Cynaeafu cocos yng Nghilfach Tywyn

Pwy all gynaeafu cocos yn gyfreithlon yng Nghilfach Tywyn

Pwy all gynaeafu cocos yng Nghilfach Tywyn

Cynaeafwyr masnachol

Rhaid i gynaeafwyr masnachol gael trwydded gennym i gasglu cocos yng Nghilfach Tywyn.

Mae'r rhestr aros ar gau i ymgeiswyr newydd.

Os bydd y rhestr aros yn agor byddwn yn rhoi’r wybodaeth ar ein gwefan.

Aelodau o'r cyhoedd

Gall aelodau'r cyhoedd gymryd hyd at 8kg o gocos y dydd at ddefnydd personol yn unig. Ni chaniateir i chi werthu'r cocos na'u prosesu i'w gwerthu.

Gallwch chi gasglu cocos at ddefnydd personol yn unig i'r dwyrain o'r ardal rhwng Llanrhidian Pill yn y de a Doc Llanelli yn y gogledd.

Adnewyddu eich trwydded cocos Cilfach Tywyn

Bydd angen i gynaeafwyr masnachol adnewyddu eu trwydded bob blwyddyn, cyn 1 Ebrill.

Byddwn yn cysylltu â phob deiliad trwydded yn unigol i'ch gwahodd i'w hadnewyddu.

Cysylltwch â ni

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, neu i drafod ardystiad, cysylltwch â ni.

Anfonwch e-bost at burryinletfishery@naturalresourceswales.gov.uk.

Ysgrifennwch atom yn Trwyddedu Cocos Cilfach Tywyn, Canolfan Cwsmeriaid, Cyfoeth Naturiol Cymru, Tŷ Cambria, 29 Heol Casnewydd, Caerdydd, CF24 OTP.

Ffoniwch 0300 065 3000.

Rhagor o wybodaeth

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am bysgod cregyn ar wefan Cyngor Sir Abertawe a gwefan Cyngor Sir Caerfyrddin.