Sut rydym yn bwriadu bodloni gofynion y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr

Os yw eich gweithgaredd neu eich busnes yn debygol o effeithio ar amgylchedd y dŵr, mae Cyfoeth Naturiol Cymru angen gweithio gyda chi.

Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am weithgarwch yn eich ardal a sut i fynd ati i wella amgylchedd y dŵr trwy ymweld â Arsylwi Dyfroedd Cymru.

Gweithio mewn partneriaeth

Rydym wedi creu cynlluniau rheoli basnau afonydd lle y disgrifir y pwysau sy’n wynebu amgylchedd y dŵr ym mhob un o dair ardal basn afon Cymru.

Grŵp o ddalgylchoedd sy’n cynnwys casgliad o afonydd, llynnoedd, cronfeydd dŵr daear a dyfroedd arfordirol yw ‘ardal basn afon’.

Mae Fforwm Rheoli Dŵr Cymru yn fforwm agored ar gyfer partneriaid i rannu tystiolaeth ac archwilio cyfleoedd i weithio ar y cyd er mwyn gwella rheolaeth gynaliadwy o ddŵr yng Nghymru.

Gwelliannau a buddion

Mae pob cynllun yn amlinellu’r camau y mae angen eu cymryd i wella amgylchedd y dŵr. Maent hefyd yn rhestru’r buddion y gellir eu gwireddu a’r rhai sydd yn y sefyllfa orau i’w cyflawni. Caiff cynlluniau eu llunio a’u diweddaru bob chwe blynedd.

Ardaloedd basnau afonydd Cymru

Ceir tair ardal basn afon yng Nghymru, ac mae gan bob un ei chynllun rheoli basn afon ei hun:

  • Ardal Gorllewin Cymru – yn gyfan gwbl yng Nghymru
  • Ardal Dyfrdwy – yn croesi’r ffin â Lloegr
  • Ardal Hafren – yn croesi’r ffin â Lloegr (wedi'i harwain gan Asiantaeth yr Amgylchedd ar Gov.UK)

Rheoli Cemegau mewn Dŵr 

Nod y dull hwn yw canolbwyntio ymdrechion ar atebion cynaliadwy o fynd i'r afael â llygredd cemegol a’i leihau mewn ffordd sy'n fanteisiol o ran cost ac a fydd o fudd i bobl a bywyd gwyllt. Cafodd ei gynllunio i helpu i sicrhau cysondeb yn y diweddariad nesaf o'r Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd yn 2020.

Swyddogaeth Awdurdodau Lleol

Caiff y cyngor ei lunio ar y cyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Mae’r ddau sefydliad wedi gweithio gyda’i gilydd i ddiwygio’r ddogfen a elwir yn Gwasanaethau diweddaredig yr Awdurdodau Lleol a'r amgylchedd dŵr - Nodyn Cyngor.

Mae’r nodyn cyngor ynghylch y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr yn cynnwys astudiaethau achos sy’n dangos sut y gallwn weithio gyda’n gilydd i gael gwasanaethau “dŵr” gwell i gymunedau, yn ogystal â’r amgylchedd ehangach.

Asesu risg asideiddio

Mae asideiddio’n dal i effeithio ar afonydd a llynnoedd Cymru, er gwaethaf lleihad mawr mewn allyriadau diwydiannol. Er mwyn ein helpu i fonitro a rheoli hyn, rydym wedi asesu ble y mae asideiddio’n debygol o fod yn broblem yn 2027.

Daeth yr asesiad hwn i’r casgliad fod yna dystiolaeth o adferiad graddol. Fodd bynnag, mae un o bob pump o’n hafonydd ac un o bob tri o’n llynnoedd yn dal i fod dan fygythiad.

Diweddarwyd ddiwethaf