Gwerthiannau byrdymor

Manylion gwerthu
- Mae’r maint cyfan yn cael ei rannu’n lotiau ar draws yr ardaloedd cynhyrchu uniongyrchol yng Nghymru. Bydd pob lot yn cael ei diffinio yn ôl yr ardal o goedwig (Llannerch)
- Bydd cynigion, sy’n cael eu mynegi fel pris y dunnell, yn cael eu cyflwyno ar y maint cyfan neu ran o’r maint ar gyfer pob lot
- Gellir hefyd gyflwyno cynigion amodol, er enghraifft cyfyngiadau ar rywogaethau, amrywiadau o ran hyd a diamedr, dyddiadau cyflenwi ac ati
- Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn dyfarnu contractau a fydd yn rhoi’r enillion ariannol cyffredinol gorau
- Ni fydd y contractau hyn yn para am fwy na 12 mis fel arfer. Mewn rhai amgylchiadau, gallai fod gofyn ymestyn oes contract am flwyddyn yn olynol. Gallai hyn fod oherwydd bod maint y contract neu gyfyngiadau safle-benodol yn effeithio ar amseru gweithrediadau/cynhyrchu pren. Byddai estyniad i gontract trwy gytundeb y ddau barti.
Pren caled
Bydd unrhyw gontractau gwerthu pren caled sy’n sefyll a chontractau pren caled sy’n sefyll gerllaw’r ffordd yn debygol o gael eu cynnig trwy E-Werthiant Coed. Mae’r pren hwn fel arfer yn cael ei farchnata fel coed tân pren caled. Bydd deiliaid contractau a fynegodd ddiddordeb mewn coed tân pren caled yn derbyn gwybodaeth yn awtomatig pan fydd lotiau’n dod ar gael.
Pren crwn bach
At ddibenion y tendr, mae pren crwn bach yn cael ei ddiffinio fel pren â diamedr ei frig yn ddim llai na 5cm o dan y rhisgl, a ddefnyddir ar gyfer mwydion papur, sglodion pren, a chynhyrchu ynni biomas, coed tân, ffensio ac ati. Bydd unrhyw ddeunydd posibl sy’n addas ar gyfer ffensio wedi'i dynnu i ffwrdd eisoes a'i werthu ar wahân.
Cynhyrchu yn y dyfodol
Mae'r tîm Gwerthu a Marchnata yn gweithio i ddatblygu cynlluniau cynhyrchu pren caled ledled Cymru yn y dyfodol.
Am ragor o wybodaeth am gynhyrchu pren caled, cysylltwch â'r ddesg gymorth e-Werthiant Coed
Pren ar gyfer marchnadoedd arbenigol
Mae'r tîm Gwerthu a Marchnata yn gweithio i ddatblygu cronfa o gwsmeriaid sydd â diddordeb mewn:
- Mân rywogaethau o goed conwydd, er enghraifft Ffynidwydd Douglas, Sbriws Hemlog y Gorllewin a’r Gochwydden
- Boncyffion diamedr mawr gyda diamedr y bôn yn fwy na 70cm
- Polion pren hir wedi’u torri i hydoedd ar hap, gyda diamedr y brig yn fwy na 30cm. Ar hyn o bryd, rydym yn marchnata pren megis boncyffion hir (3.7m - 13.5m) o Ffynidwydd Douglas
- Byrnau tocion neu sglodion ar gyfer y farchnad biodanwydd
I drafod eich gofynion, cysylltwch â’r ddesg gymorth e-Werthiant Coed
Coed tân
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn derbyn llawer o ymholiadau ynglŷn â chyrchu pren ar gyfer tanwydd coed a choed tân, yn arbennig o Ystad Goed Llywodraeth Cymru.
Sylwer: o 31 Hydref 2019 ymlaen, gellir prynu coed tân mewn lotiau a gynigir yn ystod digwyddiadau e-Werthiant Coed yn unig. Ceir manylion y digwyddiadau hyn ar y gwe-dudalennau e-Werthiant Coed.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’r ddesg gymorth e-Werthiant Coed