Adroddiad ar berfformiad 2020/21

Ar y tudalennau canlynol, mae Clare Pillman, ein Prif Weithredwr, yn cynnig ei safbwynt ar ein perfformiad eleni ac rydym yn amlinellu diben ein sefydliad, ein prif rolau a chyfrifoldebau, a’r risgiau a'r problemau rydym yn eu hwynebu, yn ogystal ag esbonio sut rydym wedi rheoli’r gwaith o gyflawni ein hamcanion eleni.

Datganiad y Prif Weithredwr

Mae'r flwyddyn hon wedi bod yn brawf fel na welwyd gynt. Er ein bod wedi ymateb i'r her, mae'n glir fod effaith barhaus y 12 mis diwethaf wedi rhoi pwysau aruthrol ar ein staff, ein partneriaid a'n cymunedau ehangach.

Rydym yn falch mai'r cyfrifon hyn yw'r cyntaf i beidio fod yn destun barn amodol ers 2015/16.   Roedd y problemau a arweiniodd at farn amodol yn ddifrifol ac mae'r gwaith i ddod â'n gwerthiannau pren i'r safonau a ddisgwylir gan gorff cyhoeddus yn nhrydydd degawd y 21ain ganrif wedi bod yn heriol. Nid ydym mewn unrhyw ffordd yn hunanfodlon ynghylch y maes hwn o'n gwaith, na'r goblygiadau ehangach ynghylch rheoli contractau a pherfformiad, ac er ein bod yn credu ein bod wedi gwneud cynnydd da, bydd yn cymryd amser cyn iddo gael ei adlewyrchu yn y farn archwilio mewnol. Mae fy Nhîm Gweithredol a minnau yn benderfynol o sicrhau gwelliannau parhaus, fel y gallwn gyflawni ein nod – a gall eraill weld ein bod wedi cyflawni ein nod – o fod yn sefydliad perfformiad uchel ym mhob agwedd ar ein gwaith.

Yn erbyn cefndir y pandemig sy'n newid yn gyflym, rydym wedi canolbwyntio ar ddiogelu amgylchedd Cymru a'i chymunedau – gan weithio'n gyflym, yn greadigol ac yn effeithlon i gynnal gwasanaethau â blaenoriaeth. O'r cychwyn cyntaf, rydym hefyd wedi cynnal ffocws allanol, gan gefnogi ein partneriaid ac eraill sy’n delio â'r argyfwng. Mae hyn wedi cynnwys helpu busnesau rheoledig i lywio goblygiadau cyfyngiadau a rheoliadau newydd a newidiol, sicrhau'r cyflenwad parhaus o bren i gadw busnesau a danfoniadau ar agor, darparu grantiau oedd mawr eu hangen i sefydliadau amgylcheddol y trydydd sector yn gyflym, a darparu gwirfoddolwyr o ymhlith ein staff i gynorthwyo Llywodraeth Cymru ac eraill. Roeddem hefyd yn cefnogi'r rhaglen frechu drwy gynghori ar fathau o frechiadau a chategoreiddio a dosbarthiad gwastraff.  Rydym yn falch o fod wedi chwarae rhan yn y frwydr bwysig iawn yn erbyn COVID-19.

Rwy'n hynod werthfawrogol o'n holl staff, yn enwedig y rhai ar ein timau digwyddiadau ac ar rotâu, sydd wedi gweithio'n ddiflino eleni, yn ein rôl fel ymatebwr Categori 1, ar ran Llywodraeth Cymru. Er y cyfyngiadau COVID-19, rydym wedi parhau i ddelio â chanlyniadau rhai o'r stormydd mwyaf difrifol a welwyd yng Nghymru am genhedlaeth. Effeithiodd tywydd anffafriol arnom ym misoedd yr haf a'r gaeaf hefyd, gyda thanau gwyllt ledled Cymru ym mis Mai yn dinistrio ardaloedd mawr o goedwigoedd ac yn lladd bywyd gwyllt. Achosodd llifogydd pellach ddinistr i gartrefi ar draws de-ddwyrain Cymru cyn y Nadolig, ac, ym mis Chwefror, gwnaethom weithio gyda'n partneriaid rheoli digwyddiadau i gefnogi trigolion Sgiwen, lle roedd glaw trwm wedi arwain at siafft cloddfa yn rhwygo. Cydymdeimlad â phawb yr effeithiwyd arnynt yn ystod beth oedd yn amser anodd iawn eisoes.

