Osgowch y tyrfaoedd – dewiswch rywle tawel i ymweld ag ef. Meddyliwch am ‘gynllun B’ rhag ofn y bydd eich cyrchfan yn rhy brysur pan fyddwch yn cyrraedd yno
Parciwch yn gyfrifol – parchwch y gymuned leol drwy ddefnyddio meysydd parcio. Peidiwch â pharcio ar ymyl y ffordd neu rwystro llwybrau mynediad brys
Dilynwch ganllawiau – ufuddhewch i arwyddion yn y safle a chamau diogelwch Covid 19 er mwyn mwynhau eich ymweliad yn ddiogel
Ewch â’ch sbwriel adref gyda chi – diogelwch fywyd gwyllt a’r amgylchedd drwy beidio â gadael unrhyw olion o’ch ymweliad
Dilynwch y Cod Cefn Gwlad – cadwch at lwybrau, gadewch giatiau fel yr oeddent, cadwch gŵn dan reolaeth, rhowch faw ci mewn bag a’i roi yn y bin
Gwiriwch beth sydd ar agor neu ar gau
Mae'r meysydd parcio, y llwybrau, yr ardaloedd chwarae a’r toiledau ym mwyafrif ein coetiroedd a'n gwarchodfeydd natur ar agor
Mae'r rhan fwyaf o'r cyfleusterau y tu mewn i'n canolfannau ymwelwyr ar agor
Efallai y bydd rhai llwybrau neu gyfleusterau eraill ar gau ar gyfer cynnal a chadw