Cyflwyniad
Mae Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol (SoNaRR) yn dweud wrthym nad yw’r dull cyfredol o reoli adnoddau naturiol yng Nghymru yn gynaliadwy – mae ein hadnoddau naturiol allweddol yn cael eu difetha yn gyflymach nag y gellir eu hailgyflenwi. Mae bioamrywiaeth yn dirywio ac nid yw'n bosibl dweud bod gan yr un ecosystem yng Nghymru holl nodweddion gwydnwch. Yn y blynyddoedd diweddar, mae ansawdd dŵr wedi gwella – ond mae llawer o waith i'w wneud eto nes y bydd statws ecolegol da gan yr holl gyrff dŵr croyw yng Nghymru. Ac er bod ansawdd aer wedi gwella, allyriadau nwyon tŷ gwydr wedi disgyn, a'r egni adnewyddadwy a gynhyrchir wedi cynyddu, mae llygredd aer yn parhau i fod yn broblem iechyd sylweddol.1
Cyfrifwyd bod ôl troed ecolegol Cymru bum gwaith yn fwy na maint gwirioneddol y wlad. Mae hyn yn golygu bod angen arwynebedd tir pum gwaith yn fwy na maint Cymru er mwyn darparu'r deunyddiau crai, yr ynni a'r bwyd i gyflenwi Cymru ar hyn o bryd ac i waredu ar y llygredd a'r gwastraff sy'n cael eu creu.1
Mae pobl yn dangos eu bod yn pryderu am yr amgylchedd naturiol: mae 67% o bobl yng Nghymru yn poeni am newid yn yr hinsawdd, gyda'r rhan fwyaf ohonynt yn ei briodoli i weithgaredd dynol,1 ac mae 43% o bobl yn poeni am newidiadau i fioamrywiaeth yn y dyfodol.2 Hefyd, mae 3% o bobl wedi gwirfoddoli i helpu i amddiffyn yr amgylchedd.1 Ond mae llawer i'w wneud o hyd.
Drwy reolaeth gynaliadwy, byddai pobl a busnesau yn elwa'n fwy ar adnoddau naturiol nag y maent eisoes hyd yn oed – bwyd, swyddi, hamdden, deunyddiau crai, ynni, ac aer a dŵr glân. Mae hyn cyhyd â bod pawb yng Nghymru yn manteisio ar y cyfleoedd ac yn deall yr angen i wneud rhai pethau yn wahanol yn y dyfodol – i fyw a gweithio'n fwy cynaliadwy.
Byddwn ni yn Cyfoeth Naturiol Cymru yn hyrwyddo'r amgylchedd naturiol ac yn helpu pobl i fanteisio i'r eithaf ar y buddion y mae'n eu darparu, yn ogystal â'i werthfawrogi er ei fwyn ei hun – yn awr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael ei gydnabod fel hyrwyddwr yr amgylchedd naturiol yng Nghymru, ac yn arweinydd byd-eang yn ei faes. Bydd gennym lais cryf a barn annibynnol, a bydd ein safbwyntiau yn cael eu parchu yng Nghymru a ledled y byd. Byddwn yn dod â phobl at ei gilydd o ran blaenoriaethau a rennir ac yn cyfeirio arian i'r mannau lle y bydd yn gallu cyflawni'r canlyniadau gorau yn seiliedig ar y dystiolaeth orau sydd ar gael. Ein bod ni'n sefydliad sy'n seilio ein gwaith ar dystiolaeth, ar hyn o bryd ac yn y dyfodol, gan gynnal gweithrediadau, rhoi cyngor, a gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar y dystiolaeth orau sydd ar gael. Bydd ein tystiolaeth yn cael ei rhannu â phobl eraill, a byddant yn rhannu'r hyn sydd ganddynt, i greu darlun mor gyflawn â phosibl o Gymru.
Byddwn yn arwain drwy wneud ac arfer yr hyn rydym yn ei bregethu, gan arddangos sut mae rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy yn gweithio ar y tir a'r dŵr a reolir gennym. Ar yr un pryd, byddwn yn rhoi cynnig ar ffyrdd newydd o wneud pethau, ac yn dysgu gan eraill wrth fynd ymlaen – yn lleol, yn genedlaethol, ac yn rhyngwladol – ac yn annog pobl eraill i wneud yr un peth.
Byddwn yn annog newidiadau mewn ymddygiad a'r ffyrdd y mae pawb yn gweithredu yng Nghymru – ac yn mwynhau'r buddion – drwy gynyddu dealltwriaeth o bwysigrwydd yr amgylchedd naturiol mewn bywydau pobl o ddydd i ddydd. Byddwn yn ystyried costau cylch bywyd llawn prosiectau – ar gyfer deunyddiau crai, costau cynnal, ac ailgylchu neu waredu – gan gynnwys y gost i'r amgylchedd. Byddwn yn dwyn i gyfrif y rhai sy'n achosi difrod i'r amgylchedd, pan nad yw anogaeth wedi llwyddo ac mae angen gorfodi. Byddwn yn arwain ac yn parhau i leihau ein heffaith amgylcheddol ein hun, fel sefydliad carbon bositif.
Rydym yn dymuno i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy fod yn sylfaen hanfodol o ran yr holl benderfyniadau a wneir yn y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol. Hoffem weld hefyd fod niwed i'r amgylchedd naturiol yn cael ei osgoi, a sicrhau bod gwneud y gorau o'r buddion cymdeithasol, diwylliannol, economaidd ac amgylcheddol yn dod yn arfer.
Arwain drwy esiampl
Gweithio gyda'n partneriaid
Dangosydd/Ffynhonnell