Dyma’r ail ymgynghoriad statudol o dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr, a fydd yn cyfrannu at y drydedd gyfres o Gynlluniau Rheoli Basn Afon a’r Adroddiad nesaf ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol (SoNaRR 2) o dan Ddeddf yr Amgylchedd. Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i lunio i rannu trosolwg ar y materion pwysig o ran rheoli dŵr a nodwyd ar draws Ardaloedd Basn Afon Cymru. Bydd yn cyfrannu at y mesurau sydd eu hangen i sicrhau’r gwelliannau angenrheidiol ac i rannu tystiolaeth ynglŷn â ble y mae angen gweithredu. 

Drwy gael eich cynnwys, gallwch chwarae rhan weithredol yn y gwaith o helpu i warchod amgylchedd dŵr Cymru a chyflawni gwelliannau pellach er mwyn sicrhau cynaliadwyedd, iechyd a chydnerthedd yr amgylchedd dŵr. 

Dyddiad cychwyn:   22 Mehefin 2019      Dyddiad gorffen:   22 Rhagfyr 2019 

Grŵp o ddalgylchoedd yw Ardal Basn Afon sy’n cynnwys casgliad o afonydd, llynnoedd, dyfroedd daear a dyfroedd arfordirol. Hoffem glywed eich barn chi am y materion sy’n effeithio ar Gymru, Ardal Basn Afon Gorllewin Cymru (sydd wedi’i lleoli’n llwyr yng Nghymru) ac Ardal Basn Afon Dyfrdwy (sy’n croesi’r ffin â Lloegr). Asiantaeth yr Amgylchedd sy’n arwain y gwaith o gyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad Ardal Basn Afon Hafren a bydd yn cyhoeddi hwn ym mis Hydref 2019. 

Hoffem ichi roi eich barn inni am yr hyn a ganlyn:

  • Unrhyw dystiolaeth ychwanegol y dylem ei chynnwys wrth baratoi Datganiadau Ardal a’r Adroddiad nesaf ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol
  • Y dewisiadau ar gyfer datrys y materion sylweddol o ran rheoli dŵr (yr heriau)
  • Eich awgrymiadau chi ar gyfer mynd i’r afael â’r materion a nodwyd yn yr ardal basn afon (y dewisiadau)
  • Y cyfleoedd y gellir eu canfod i fynd i’r afael â’r materion wrth ddatblygu’r Datganiadau Ardal 

Sut i ymateb:

Llenwch y ffurflen ymateb a’i hanfon at: WFDWales@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk 

Gadewch inni wybod os hoffech gael copi o unrhyw un o’r proffiliau Datganiad Ardal, os ydynt ar gael.  Os hoffech drafod unrhyw broffil yn uniongyrchol, cysylltwch â WFDWales@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk  

Post:

Jill Brown
Cyfarwyddiaeth Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu 
Cyfoeth Naturiol Cymru 
Tŷ Cambria 
29 Heol Casnewydd
Caerdydd
CF24 0TP

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Heriau a Dewisiadau Ymgynghoriad ar y crynodeb o broblemau rheoli dŵr pwysig i Gymru, Ardal Basn Afon Gorllewin Cymru ac Ardal Basn Afon Dyfrdwy PDF [1.2 MB]