Parc Coedwig Gwydir - Hafna, ger Llanrwst

Beth sydd yma

Croeso

Lleolir maes parcio Hafna ger hen bwll plwm Hafna.

Mae’n anodd dychmygu y bu’r goedwig dawel hon yn llawn bwrlwm mwyngloddio ar un adeg.

Darganfyddwch treftadaeth fwyngloddio gyfoethog yr ardal ar y llwybr hwn sy’n dolennu drwy nifer o fwyngloddiau, a phob un â’i hanes ei hun.

Mae llwybr beicio mynydd gradd goch yn dechrau yma hefyd.

Llwybr cerdded

Mae arwyddbyst ar y llwybr cerdded o’r dechrau i’r diwedd.

Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.

Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.

Llwybr Mwynwyr Hafna

  • Gradd: Cymedrol
  • Pellter: 2¼ filltir/3.6 chilomedr
  • Amser: 1½-2 awr 
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae’r rhan fwyaf o’r llwybr hwn ar ffyrdd coedwig a gysylltir drwy lwybrau cul garw o lai na 70 cm o led mewn rhai mannau, sy’n arw ac anwastad dan droed, a gallwch ddisgwyl mwd, creigiau a gwreiddiau coed. Mae nifer o risiau serth ar y llwybr, rhai â chanllawiau ac eraill hebddynt, ac un gamfa i’w chroesi ar ben Mwynglawdd Hafna.

Dechreuwch yn y maes parcio islaw adfeilion Mwynglawdd Hafna.

Mae’r goedwig wedi dechrau meddiannu olion y mwynglawdd ond eto, os edrychwch o gwmpas yr adfeilion, gallwch ddychmygu’r llafurio a ddigwyddai yma ar un adeg.

Llwybrwch ar draws y llechweddau llawn o goedwigoedd, heibio siafftiau cloddfa dwfn, capiog ac olion adeiladau mwynglawdd a adawyd ers amser maith.

Gwrandewch ar hanes y mwynwyr Gwydir ar ein llwybr sain mp3.

Llwybr beicio mynydd

Mae arwyddbyst i’w cael ar bob un o’n llwybrau beicio mynydd o’r dechrau i’r diwedd ac maent wedi’u graddio’n ôl eu hanhawster.

Ceir panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr – dylech ei ddarllen cyn cychwyn ar eich taith.

Gwydir Mawr

  • Gradd: Coch/Anodd
  • Pellter: 24.8 cilomedr
  • Cyfanswm y dringo: 800 medr
  • Amser: 2-4 awr

Mae Gwydir Mawr yn un o’r llwybrau beicio mynydd gwreiddiol, ac mae’n glasur go iawn!

Mae’r dringfeydd mawr, disgynfeydd mawr, trac sengl gwych a golygfeydd godidog yn ei wneud yn llwybr i’w gofi o.

Nawr yn cynnwys adran dau gilomedr newydd sbon gyda chymysgedd o lwybr traddodiadol cloddiwyd â llaw a nodweddion llwybr llif modern.

Gallwch ddechrau Gwydir Mawr o faes parcio Mainc Lifio hefyd.

Parc Coedwig Gwydir

Mae Hafna ym Mharc Coedwig Gwydir.

Lleolir Parc Coedwig Gwydir yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri ac mae'n amgylchynu pentref Betws-y-coed.

Gwaith cloddio plwm a sinc oedd prif nodwedd yr ardal ac mae gwaddol hen dai peiriant, tomenni sbwriel a chronfeydd dŵr yn nodweddiadol o'r goedwig a geir heddiw.

Mae sawl un o'r mwyngloddiau pwysicaf wedi cael eu hadfer yn rhannol a'u gwneud yn ddiogel i ymwelwyr.