Mae'r cyhoedd yn mwynhau eu hamgylchedd lleol yn ystod y cyfyngiadau symud wedi cynyddu nifer yr adroddiadau o ddigwyddiadau llygredd rydym wedi delio â nhw. Hyd yn oed pan nad yw'r rhain yn sylweddol yn unigol, maent yn rhoi darlun i ni o gyflwr ein hamgylchedd a phwysau datblygiadau a gweithgarwch dynol cynyddol. Rydym hefyd wedi delio â'r digwyddiad llygredd gwaethaf ers trychineb y Sea Empress chwarter canrif yn ôl. Yn sgil trên nwyddau yn dod oddi ar y cledrau a thân yn Llangennech, gwelwyd arllwysiad diesel o tua 350,000 o litrau i ardal sensitif iawn gyda nifer o fesurau diogelu tirwedd a bioamrywiaeth. Rydym wedi gweithio'n galed gyda'n partneriaid i warchod y cynefin lleol, gan glirio'r safle fel bod y lein yn weithredol eto.

Er gwaethaf yr holl heriau, mae staff wedi ymgymryd â gwaith rhagorol. Gwnaethom gyflawni ein rhaglen llifogydd a gwaith cynnal a chadw cyfalaf fel y cynlluniwyd ac rydym hefyd bellach wedi cwblhau Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd Crindai yng Nghasnewydd, Gwent. Bydd y cynllun nid yn unig yn darparu diogelwch ar gyfer cartrefi a busnesau mewn ardal sydd â hanes hir o lifogydd llanwol, ond bydd hefyd yn gatalydd ar gyfer adfywio ac yn darparu llu o fuddion eraill i'r gymuned leol.

Rydym wedi parhau i gyflawni ein dyletswyddau rheoliadol i ddiogelu amgylcheddau tir, awyr a dŵr Cymru, gan ystyried heriau cynyddol y newid yn yr hinsawdd, datblygu trefol a gwledig, rheoli gwastraff, a gollyngiadau amaethyddol a chan gwmnïau dŵr. Yn ystod y pandemig, rydym wedi gweithio ar dechnegau arloesol i gynyddu ein harolygiadau rheoliadol traddodiadol, gan ddefnyddio technoleg i gefnogi ein harchwiliadau ac i asesu'r datganiadau data rydym wedi'u derbyn gan ddeiliaid trwyddedau.  Rydym yn parhau i weithio gyda'n partneriaid a'n rhanddeiliaid i ddiogelu a gwella ein hadnoddau naturiol. Rydym yn wynebu materion anodd ynghylch rheoli maethynnau, yn arbennig ffosffadau yn ein hafonydd dynodedig, a sut rydym yn gweithredu rheoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol newydd, sy'n cyflwyno rheolaeth ledled Cymru ar nitradau.

Yn ystod y misoedd tywyllaf o'r gaeaf, gwnaethom ganolbwyntio ar iechyd meddwl a llesiant, gan wneud yn siŵr ein bod yn gwrando ar ein staff i ddeall beth allem ei wneud i'w cefnogi yn ystod yr amser caled hwn. Rwy'n falch bod ein gwaith ynghylch gwerthoedd sefydliadol wedi dwyn ffrwyth mor gryf, gyda staff yn cefnogi cydweithwyr drwy adfyd. Rydym wedi parhau i wrando drwy gydol y gwaith i ddatblygu ein rhaglen Adnewyddu ar ôl COVID-19 i lywio dyfodol ein sefydliad, a bod y sefydliad gorau y gallwn fod.

