiad i reol safonol SR2018 Rhif 7 ar gyfer gweithfeydd hylosgi canolig newydd.

Bydd yr ymgynghoriad hwn yn cau ar 31 Ionawr 2020.

Rydym yn anelu at gyhoeddi’r set rheolau safonol newydd ym mis Mawrth 2020.

Disgrifiad o’r ymgynghoriad

Rydym yn bwriadu newid setiau rheolau safonol SR2018 Rhif 1 i 6 a SR2018 Rhif 8 i ddarparu ar gyfer generaduron penodol a all gynnwys gwaith hylosgi canolig newydd.

Rydym hefyd yn cynnig diwygio set rheolau safonol SR2018 Rhif 7 ar gyfer gweithfeydd hylosgi canolig newydd er mwyn ehangu nifer y senarios yn y rheolau.

Mae’r diwygiadau penodol i’w gweld yn y ddogfen ymgynghori.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Ymgynghoriad Rheolau Safonol Rhif 15: Diwygio setiau rheolau safonol ar gyfer Gweithfeydd Hylosgi Canolig a Generaduron Penodol Rheolau safonol ar gyfer Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016 WORD [100.3 KB]
Ffurflen Ymateb WORD [130.3 KB]
SR2018 No1 v3.pdf PDF [263.4 KB]
SR2018 No2 v3.pdf PDF [238.5 KB]
SR2018 No3 v3.pdf PDF [233.3 KB]
SR2018 No4 v3.pdf PDF [223.9 KB]
SR2018 No5 v3.pdf PDF [244.1 KB]
SR2018 No6 v3.pdf PDF [258.5 KB]
SR2018 No7 v3.pdf PDF [303.8 KB]
SR2018 No8 v3.pdf PDF [248.5 KB]
GRA SR2018 No 1 v3.xls EXCEL [60.0 KB]
GRA SR2018 No 2 v3.xls EXCEL [60.5 KB]
GRA SR2018 No 3 v3.xls EXCEL [60.0 KB]
GRA SR2018 No 4 v3.xls EXCEL [62.0 KB]
GRA SR2018 No 5 v3.xls EXCEL [69.0 KB]
GRA SR2018 No 6 v3.xls EXCEL [69.0 KB]
GRA SR2018 No 7 v3.xls EXCEL [59.5 KB]
GRA SR2018 No 8 v3.xls EXCEL [61.0 KB]