Miri Mes
Mae arian wir yn tyfu ar goed!
Noder os gwelwch yn dda nad yw ymgyrch Miri Mes yn rhedeg yn 2020 oherwydd cyfyngiadau Covid-19.

Casglwch hadau o goed i godi arian i’ch grŵp addysg
Bob blwyddyn rydym yn cynnal ein hymgyrch Miri Mes er mwyn amlygu pwysigrwydd casglu hadau a helpu i dyfu rhagor o goed o hadau sydd wedi’u casglu’n lleol.
Bydd y mes a gesglir yn ein helpu i dyfu coed brodorol o hadau o stoc goed iach, lleol, ac annog dysgwyr mawr a bach i fynd allan yn yr awyr iach yn yr hydref a chysylltu ag amgylchedd naturiol arbennig Cymru.
Tyfu coed o hadau – Ymgyrch Mes
Mae'r cyflwyniad hwn yn amlygu sut mae mes yn cael eu tyfu o hadau i goeden mewn meithrinfa goed. Mae mes yn ddarfodus iawn, felly gyda miloedd o fes i blannu, mae'n ras yn erbyn amser i'w cael yn y ddaear.
Tyfu coed o hadau – Ymgyrch Mes (cyflwyniad PowerPoint).
Sut ydw i’n cymryd rhan ym Miri Mes?
Mae croeso i grwpiau addysg yng Nghymru neu unrhyw un sy’n codi arian ar gyfer grwp addysg Cymraeg lleol gymryd rhan.
I gael eich ychwanegu i ein rhestr e-bost Miri Mes neu i dderbyn pecyn cofestru e-bostiwch ni ar addysg@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk