Cyfrifoldebau rheoleiddio
Rydym yn gyfrifol am fwy na 40 o fathau gwahanol o gyfundrefnau rheoleiddio ar draws amrywiaeth eang o weithgareddau.
Ymhlith yr enghreifftiau mae:
- diwydiannau mawr (purfeydd, cemegion, sment, gorsafoedd ynni, haearn a dur, bwyd a diod ac ati)
- diwydiant gwastraff (storio, trin, gwaredu)
- Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig - caniatadau a chydsyniadau
- sylweddau ymbelydrol (niwclear ac fel arall)
- trwyddedu rhywogaethau a warchodir gan Ewrop
- trwyddedu morol
- trwyddedu cwympo coed
- gollyngiadau dŵr (dŵr wyneb a dŵr daear)
- adnoddau dŵr (tynnu, cronni, sychder)
- rheoliadau deunydd pacio a chynlluniau masnachu'r UE/DU
- pysgodfeydd masnachol (llyswennod, eogiaid a physgod cregyn)
- Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy - cyfyngiadau ar fynediad, tir mynediad agored
Rydym yn cyflwyno trwyddedau, yn cynnal asesiadau o gydymffurfiaeth a, lle bo angen, yn cymryd camau gorfodi ffurfiol ar gyfer y rhan fwyaf o'r gweithgareddau hyn. Rydym hefyd yn rheoleiddio rhai gweithgareddau lle mae'r gofynion wedi'u cynnwys mewn deddfwriaeth yn hytrach nag mewn trwyddedau safle benodol; er enghraifft, y system dyletswydd gofal o ran gwastraff.
Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig
Polisi Gorfodi ac Erlyn
WORD [116.0 KB]
Canllawiau ar Orfodi a Chosbau
WORD [379.0 KB]
Canllawiau ar Orfodi a Chosbau. Atodiad 4 Enghreifftiau o dramgwyddau a’r opsiynau ar gyfer ein hymateb gorfodi
WORD [151.5 KB]
Siarter Archwilio Mewnol Mae’r Siarter hon yn disgrifio’r pwrpas, yr awdurdod a’r cyfrifoldeb sydd gan dîm Archwilio a Sicrhau Risg Cyfoeth Naturiol Cymru.
WORD [1.2 MB]
Diweddarwyd ddiwethaf