Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy ddal ati i bori neu drwy glicio, “Parhau” byddwch yn cytuno i storio cwcis parti cyntaf a thrydydd partïon ar eich dyfais i wella’r broses o lywio’r safle, dadansoddi’r defnydd o’r safle, a chynorthwyo yn ein hymdrechion marchnata. Polisi cwcis.

Ystad yr Hafod, ger Aberystwyth

Tirlun hanesyddol gyda llwybrau cerdded, rhaeadrau a golygfeydd dramatig

Person yn edrych ar raeadr, Hafod

Beth sydd yma

Cŵn
Parcio
Parcio (hygyrch)
Picnic
Toiledau
Llwybr cerdded
Mae ogof Lefel Lampwll (yr eir ati oddi ar Rodfa'r Bonheddwr) ar gau am resymau diogelwch. Rydym yn cydweithio ag Ymddiriedolaeth yr Hafod i ganfod sut y gallwn fynd ati yn ofalus i atgyweirio’r nodwedd hon a warchodir. Bydd yr ogof yn cael ei hailagor i’r cyhoedd unwaith y byddwn yn sicr ei bod yn ddiogel.

Croeso

Cynlluniwyd Ystâd yr Hafod ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif gan Thomas Johnes ac yn fuan daeth yn gyrchan hanfodol bwysig i ymwelwyr oedd yn teithio ar hyd Cymru yn chwilio am “natur gwyllt”.

Adeiladodd Johnes dŷ newydd yn y lleoliad anghysbell hwn a chynllunio gerddi yn y steil Pictiwrésg, oedd yn ffasiynol ar y pryd.

Cynlluniodd y llwybrau cerdded er mwyn i ymwelwyr fedru mwynhau’r tirlun fel cyfres o olygfeydd sy’n newid yn gyson.

Heddiw mae’r plasty wedi mynd, a Hafod yn gorwedd o fewn coedwig weithiol.

Rydym yn rheoli’r ystâd gydag Ymddiriedolaeth yr Hafod i warchod ac adfer y dirwedd hanesyddol, a darparu mynediad i ymwelwyr fwynhau’r llwybrau a grëwyd gan Johnes.

Mae’r llwybrau cerdded yn ymlwybro ar hyd tirwedd sy’n amrywio’n eang o ran natur, o barcdir pori a gwahanol fathau o goetir i geunant yr Afon Ystwyth gyda’i bontydd a’i rhaeadrau  (mae’r rhain yn arbennig o ddramatig ar ôl tywydd gwlyb).

Dysgwch fwy am Ystâd yr Hafod

Mae The Hafod Landscape: an illustrated history and guide gan Jennifer Macve ar gael o siopau lleol neu o  wefan Ymddiriedolaeth yr Hafod.

Mae’r llyfryn hwn yn cynnwys hanes yr ystâd, ei phwysigrwydd i’r steil Pictiwrésg, y gwaith adfer  diweddar, a disgrifiadau manwl o’r llwybrau cerdded.

Ymweld â Ystâd yr Hafod

Ceir yna pum llwybr cerdded sy’n amrywio o ran hyd a graddfa ac sydd wedi’u harwyddo o’r maes parcio. 

Maent yn cynnwys dau lwybr cylchol clasurol a grëwyd gan Thomas Johnes yn ystod ei flynyddoedd cyntaf yn yr Hafod - Rhodfa’r Bonheddwr sy’n llafurus a Rhodfa’r Foneddiges sy’n rhwyddach.

Mae’r ddau lwybr hanesyddol hyn yn mynd â chi heibio i nodweddion Pictiwrésg fel Lefel Lampwll, Y Bont Wladaidd, Twnnel a Rhaeardr ‘Mossy Seat’.

Hefyd gallwch ymweld â’r eglwys, Eglwys Newydd, adeiladwyd gan Johnes yn 1803 a’r unig adeilad sylweddol sydd wedi goroesi o’r adeg hynny.  Heddiw mae’n gartref i arddangosfa am hanes yr ystâd.

Mae mannau picnic yn y prif faes parcio ac wrth ymyl yr afon ar Rodfa’r Foneddiges, a thoiled cludadwy yn y prif faes parcio.

Llwybrau cerdded

Mae’r llwybrau cerdded wedi’u harwyddo o brif maes parcio'r Hafod.

Darllenwch ddisgrifiadau o’r llwybrau i wneud siŵr eich bod yn dewis taith gerdded sy’n addas i chi.

