Parc Coedwig Gwydir - Betws-y-coed

Beth sydd yma

Mae’r cwrs cyfeiriannu ar gau.

 

Mae Taith Llyn Elsi ar gau oherwydd difrod i bont.

Croeso

Mae Parc Coedwig Gwydir yn amgylchynu Betws-y-coed, un o bentrefi harddaf Parc Cenedlaethol Eryri.

Mae ein llwybrau cerdded sydd wedi’u marcio, yn cychwyn o’r pentref ac yn cynnwys llwybr beicio hawdd, dringfeydd serth i fyny bryniau coediog sydd â golygfeydd pellgyrhaeddol, a theithiau cerdded o amgylch llynnoedd prydferth.

Edrychwch ar ein paneli gwybodaeth ym maes parcio Pont y Pair neu prynwch ganllaw cerdded o Ganolfan Wybodaeth Parc Cenedlaethol Eryri.

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy sy’n gofalu am y toiledau cyhoeddus ym maes parcio Pont y Pair a chodir tâl am eu defnyddio.

Mae’r llwybr cyfeiriannu parhaeol yn dechrau yn agos at Fetws-y-coed ac yn gorffen yng nghanol y pentref.

Llwybrau cerdded

Mae arwyddbyst ar y llwybrau cerdded o’r dechrau i’r diwedd.

Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybrau.

Mae’r llwybrau cerdded yn cychwyn o faes parcio Pont y Pair yng nghanol Betws-y-coed (ar wahân i Daith Llyn Elsi sy’n dechrau y tu ôl i Eglwys Santes Fair).

Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.

Llwybr Coed Tan Dinas

  • Gradd: Hawdd
  • Pellter: ¾ milltir/1.2 cilomedr
  • Cyfanswm y dringo: 20 metr
  • Amser: 30 muned
  • Gwybodaeth am y llwbyr: Cychwynnwch y daith gyferbyn â maes parcio Pont y Pair ar hyd llwybr pren, 1.5m o led, sy’n eich tywys yn hamddenol drwy’r coed ffynidwydd Douglas enfawr ochr yn ochr ag Afon Llugwy, nes ichi gyrraedd ardal bicnic wrth ochr yr afon. Mae’r llwybr yn dringo’n raddol drwy’r coed cyn mynd i lawr ac yn ôl ar hyd y llwybr pren i’r maes parcio. 

Cerddwch y daith gerdded hawdd, fer, o dan goed pinwydd Douglas tal a mawreddog, a rhai ohonynt hyd at 100 mlwydd oed.

Dewch o hyd i’r arwyddion ar hyd y llwybr i ddysgu ffeithiau am y coed.

Gallwch hefyd gasglu taflen ar ddechrau’r llwybr ar gyfer y Llwybr Darganfod Anifeiliaid neu llwythwch gopi i lawr o waelod y dudalen hon.

Taith Cyrau

  • Gradd: Anodd
  • Pellter: 1½ milltir/2.5 cilomedr
  • Cyfanswm y dringo: 135 medr
  • Amser: 1½ awr
  • Gwybodaeth am y llwbyr: Mae Taith Cyrau yn cychwyn o faes parcio Pont y Pair. Cylch o lwybr yw hwn ar gyfuniad o ffyrdd coedwig a llwybr troed cul serth, o lai na 50cm o led mewn mannau, sy’n arw ac anwastad dan droed, lle gallwch ddisgwyl mwd, creigiau a gwreiddiau coed. Mae nifer o olygfannau ymyl clogwyn heb eu ffensio, ac arwyddbyst ar eu cyfer. Mae’r llwybr byr hwn yn esgyn a disgyn yn serth mewn mannau, gan olygu bod y daith hon yn ffordd wych o ymarfer eich coesau a’ch ysgyfaint. Nid oes meinciau o gwbl ar y llwybr.

