Darparu’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol drwy natur

Gall dealltwriaeth dysgwyr o dechnoleg ddigidol gael ei defnyddio i wella’r broses o ddysgu a deall gan fynd â dyfeisiau symudol allan i’r amgylchedd naturiol. Gan fod dyfeisiau symudol yn gludadwy a chyfleus, maen nhw’n caniatáu i ni gofnodi arsylwadau, casglu data ac esbonio prosesau a chysyniadau naturiol mewn ffordd greadigol.

Bydd yr holl weithgareddau a gemau’n eich helpu chi i gyflawni yn unol â’r cwricwlwm presennol a bydd yn galluogi dysgwyr i wneud cynnydd yn y modd sy’n cael ei ddisgrifio ym mhedwar diben y Cwricwlwm i Gymru.

Ymgyrchu dros natur: Rhedeg ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol

Bydd dysgwyr yn gweithio fel arbenigwyr y cyfryngau cymdeithasol yn y cynllun gweithgaredd hwn. Gofynnir iddynt gynllunio, paratoi ac o bosib rhedeg ymgyrch ar gyfryngau cymdeithasol i godi ymwybyddiaeth o fater neu bwnc amgylcheddol drwy lwyfannau cyfryngau cymdeithasol eu lleoliad.

Cynllun gweithgaredd – Ymgyrchu dros natur: Rhedeg ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol
Taflen waith – Ymgyrchu dros natur: Rhedeg ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol
Cyflwyniad PowerPoint ­- Ymgyrchu dros fyd natur:­ Rhedeg ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol

Flogio dros natur - Creu flog amgylcheddol 

Mae'r gweithgaredd hwn yn rhoi cyfle i ddysgwyr ddod yn 'ddylanwadwyr natur', gan greu flog amgylcheddol i rannu eu syniadau ar bwnc amgylcheddol penodol, i alw ar eraill i weithredu neu i ddogfennu newidiadau ym myd natur.

Cynllun gweithgaredd - Creu flog amgylcheddol: a fyddai eich dysgwyr yn hoffi bod yn ddylanwadwyr natur?

Hyrwyddwyr natur

Mewn egwyddor, a ddylai ardal werthfawr leol o amgylchedd naturiol gael ei datblygu i fod yn ganolfan siopau manwerthu? Neu a ddylai gael ei diogelu er mwyn i genedlaethau'r dyfodol gael ei mwynhau ac i fywyd gwyllt gael ffynnu? Bydd y gweithgaredd hwn ar gyfer yr ystafell ddosbarth yn arfogi dysgwyr i ddod yn hyrwyddwyr natur, gan ymchwilio ar-lein i hanes ac arwyddocâd ardal naturiol leol cyn cyflwyno eu canfyddiadau gan ddefnyddio iaith berswadiol.

Cynllun gweithgaredd – Hyrwyddwyr natur
Cerdyn adnodd -­ Llythyr hyrwyddwyr natur

Animeiddio natur drwy animeiddio stop-symud

Mae'r gweithgaredd hwn yn rhoi cyfle i ddysgwyr droi’n addysgwyr, gan greu animeiddiad byr i esbonio proses neu gylch bywyd naturiol. Bydd ein cynllun gweithgaredd yn dangos y broses animeiddio gam wrth gam i chi.

Cynllun gweithgaredd – Animeiddio natur drwy animeiddio stop-symud

Ymchwilio a dadansoddi newidiadau i boblogaethau adar yng Nghymru

Yn ogystal ag ymchwilio i ba rywogaethau adar sy’n ymweld â'r tir o’u cwmpas, mae'r gweithgaredd hwn yn annog dysgwyr i ystyried y ffactorau dynol ac amgylcheddol sy'n effeithio ar boblogaethau adar. Drwy ddadansoddi data ar boblogaethau adar, gellir gwneud casgliadau ynghylch a yw poblogaethau unigol yn lleihau neu'n cynyddu.

Cynllun gweithgaredd - Ymchwilio a dadansoddi newidiadau i boblogaethau adar yng Nghymru
Cardiau adnoddau - Ymchwilio a dadansoddi newidiadau i boblogaethau adar yng Nghymru

Cysylltwch â ni 

Os na allwch ddod o hyd i’r hyn rydych chi’n chwilio amdano neu os hoffech gael unrhyw help neu wybodaeth, cysylltwch â ni:

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf