Deg lle arbennig ger y môr
Y deg lle gorau ar arfordir Cymru i chi eu harchwilio
Croeso Cymru
O dwyni tywod enfawr i unig Barth Cadwraeth Morol Cymru, rydym ni’n gofalu am lawer o lecynnau arbennig iawn ar hyd yr arfordir.
Mae gan bob un ddigon o le i ymwelwyr ifanc redeg yn rhydd a dod yn nes at natur.
Mae gan eraill gyfleusterau delfrydol i deuluoedd fel llwybrau seiclo hawdd a llwybrau cerdded sy’n ddelfrydol ar gyfer gwthio pramiau.
Darllenwch ymlaen i gael ein cynghorion gorau am ble i fynd i gael diwrnod gyda’r teulu yn ein Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol a choedwigoedd ar lan y môr.
Mae ein Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol a choedwigoedd ar lan y môr yn llefydd gwych i ddod yn nes at natur.
Maen nhw’n gartref i bob math o fywyd gwyllt, o adar i drychfilod, planhigion i ffyngau, a morloi i wiwerod coch.
Rydym ni wedi dewis deg lleoliad arbennig sydd yn ei gofal o gwmpas arfordir Cymru ble allwch chi fynd i’w darganfod.
Mae paneli gwybodaeth ar gael ymhob lleoliad er mwyn i chi wybod beth ddylech chi fod yn chwilio amdano wrth i chi anturio.
Gall coesau bach flino’n hawdd, ond mae ein llwybrau cerdded byrrach yn berffaith i ymwelwyr iau.
Mae rhai o’n llwybrau cerdded yn dilyn rhodfeydd llydan a gwastad sy’n gyfeillgar i goetshys ac yn addas ar gyfer cadeiriau olwynion.
Dyma’n dewis ni o leoliadau ger y môr â llwybrau cerdded delfrydol i deuluoedd.
Os ydych chi’n chwilio am daith gerdded sy’n cynnig mwy o her, mae pedwar llwybr hir Cymru’n mynd â chi drwy rannau gwahanol o’r arfordir syfrdanol, neu’n agos ato, a gellir mwynhau pob un o’r llwybrau damaid ar y tro.
Allai hi ddim â bod yn haws mynd â’r plant i seiclo yn un o’n coedwigoedd, diolch i’n llwybrau beicio ag arwyddbyst.
Dewch i archwilio’r awyr agored ar ddwy olwyn yn y ddwy goedwig yma ble ceir llwybrau seiclo teulu-gyfeillgar ar lan y dŵr.
Gan Gymru y mae’r ansawdd dŵr ymdrochi gorau yn y DU ac enillodd nifer o’n traethau wobrau fel Baneri Glas, Gwobrau Arfordir Gwyrdd a Gwobrau Glan-môr.
Ni yw un o ddarparwyr cyfleusterau hamdden awyr agored mwyaf Cymru, ac mae gennym lawer mwy o leoliadau teulu-gyfeillgar y gallwch chi eu mwynhau.
Lleolir cannoedd o’n llwybrau cerdded, llwybrau beicio mynydd o safon ryngwladol, canolfannau ymwelwyr a lleoliadau picnic mewn coedwigoedd a Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol mewn safleoedd gyda’r harddaf yn y wlad.
Ewch i’n prif dudalen am ddyddiau allan gyda’r teulu neu ewch i'n tudalen Taflenni ar gyfer ymwelwyr i lawrlwythwo copi o un o’n taflenni rhanbarthol.