Mae llwybrau ag arwyddbyst yn dechrau o Fetws-y-coed a sawl feysydd parcio eraill Cyfoeth Naturiol Cymru:

  • Betws-y-coed - llwybrau cerdded heddychlon drwy'r goedwig ymhell o fwrlwm twristiaid
  • Cae'n y Coed - ardal bicnic hawdd dod o hyd iddi a llwybr cerdded gyda golygfeydd panoramig o'r mynyddoedd
  • Mwynglawdd Cyffty - llwybr byr trwy rai o hen waith plwm
  • Dolwyddelan - llwybr cerdded ar hyd ffordd Rufeinig a llwybr beicio gyda golygfeydd o'r mynyddoedd cyfagos
  • Llyn Crafnant - llwybrau cerdded o amgylch y llyn a llwybr hygyrch ar hyd glan yr afon
  • Llyn Geirionydd - ardal picnic gyda llwybr cerdded heibio i ddau lyn prydferth
  • Llyn Sarnau - safle picnic â llwybr cerdded i ddau lyn trawiadol
  • Penmachno - llwybrau beicio mynydd anghysbell gyda golygfeydd ysblennydd
  • Mainc Lifio - dau lwybr beicio mynydd gradd coch a llwybr cerdded hanesyddol
  • Ty’n Llwyn – llwybr cerdded i raeadr enwog Ewynnol

Coedwig Genedlaethol Cymru

Mae Parc Coedwig Gwydir yn rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.

Bydd y Goedwig Genedlaethol yn:

  • creu ardaloedd o goetir newydd
  • gwella coetiroedd presennol
  • adfer coetiroedd hynafol unigryw Cymru

Bydd yn ffurfio rhwydwaith ecolegol cydgysylltiedig a fydd yn rhedeg ledled Cymru, gan gynnig buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

Bydd rhannau o’r rhwydwaith yn y pen draw yn ffurfio llwybr a fydd yn rhedeg ar hyd a lled Cymru, felly bydd modd i unrhyw un ei gyrraedd ble bynnag maen nhw’n byw.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Coedwig Genedlaethol Cymru.

Ymweld yn ddiogel

Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad yma.

Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.

Sylwer:

  • Cwympiadau diamddiffyn a hen adeiladau - arhoswch ar y llwybr cyfeirbwyntiau.

Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.

Newidiadau i gyfleusterau ymwelwyr

Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau cyfleusterau neu unrhyw newidiadau eraill i gyfleusterau ymwelwyr yma.

Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.

Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.

Mewn tywydd eithafol, mae'n bosibl y byddwn yn cau cyfleusterau ar fyr rybudd oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr a staff.

Sut i gyrraedd yma

Mae Hafna 1½ milltir i'r de orllewin o Lanrwst.

Cod post

Y cod post yw LL27 0JB.

Sylwer: efallai na fydd y cod post hwn yn eich arwain at y maes parcio os byddwch yn defnyddio sat nav neu ap llywio.

Rydym yn awgrymu eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau isod neu’n defnyddio’r Google map ar y dudalen hon lle ceir pin ar safle’r maes parcio.

Cyfarwyddiadau

Cymerwch y B5106 o Lanrwst tuag at Fetws-y-coed.

Ar ôl troi i’r chwith wrth yr arwydd brown a gwyn ar gyfer Castell Gwydir, trowch i’r dde yn syth ar is-ffordd.

Ewch heibio i faes parcio’r Sawbench, parhewch am tua milltir a bydd maes parcio Hafna ar y dde i chi.

What3Words

Edrychwch ar y lle hwn ar wefan What3Words.

Arolwg Ordnans

Y cyfeirnod grid Arolwg Ordnans ar gyfer y maes parcio yw SH 781 600 (Explorer Map OL 17).

Cludiant cyhoeddus

Y prif orsaf reilffordd agosaf yw Llanrwst.

Er mwyn cael manylion ynghylch cludiant cyhoeddus, ewch i wefan Traveline Cymru.

Parcio

Mae’r maes parcio yn rhad ac am ddim.

Ni chaniateir parcio dros nos.

Manylion cyswllt

Nid oes staff yn y lleoliad hwn.

Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Mannau eraill yng Gogledd Orllewin Cymru

Diweddarwyd ddiwethaf