Sylwer:

  • Nad yw pob llwybr cerdded yn cychwyn yn y maes parcio ac felly mae angen i chi ddilyn rhan o lwybr cerdded arall neu lwybr cyswllt i gyrraedd y man cychwyn
  • Mae’r pellteroedd a roddir isod yn dangos hyd y llwybr a chyfanswm pellter y daith o’r maes parcio ac yn ôl  (ar gyfer y llwybrau hynny nad ydynt yn cychwyn o’r maes parcio)
  • Mae camfeydd, tir serth a grisiau ar yr holl lwybrau cerdded sydd ag arwyddbyst

Taith Cofgolofn Bedford

Uchafbwyntiau: Rhyfeddwch at y golygfeydd dros yr Hafod a thu hwnt o olygfan yr obelisg.

Pellter: 1 milltir/1.6km

Lefel: Canolig

Disgrifiad o’r llwybr cerdded: Y daith gylchol hon yw’r byrraf a’r mwyaf hwylus, o’r maes parcio.  

Mae’n gwneud cylchdaith o grib Cefn Creigiau ac yn osgoi’r ddisgynfa serth i waelod y dyffryn. Nid yw’n un o gylchdeithiau hanesyddol Johnes, ond mae’n arwain at gofgolofn a godwyd yn 1805 i goffáu'r pumed Dug Bedford.

Taith Goed Hafod

Uchafbwyntiau: Edmygwch glychau’r gog a’r eilgorros yn y gwanwyn, a golygfeydd dros yr ystâd i’r bryniau tu hwnt.

Pellter: ¾ milltir/1.2km un ffordd (1 ½/2.4km milltir yno ac yn ôl ar hyd llwybr dychwelyd awgrymedig)

Lefel: Canolig

Disgrifiad o’r llwybr cerdded: Llwybr cerdded cul  (un ffordd) drwy’r goedwig . Mae angen i chi benderfynu ar lwybr dychwelyd drwy ddefnyddio llwybrau eraill neu lonydd eraill yr ystâd (mae llwybr dychwelyd awgrymedig wedi ei farcio ar y map). 

Mae Taith Goed Hafod yn mynd trwy wahanol fathau o goetir sy’n gartref i amrywiaeth eang o fywyd gwyllt. Yn y gwanwyn  mae’r coetiroedd yn lliwgar gyda chlychau’r gog a eilgorros melyn. Mae gan y llwybr raddiant cymharol hawdd a golygfeydd  o’r afon, llyn a chaeau’r plasty, a’r bryniau yn y pellter.

Taith Ceunant Ystwyth

Pont Grog ar Daith Ceunant YstwythUchafbwyntiau: Profwch geunant trawiadol yr Afon Ystwyth o’r Bont Grog, yn enwedig ar ôl glaw trwm.

Pellter: 1 milltir/1.6km (2 filltir/3.2km cyfanswm pellter o’r maes parcio ac yn ôl ar hyd Rhodfa’r Foneddiges i’r man cychwyn)

Lefel: Canolig

Disgrifiad o’r llwybr cerdded: Y ffordd gyflymaf i fynd ar Daith Ceunant Ystwyth yw dilyn Rhodfa’r Foneddiges gyda’r cloc, heibio i’r eglwys tuag at arwydd man cychwyn y daith.  

Mae’r llwybr ysblennydd hwn yn eich arwain ar hyd dolen gul a hir i fyny un ochr ceunant Ystwyth ac i lawr y llall. Er pa mor ddramatig mae’r golygfeydd ar hyd y llwybr cerdded, mae’r graddiannau ar hyd rhan fwyaf o’r llwybr yn eithaf rhwydd, ond mae yna ddisgynfeydd serth wrth ochr y llwybr.

Rhodfa’r Foneddiges (yn cynnwys Taith y Gerddi)

Uchafbwyntiau: Dilynwch y llwybr hanesyddol heibio i raeadr a nodweddion allweddol o ystâd Thomas Johnes. 

Pellter: 2¼ milltir/3.6km

Lefel: Canolig

Disgrifiad o’r llwybr cerdded: Mae Rhodfa’r Foneddiges yn un o ddau lwybr cylchol clasurol cafwyd eu creu gan Thomas Johnes yn ei flynyddoedd cyntaf yn yr Hafod, ac a ddisgrifiwyd gan nifer fawr o ymwelwyr cynnar. 

Gwelir golygfeydd sy’n amrywio’n eang o ran cymeriad, gyda thir pori tonnog y parcdir yn cyferbynnu gyda dyffrynnoedd coediog cul a nentydd gwyllt. Ar hyd y llwybr, ceir dewis rhwng Taith y Gerddi - llwybr coetir cul ond eithaf gwastad sy’n mynd drwy’r ardd flodau - neu lwybr y ddôl sy’n  mynd ar hyd glannau’r afon.

