Ffactorau allyrru ar gyfer porthiant a gweddillion treuliad anaerobig at ddibenion gwaith modelu ac adrodd
Dylid defnyddio'r ffactorau allyrru isod wrth gynnal asesiadau o lefelau amonia. Mae'r ffactorau hyn yn agored i newid wrth i fwy o wybodaeth ddod i law, a dim ond y ffactorau allyrru a nodir ar y wefan ar adeg cyflwyno'ch cais y caiff eu hystyried fel rhai dilys.
Bydd y ffactor allyrru ar gyfer treulio anaerobig yn amrywio gan ddibynnu ar y math o borthiant. At ddibenion gwaith sgrinio a modelu, dylech ddefnyddio 0.0276 cilogram o amonia fesul cilogram o nitrogen yn achos porthiant y gweddillion treuliad anaerobig, a 0.009 cilogram o amonia fesul cilogram yn achos y swm o borthiant a storir cyn ei dreulio.
Mae ffigurau'r cynnwys nitrogen ar gyfer porthiannau cyffredin wedi'u rhestru yn y tabl isod.
Math o borthiant | Cynnwys mewn deunydd sych a ffres (kg kg–1) |
Cynnwys nitrogen mewn deunydd ffres (kg kg–1) |
---|---|---|
Gwastraff organig trefol (a) |
0.40 |
0.0068 |
Gwastraff gwyrdd (gwair ac ati) (a) |
Ddim ar gael |
0.0046 |
Gwastraff bwyd (prosesu bwyd) (1) |
Ddim ar gael |
0.0051 |
Slyri gwartheg (a) |
0.10 |
0.0052 |
Slyri moch (a) |
0.06 |
0.0048 |
Tail solet gwartheg (b) |
0.25 |
0.0052 |
Tail solet moch (b) |
0.25 |
0.0060 |
Tail dofednod (b) |
0.50 |
0.0175 |
Silwair india-corn (a) |
0.35 |
0.0046 |
Silwair (a) |
0.35 |
0.0094 |
Gwellt (a) |
0.86 |
0.0051 |