Troi cefn ar fwrlwm Betws-y-coed ar y daith gerdded hon gyda golygfa drawiadol dros y dref ar ôl dilyn llwybr troellog drwy binwydd Douglas mawreddog.

Er eich bod ymhell uwchlaw’r dref, gallwch glywed ceir yn mynd heibio islaw weithiau.

Ddegawdau lawer yn ôl, buasai’r sŵn yn y cefndir yn wahanol iawn: clecian y gwaith o’r mwyngloddiau cyfagos achos roedd mwyngloddio’n ddiwydiant mawr yn yr ardal hon.

Llwybr Pen yr Allt

  • Gradd: Anodd
  • Pellter: 4½ milltir/7.1 cilomedr
  • Cyfanswm y dringo: 357 medr
  • Amser: 2-3 awr
  • Gwybodaeth am y llwbyr: Mae Llwybr Pen yr Allt yn cychwyn o faes parcio Pont y Pair. Llwybr cylchol yw hwn sy’n dilyn cyfres o ffyrdd coedwig a llwybrau troed cul serth, rhwng 70cm ac 1m o led, sy’n arw ac anwastad dan droed, lle gallwch ddisgwyl mwd, creigiau a gwreiddiau coed. Mae nifer o risiau ar i lawr ac wrth ddringo, nifer o gamfeydd a dwy giât mochyn. Mae dwy fainc ar y llwybr sy’n rhoi cyfle ichi ddal eich anadl ar y daith gerdded hon o fynydd bychan.

O fynyddoedd i afonydd a dolydd - darganfyddwch y daith gerdded hon sy’n llawn amrywiaeth.

O goedwig binwydd gysgodol, dolydd uwchdir, mwyngloddiau segur, llwybr pen dyfnant a darn ar hyd yr afon, i olygfeydd syfrdanol o Foel Siabod, mae gan y daith gerdded hon rywbeth at ddant pawb.

Mae'n dychwelyd ar hyd afon Llugwy (os bydd wedi bwrw glaw cryn dipyn, gall yr afon orlifo fan hyn a dylech ddilyn y gwyriad).

Taith Llyn Parc

  • Gradd: Anodd
  • Pellter: 6½ milltir/10.6 cilomedr
  • Cyfanswm y dringo: 500 medr
  • Amser: 3-5 awr
  • Gwybodaeth am y llwbyr: Mae Taith Llyn Parc yn cychwyn o faes parcio Pont y Pair. Mae’r llwybr yn dilyn cyfuniad o ffyrdd coedwig, a llwybrau cul serth sy’n llai na 80cm o led mewn mannau, ar dir diwyneb ac anwastad, lle gallwch ddisgwyl ddod ar draws mwd, creigiau a gwreiddiau coed. Ceir mainc ym mhen deheuol Llyn Parc, mainc a mainc picnic yn y Lawnt Fowlio, a mainc ger cerflun Oak Towers.

Mwynhau golygfeydd o’r llyn, golygfa dros Lanrwst, ac ychydig o waith celf coedwig.

Dilynwch y cyfeirbwyntiau melyn ar lwybr sy’n esgyn yn raddol i Lyn Parc.

Parhewch ar hyd ffordd goedwig sy’n mynd â chi’n uchel uwchben Dyffryn Conwy gyda golygfeydd hardd tuag at dref Llanrwst.

Mae’r siwrnai ddychwelyd yn dolennu ar hyd glan Llyn Parc, sef llyn naturiol a gafodd ei gronni i bweru peiriannau mwyngloddio yng ngheunant Aberllyn.

Oddi yma dilynwch y dŵr i lawr drwy’r ceunant, heibio nifer o fynedfeydd mwynglawdd ac yn ôl i fwrlwm Betws-y-coed. 