Mae'n glir fod ein profiadau yn ystod y cyfyngiadau symud wedi ehangu ein synnwyr o bwysigrwydd yr amgylchedd naturiol ar garreg ein drws. Roedd defnyddio amryw o lwybrau a theithiau cerdded yn lleol yn sicr yn allweddol i fy llesiant i drwy gydol y cyfyngiadau symud. Ond, yn ehangach, mae wedi dod i'r amlwg pa mor werthfawr yw mynediad at fannau gwyrdd i les corfforol a meddyliol pawb, gan atgyfnerthu'r buddion iechyd aruthrol sy'n gwella ein gwydnwch – p'un a yw hynny drwy ymweld â mynyddoedd eiconig Cymru, ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol, neu dreulio amser yn ein gerddi ac ym mharciau cyhoeddus ein cymdogaethau.

Ond mae hyn yn creu ei broblemau ei hun. Fel y gwelwyd o'r ciwiau yn nadreddu ar hyd llethrau’r Wyddfa, y cryn faint o geir sy’n parcio yn ein mannau naturiol, a'r sbwriel sylweddol ar hyd ein cefn gwlad, mae pwysau sylweddol ar ein hatyniadau naturiol ac Ystad Goetir Llywodraeth Cymru eisoes. Er y croesewir y diddordeb cynyddol hwn, mae'n codi cwestiynau ynglŷn â sut rydym yn rheoli'r angen am fynediad ac yn monitro'n hamgylchedd wrth symud ymlaen. Bydd cydbwyso gofynion hamdden, pren, ynni, yr economi atgynhyrchiol a defnydd cymunedol yn her aruthrol wrth symud ymlaen, gyda phenderfyniadau i'w gwneud ynghylch sut rydym yn cyflawni'r cydbwysedd hwnnw mewn ffordd sy'n diogelu ein hamgylchedd ond eto sy'n bodloni dyheadau Llywodraeth Cymru, gofynion diwydiant a disgwyliadau cyhoedd Cymru.

Rydym yn edrych ymlaen at "flwyddyn ragorol" o'n blaenau, gyda momentwm y codau ymarfer ar fioamrywiaeth a’r newid yn yr hinsawdd wir yn cynyddu'r disgwyliadau ar gyfer cyflawni ein rhaglen adnewyddu, Rhaglen Lywodraethu newydd, ein gwaith ynghylch gweledigaeth newydd ar gyfer 2050, a'r cynllun corfforaethol newydd. Mae'n rhaid i ni fanteisio ar y cyfleoedd hyn i ysgogi trafodaethau a chamau gweithredu ymysg pob sector, pob sefydliad a phob cymuned yng Nghymru fel y gallwn fynd i'r afael â heriau'r argyfyngau hinsawdd a natur gyda'n gilydd yn uniongyrchol.

Cyflwyno CNC

Rydym yn Gorff a Noddir gan Lywodraeth Cymru. Ein diben craidd yw Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy a chymhwyso egwyddorion Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy fel y’u nodir yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Cymru yw’r wlad gyntaf yn y byd i greu un sefydliad sy’n cyfuno llawer o’r dulliau sydd eu hangen i helpu i reoli ein hadnoddau naturiol mewn ffordd integredig. Mae adnoddau naturiol yng Nghymru yn wych – mynyddoedd a choetiroedd garw, tirweddau a morlinau hardd, a bywyd gwyllt anhygoel. Maent yn hanfodol i’n goroesiad ac yn rhoi i ni y pethau sylfaenol sydd eu hangen arnom i fyw: aer glân, dŵr glân a bwyd. Maent yn creu swyddi ar gyfer llawer o filoedd o bobl, gan gynnwys ffermwyr, coedwigwyr a gweithredwyr twristiaeth – gan greu cyfoeth a ffyniant.

Swyddogaethau a chyfrifoldebau

Mae ein swyddogaethau a’n cyfrifoldebau yn cynnwys:

