Os yw llifogydd ar fin digwydd, gwnewch y pethau hyn ar unwaith:
- os oes gennych chi gynllun llifogydd, dilynwch y camau sydd arno
- gwrandewch ar eich gorsaf radio leol ar radio a bwerir gan fatris neu radio weindio
- diffoddwch y trydan / nwy
- symudwch gerbydau os yw’n ddiogel gwneud hynny
- symudwch ddodrefn, anifeiliaid anwes ac eitemau pwysig i le diogel
Cysylltwch â Floodline am wybodaeth am lifogydd
- Ffôn: 0345 988 1188
- Gwasanaeth 24 awr
- Gwybodaeth am am gostau galwadau ar Gov.uk
Byddwch yn ymwybodol o lifogydd lleol
Mae 'llifogydd lleol' hefyd yn cael eu galw’n 'llifogydd dŵr wyneb'. Mae hyn yn digwydd fel arfer pan nad yw systemau draenio yn gallu delio â chyfnodau o law trwm. Nid ydyn ni’n gallu rhoi rhybudd uniongyrchol i chi am y math hwn o lifogydd.
Gallwch gael gwybod am y posibilrwydd o ‘lifogydd dŵr wyneb’ yn eich ardal drwy edrych ar y rhagolygon tywydd lleol.
Mae llifddwr yn beryglus
- Gall chwe modfedd o ddŵr sy’n llifo’n gyflym eich gwthio drosodd
- Bydd dwy droedfedd o ddŵr yn gwneud i’ch car arnofio
- Gall llifogydd ryddhau cloriau tyllau archwilio, gan greu peryglon cudd
- Peidiwch â cherdded neu yrru cerbyd trwy lifddwr
- Peidiwch â gadael i blant chwarae mewn llifddwr
- Peidiwch â cherdded ar amddiffynfeydd môr neu lannau afonydd
- Pan fydd lefelau dŵr yn uchel, cofiwch y gall pontydd fod yn beryglus i gerdded neu yrru drostyn nhw
- Mae cwlferi yn beryglus adeg llifogydd
- Cadwch lygad am beryglon eraill fel llinellau trydan a choed sydd wedi cwympo
- Golchwch eich dwylo’n lân os byddwch yn cyffwrdd â llifddwr gan y gall fod wedi’i halogi
Beth i’w wneud ar ôl llifogydd
Gwiriwch a yw’n ddiogel i chi ddychwelyd i’ch cartref
- Byddwch yn ofalus, mae’n bosib bod peryglon cudd yn nŵr y llifogydd, fel pethau miniog, cloriau wedi’u codi oddi ar dyllau archwilio a llygredd
- Mae’n bosib y bydd dŵr y llifogydd wedi achosi niwed saernïol i’ch eiddo
Cofiwch: Gall llifddwr gynnwys carthion, cemegion a charthion anifeiliaid.
Ffoniwch eich cwmni yswiriant adeiladau a chynnwys cyn gynted â phosibl
- Fel arfer, bydd y cwmni yswiriant yn anfon aseswr colledion i edrych ar eich eiddo. Byddan nhw’n cadarnhau pa waith trwsio a chyfnewid y mae ei angen ac sydd wedi’i gynnwys yn eich polisi. Gofynnwch a ydyn nhw’n barod i helpu i dalu am waith trwsio a fydd yn lleihau’r difrod posib gan lifogydd yn y dyfodol ac a fydd felly’n lleihau’r costau os yw’n digwydd eto
- Os ydych chi’n rhentu eich eiddo, cysylltwch â’ch landlord a’ch cwmni yswiriant cynnwys cyn gynted ag sy’n bosib
- Os nad oes gennych chi yswiriant, dylai eich cyngor lleol allu rhoi gwybodaeth i chi am y grantiau caledi neu’r elusennau a allai’ch helpu chi