Taith Llyn Elsi

  • Gradd: Anodd
  • Pellter: 4 milltir/6.2 cilomedr
  • Cyfanswm y dringo: 230 metr
  • Amser: 2-3 awr
  • Gwybodaeth am y llwbyr: Mae Taith Llyn Elsi yn dechrau ar y ffordd goedwig y tu ôl i Eglwys Santes Fair ym Metws-y-coed. Mae’r llwybr yn esgyn ac yn disgyn yn serth o Fetws ac yn dilyn cyfuniad o yrdd coedwig a llwybrau troed culach, llai na 100cm o led mewn rhai mannau, sy’n arw ac anwastad dan droed, lle gallwch ddisgwyl mwd, creigiau a gwreiddiau coed. Ceir llawer o feinciau a chlwydi ar y ddringfa serth o Fetws-y-coed, ac mae llawer o feinciau i’w cael o gwmpas y llyn.

Gadael bwrlwm Betws-y-coed I ddarganfod llyn llonydd a golygfeydd prydferth.

Mae’n werth dringo o Fetws-y-coed i fwynhau’r olygfa, y bywyd gwyllt a’r tawelwch wrth i chi gerdded o amgylch Llyn Elsi.

Dilynwch y llwybr o gwmpas y llyn wrth iddo dorri i mewn ac allan o ymyl y dŵr nes ichi ymuno â’r prif lwybr i olrhain eich camau yn ôl i Fetws-y-coed.

Llwybr cyfeiriannu 

Profwch eich sgiliau darllen map drwy lywio rhwng y cyfeirbyst pren ar ein llwybr cyfeiriannu parhaol ym Mharc Coedwig Gwydir.

Mae’r Llwybr Oren wedi’i raddio yn ôl safonau Ffederasiwn Cyfeiriannu Prydain a’i gynllunio gan Gyfeirianwyr Eryri.

Mae’r llwybr yn dechrau yn agos at Fetws-y-coed ac yn gorffen yng nghanol y pentref.

I gyrraedd y dechrau, dilynwch y ffordd fechan (Ffordd Craiglan) sy’n rhedeg ochr yn ochr â siop Cotswolds Outdoor (Arfon House) allan o Fetws-y-coed. Ar ôl rhyw 150 metr mae arosfan ar y chwith (cyfeirnod grid OS SH 795 559) – edrychwch am arwydd cyfeiriannu ar ochr y ffordd.

Llwybr Oren

  • Gradd: Cymedrol
  • Ar gyfer: Dechreuwyr sy’n gallu deall map.
  • Pellter: 2.1 cilometr

Mae’r Llwybr Oren yn gymedrol o ran her llywio ac mae 10 cyrchbost.

Sut i ddilyn y llwybrau cyfeiriannu

  • Lawrlwythwch y mapiau ac argraffu gartref neu prynwch fersiwn maint A3 o’r map, wedi’i argraffu ar bapur gwrth-ddŵr ar raddfa o 1:7,500, o Ganolfan Wybodaeth Betws neu siop Cotswolds Outdoor
  • Dewiswch eich llwybr a chanfod eich ffordd rhwng pob “cyrchbost” (arwyddbyst pren)
  • Cewch gwblhau’r llwybr yn eich amser eich hun
  • Gwiriwch eich atebion gyda’r daflen atebion a geir gyda’ch map neu lawrlwythwch o’r dudalen

Parc Coedwig Gwydir

Lleolir Parc Coedwig Gwydir yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri ac mae'n amgylchynu pentref Betws-y-coed.

Gwaith cloddio plwm a sinc oedd prif nodwedd yr ardal ac mae gwaddol hen dai peiriant, tomenni sbwriel a chronfeydd dŵr yn nodweddiadol o'r goedwig a geir heddiw.

Mae sawl un o'r mwyngloddiau pwysicaf wedi cael eu hadfer yn rhannol a'u gwneud yn ddiogel i ymwelwyr.

