Mae CNC wedi lansio ymgynghoriad 12 wythnos yn galw am farn ar ein cynigion newydd a ddatblygwyd i adennill costau’r gweithgareddau yr ydym ni’n eu rheoleiddio a’r gwasanaethau yr ydym ni’n eu darparu.

Mae ein hymgynghoriad yn amlinellu cynigion i wneud newidiadau i nifer o gynlluniau codi tâl sy’n gysylltiedig â cheisiadau am drwyddedau newydd a diwygiedig.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Rheoleiddio Diwydiant
  • Gwastraff ar y safle
  • Ansawdd dŵr
  • Adnoddau dŵr a
  • Chydymffurfiaeth cronfeydd dŵr.

Rydym ni hefyd yn cynnig cyflwyno ffioedd ar gyfer rhai o’r ceisiadau am Drwyddedau Rhywogaeth yr ydym yn eu derbyn.

Fel rhan o’n hymgynghoriad, rydym ni hefyd yn cynnig gwneud newidiadau i rai o’n ffioedd cynhaliaeth, sef - yn bennaf - ffioedd ar gyfer monitro cydymffurfiaeth, er mwyn sicrhau bod pwysau chwyddiant yn y dyfodol yn cael eu rheoli’n effeithiol.

Nod ein hadolygiadau o ffioedd a thaliadau rheoleiddio yw sicrhau bod y ffioedd cywir yn cael eu codi yn y mannau cywir mewn modd teg a phriodol, gan ein galluogi i gyflawni ein gwaith rheoleiddio a sicrhau ein bod yn cynnal ein hegwyddorion o Reoli Arian Cyhoeddus Cymru a Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy.

Er mwyn sicrhau bod barn y rhai sy’n cael eu heffeithio gan yr adolygiad yn cael ei glywed, rydym ni wedi ymgysylltu gyda’n Grŵp Ymgynghorol y Talwyr Taliadau sy’n cynnwys cynrychiolwyr o amrywiaeth o sectorau a allai gael eu heffeithio gan unrhyw newidiadau arfaethedig i’n strwythur codi tâl.

Bydd ein hymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos yn cael ei lansio ddydd Llun 10 Hydref tan 7 Ionawr 2023.

Gallwch ddod o hyd i fanylion y cynnig a rhannu eich barn

Caiff y newidiadau arfaethedig eu cyflwyno ym mis Ebrill 2023, yn amodol ar ystyriaeth o’r ymatebion perthnasol a chymeradwyaeth CNC a Llywodraeth Cymru.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at SROC@naturalresourceswales.gov.uk

Diweddarwyd ddiwethaf