Rhodfa’r Bonheddwr

Uchafbwyntiau: Rhyfeddwch ar y nodweddion Pictiwrésg fel Lefel Lampwll, y Bont Wladaidd, Twnnel, a Rhaeadr ‘Mossy Seat’ ar y llwybr hanesyddol hwn.

Pellter: 3¾ milltir/6km (5¾ milltir/9km i gyd, o’r maes parcio ac yn ôl drwy Rodfa’r Foneddiges i’r man cychwyn)

Gradd: Anodd

Disgrifiad o’r llwybr cerdded: Mae Rhodfa’r Bonheddwr, yr ail gylchdaith crëwyd gan Johnes, yn mynd trwy olygfeydd gwylltach a thir sy'n fwy serth na’r llwybrau cerdded eraill yn yr Hafod. 

Bydd yn rhaid i chi ddilyn Rhodfa’r Foneddiges o chwith i gyrraedd y man cychwyn. Rhodfa’r Bonheddwr yw’r llwybr mwyaf anodd o lwybrau’r Hafod, a dylech fod yn weddol heini gydag esgidiau addas ar gyfer tir serth ac anwastad.

Dysgwch fwy am y llwybrau cerdded

Mae taflen chanllaw i’r teithiau cerdded yn cynnwys map a disgrifiad o'r llwybrau i gyd.

Gallwch:

Llwybrau eraill

Gallwch ddefnyddio rhwydwaith Hawliau Tramwy Cyhoeddus ar Ystâd yr Hafod. Gweler map 213 Archwiliwr Arolwg Ordnans, am fwy o wybodaeth.

Mae’r rhan fwyaf o’r llwybrau ag arwyddion yn cydgysylltu, ac felly gallwch greu eich llwybr eich hun neu fyrhau (neu ymestyn) rhai o’r llwybrau cerdded drwy ddilyn llwybrau a thraciau cyswllt. 

Gwnewch yn siŵr eich bod yn lawrlwytho canllaw cerdded  gyda map o’r llwybrau cerdded i gyd  neu casglwch gopi o’r peiriant yn y prif faes parcio cyn cychwyn ar eich taith.

Gwybodaeth hygyrchedd

Mae yna fannau parcio i’r anabl yng Ngardd Flodau Mrs Johnes.

O’r fan hon, gallwch fynd am dro bach rhwydd o amgylch yn ardd gyda golygfeydd dros yr Afon Ystwyth a safle picnic ar lan yr afon.

Mae yna doiled cludadwy hygyrch yn y prif faes parcio (ger yr eglwys).

Cau a dargyfeirio

Sylwch:

  • Weithiau, rhaid inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er eich diogelwch tra byddwn yn mynd i’r afael â gwaith cynnal a chadw neu weithrediadau coedwig
  • O dro i dro, efallai y bydd yn rhaid inni gau safle mewn tywydd eithafol, fel gwyntoedd cryfion neu eira a rhew, oherwydd y perygl posibl i ymwelwyr a staff
  • Cofiwch ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau a welwch ar y safle, a gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro sydd mewn grym

Sut i gyrraedd

Lawrlwythwch fap lleoliad.

Mae Ystad yr Hafod 16 milltir i'r de-ddwyrain o Aberystwyth ar y B4574.

Ceir arwyddion brown i roi arweiniad i chi o Bontarfynach ar hyd y B4574 i brif faes parcio’r Hafod.

Mae parcio ym maes parcio Ystâd yr Hafod (ger yr eglwys) yn rhad ac am ddim.

Cyfarwyddiadau

Ewch ar hyd y B4574 o Bontarfynach i Gwmystwyth. Ar ôl 2½ milltir trowch i’r dde yn y gyffordd triongl. Dilynwch y ffordd, gan fynd gyda’r ffordd i’r chwith am filltir arall. Mae’r maes parcio wedi’i leoli ar yr ochr dde, ar ôl pasio’r eglwys.

Map Arolwg Ordnans

Mae Ystad yr Hafod ar fap Arolwg Ordnans (AR) 213.

Cyfeirnod Arolwg Ordnans yw SN 768 736.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Yr orsaf drên agosaf yw Aberystwyth.

Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.

Manylion cyswllt

Cyfoeth Naturiol Cymru

Ffôn: 0300 065 3000

E-bost: ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Ymddiriedolaeth yr Hafod

Ffôn: 01974 282568

E-bost: trust@hafod.org

Swyddfa Ystâd Hafod, Pontrhydygroes, Ystrad Meurig Ceredigion SY25 6DX

Ewch i wefan Ymddiriedolaeth yr Hafod.

Lawrlwythiadau

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Map lleoliad Ystâd Hafod PDF [163.7 KB]

Mannau eraill yng Canolbarth Cymru

Archwilio mwy

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.