Yn ogystal â’r llwybrau sy’n dechrau o Fetws-y-coed mae llwybrau ag arwyddbyst yn dechrau o sawl feysydd parcio Cyfoeth Naturiol Cymru:

  • Cae'n y Coed - ardal bicnic hawdd dod o hyd iddi a llwybr cerdded gyda golygfeydd panoramig o'r mynyddoedd
  • Mwynglawdd Cyffty - llwybr byr trwy rai o hen waith plwm
  • Dolwyddelan - llwybr cerdded ar hyd ffordd Rufeinig a llwybr beicio gyda golygfeydd o'r mynyddoedd cyfagos
  • Hafna - llwybr cerdded drwy adfeilion hen waith plwm a llwybr beicio mynydd gradd coch
  • Llyn Crafnant - llwybrau cerdded o amgylch y llyn a llwybr hygyrch ar hyd glan yr afon
  • Llyn Geirionydd - ardal picnic gyda llwybr cerdded heibio i ddau lyn prydferth
  • Llyn Sarnau - safle picnic â llwybr cerdded i ddau lyn trawiadol
  • Penmachno - llwybrau beicio mynydd anghysbell gyda golygfeydd ysblennydd
  • Sawbench - dau lwybr beicio mynydd gradd coch a llwybr cerdded hanesyddol
  • Ty’n Llwyn – llwybr cerdded i raeadr enwog Ewynnol

Coedwig Genedlaethol Cymru

Mae Parc Coedwig Gwydir yn rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.

Bydd y Goedwig Genedlaethol yn:

  • creu ardaloedd o goetir newydd
  • gwella coetiroedd presennol
  • adfer coetiroedd hynafol unigryw Cymru

Bydd yn ffurfio rhwydwaith ecolegol cydgysylltiedig a fydd yn rhedeg ledled Cymru, gan gynnig buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

Bydd rhannau o’r rhwydwaith yn y pen draw yn ffurfio llwybr a fydd yn rhedeg ar hyd a lled Cymru, felly bydd modd i unrhyw un ei gyrraedd ble bynnag maen nhw’n byw.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Coedwig Genedlaethol Cymru.

Ymweld yn ddiogel

Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad yma.

Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.

Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.

Newidiadau i lwybrau

Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau'r llwybrau neu unrhyw newidiadau eraill iddynt yma.

Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.

Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.

Mewn tywydd eithafol, mae'n bosibl y byddwn yn cau cyfleusterau ar fyr rybudd oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr a staff.

Sut i gyrraedd yma

Lleoliad

Mae Betws-y-coed wrth gyffordd yr A5 a'r A470.  

Mae yn Sir Conwy.

Map yr Arolwg Ordnans

Mae Betws-y-Coed ar fap Arolwg Ordnans (OS) Explorer OL 17.

Cyfeirnod grid yr OS yw SH 791 567 (maes parcio Pont y Pair).

Cyfarwyddiadau

Mae’r llwybrau cerdded yn cychwyn o faes parcio Pont y Pair ym Metws-y-coed (ac eithrio Taith Llyn Elsi).

Dilynwch yr A5 drwy ganol pentref Betws-y-coed a throi i'r B5106 gan ddilyn arwyddion Trefriw.

Croeswch bont garreg a throi ar unwaith i'r chwith i ffordd fach ac ymhen 50 metr bydd maes parcio Pont y Pair ar y dde.

Mae Taith Llyn Elsi yn cychwyn y tu ôl i Eglwys y Santes Fair yng nghanol Betws-y-coed, sef pum munud o waith cerdded o faes parcio Pont y Pair.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Y prif orsaf rheilffyrdd agosaf yw Betws-y-coed.

Er mwyn cael manylion cludiant cyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.

Maes parcio

Caiff maes parcio Pont y Pair ei redeg gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

Codir tâl am barcio.

Manylion cyswllt

Nid oes staff yn y lleoliad hwn.

Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Mannau eraill yng Gogledd Orllewin Cymru

Diweddarwyd ddiwethaf