Cyflwyniad
Mae dros 90% o'r tir rydym yn ei reoli yng Nghymru yn cael ei ddefnyddio ar gyfer amaethyddiaeth a choedwigaeth.5 Hefyd, mae gennym bysgodfeydd dŵr croyw a morol lle mae sicrhau bod stociau pysgod yn gynaliadwy yn fater o bwys: er enghraifft, mae nifer yr eogiaid sy'n byw yn ein hafonydd wedi gostwng yn sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf.1
Mae cyfraddau ailgylchu awdurdodau lleol wedi cynyddu o 52% yn 2012/13 i 60% yn 2015/16, sef y gyfradd uchaf yn y DU ar hyn o bryd. Yr oedd Cymru yn yr ail safle yn Ewrop a thrydydd yn y byd ar gyfer ailgylchu hefyd.1
Mae'r trydan a gynhyrchir gan ffynonellau adnewyddadwy wedi mwy na threblu ers 2007, gan gyrraedd 20% o'r holl drydan a gynhyrchir yng Nghymru erbyn 2015.1 Mae parhau i gynyddu'r gyfran o ynni adnewyddadwy yn flaenoriaeth ar gyfer y dyfodol, ac mae uchelgeisiau gan Lywodraeth Cymru i 70% o'r trydan a gynhyrchir yng Nghymru ddeillio o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2030, gydag o leiaf 1GW o'r capasiti ynni adnewyddadwy o dan berchnogaeth leol.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cefnogi diwydiant ac amaethyddiaeth drwy ei gyngor a'i waith rheoleiddio i leihau effeithiau amgylcheddol, rheoli llygredd, a lleihau'r tebygolrwydd o ddigwyddiadau. Er bod rhai busnesau yn gweithredu'n gynaliadwy eisoes, mae rhagor o gyfleoedd ar gyfer twf gwyrdd, sy'n fuddiol i'r diwydiant ei hun, yr amgylchedd naturiol, a phobl Cymru.
Bydd Cymru'n cael ei hystyried fel lle gwych i wneud busnes, a bydd sefydliadau yn deall rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, gan fabwysiadu arferion gwaith cynaliadwy a gwerthfawrogi eu bod yn gweithredu fel rhan o ecosystemau gwydn. Bydd hyn yn fuddiol nid yn unig i'r busnesau eu hunain ond hefyd pobl Cymru a'r amgylchedd naturiol, a fydd yn cael ei ystyried yn ased hanfodol. Bydd busnesau yn cael eu hannog i ddod yn achrededig a'u cydnabod am eu hymagwedd.
Bydd y sbectrwm o fusnesau yng Nghymru yn amrywio o ddiwydiannau traddodiadol a choedwigaeth, pysgota a ffermio, i weithredwyr twristiaeth a mentrau cymdeithasol. Yn y dyfodol, bydd cynllunio datblygu yn sicrhau bod busnesau newydd yn cael eu lleoli lle y byddant yn cael yr effaith leiaf posibl ar yr amgylchedd.
Bydd Cymru yn cael ei hystyried o fod â mantais gystadleuol gan ei bod yn croesawu twf gwyrdd. Bydd sectorau newydd, cynhyrchion newydd, ymchwil newydd ac arloesi mewn diwydiannau sydd eisoes yn bodoli yn cael eu hannog. Bydd Cymru'n gwneud y defnydd gorau o adnoddau naturiol a thechnolegau sy'n dod i'r amlwg, ac ar yr un pryd yn deall, yn osgoi, ac yn lliniaru effeithiau ar yr amgylchedd naturiol, ac yn edrych am gyfleoedd i’w wella. Bydd adnoddau yn cael eu defnyddio'n effeithlon, a bydd yr ynni adnewyddadwy a gynhyrchir wedi cynyddu'n sylweddol, gyda chyfran o'r capasiti ynni adnewyddadwy o dan berchnogaeth leol. Bydd Cymru yn gweithio tuag at economi gylchol – lle mae’r defnydd o adnoddau yn cael ei leihau ac mae deunyddiau yn cael eu hailddefnyddio, eu hailgylchu, a'u defnyddio yn y pen draw i gynhyrchu ynni lle bo hynny'n bosibl.
Bydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru gysylltiadau cryf â diwydiant, yn rhoi cyngor ac yn gweithio ar y cyd cyn ac yn ystod y broses gynllunio er mwyn datblygu busnesau a thechnoleg sy’n gynaliadwy ac yn dda. Byddwn yn gwneud defnydd llawn o'n pwerau rheoleiddiol – gwaith trwyddedu a monitro i sicrhau cydymffurfiaeth a chamau gorfodi – i amddiffyn yr amgylchedd naturiol ac i sicrhau nad yw busnesau cyfreithlon yn cael eu tanseilio.
Byddwn yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu marchnadoedd eraill yn ogystal â Thalu am Wasanaethau Ecosystemau ac yn defnyddio ein pŵer prynu i ddylanwadu ar ein cyflenwyr a'r sector cyhoeddus ehangach i annog gweithio tuag at economi gylchol.
Arwain drwy esiampl
Gweithio gyda'n partneriaid
Dangosydd/Ffynhonnell