  • Cynghorydd i Lywodraeth Cymru ac i ddiwydiant, perchnogion/rheolwyr tir, y cyhoedd yn ehangach, a'r sector gwirfoddol
  • Rheoleiddiwr safleoedd diwydiant a gwastraff, y môr, coedwigoedd a safleoedd dynodedig i amddiffyn pobl a’r amgylchedd naturiol
  • Dynodwr Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) a Pharciau Cenedlaethol yn ogystal â Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol
  • Ymatebwr i fwy nag 8,000 o adroddiadau o ddigwyddiadau amgylcheddol y flwyddyn fel ymatebwr brys Categori 1
  • Ymgynghorydd statudol ar tua 7,000 o ymgynghoriadau cynllunio bob blwyddyn
  • Rheolwr 7% o arwynebedd tir Cymru (ac yn dylanwadu ar 23% arall), gan gynnwys Ystad Goetir Llywodraeth Cymru, Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol ac amddiffynfeydd rhag llifogydd, a rhedeg cyfleusterau hamdden a labordy dadansoddol
  • Partner, addysgwr a galluogwr sy’n cefnogi a hwyluso gwaith sefydliadau eraill ac yn helpu pobl i ddysgu am yr amgylchedd naturiol, ynddo ac ar ei gyfer
  • Casglwr tystiolaeth, gan fonitro’r amgylchedd, comisiynu a gwneud gwaith ymchwil, datblygu a rhannu gwybodaeth, a chadw cofnodion cyhoeddus
  • Cyflogwr tua 2,200 o bobl, gyda chyllideb o dros £200 miliwn

Ein gwerthoedd

Mae ein gwerthoedd yn ganolog i'n diwylliant yn Cyfoeth Naturiol Cymru – gan adlewyrchu'r math o bobl ydyn ni – a'r hyn y mae'n ei olygu i fod yn rhan o #TîmCNC:

  • Rydym yn frwdfrydig am amgylchedd naturiol Cymru
  • Rydym yn gofalu am ein gilydd a'r bobl rydym yn gweithio gyda nhw
  • Rydym yn gweithio gydag uniondeb
  • Rydym yn gwneud gwahaniaeth nawr ac ar gyfer y dyfodol
  • Rydym yn falch o wasanaethu pobl Cymru

CNC mewn niferoedd

Hyrwyddo amgylchedd Cymru a rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy

  • Aelod o bob un o’r 19 Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru

Sicrhau bod tir a dŵr yng Nghymru yn cael eu rheoli’n gynaliadwy ac mewn ffordd integredig

Gwella gwydnwch ac ansawdd ein hecosystemau

Lleihau’r risg i bobl a chymunedau o beryglon amgylcheddol fel llifogydd a llygredd

Helpu pobl i fyw bywydau iachach a mwy cyflawn

Hybu busnes llwyddiannus a chyfrifol, gan ddefnyddio adnoddau naturiol heb eu difrodi

  • Wedi ymateb i 6,970 o ymgynghoriadau cynllunio
  • £30.6 miliwn o incwm pren
  • 57 o erlyniadau am droseddau amgylcheddol yn 2020

Datblygu CNC yn sefydliad rhagorol sy’n darparu gwasanaeth cwsmeriaid o’r radd flaenaf

Ein Hamcanion Llesiant a Blaenoriaethau Strategol

Disgrifir ein Hamcanion Llesiant yn ein Cynllun corfforaethol hyd at 2022:

  • Hyrwyddo amgylchedd Cymru a rheoli adnoddau naturiol Cymru mewn modd cynaliadwy
  • Sicrhau bod tir a dŵr Cymru yn cael eu rheoli'n gynaliadwy mewn modd integredig
  • Gwella cydnerthedd ac ansawdd ein hecosystemau
  • Lleihau’r risg i bobl a chymunedau o beryglon amgylcheddol fel llifogydd a llygredd
  • Helpu pobl i fyw bywydau iachach a mwy cyflawn
  • Hybu busnes llwyddiannus a chyfrifol, gan ddefnyddio adnoddau naturiol heb eu difrodi
  • Datblygu CNC yn sefydliad rhagorol sy'n darparu gwasanaeth cwsmeriaid o'r radd flaenaf

Ar gyfer 2020/21, roeddem yn canolbwyntio ar bum blaenoriaeth strategol fel a amlinellir yn ein cynllun busnes blynyddol i gyflawni ein hamcanion llesiant:

  • Ymateb i'r argyfwng hinsawdd
  • Ymateb i'r argyfwng ym myd natur
  • Datblygu a defnyddio ein tystiolaeth gyda phartneriaid i eirioli dros reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy a'i gyflawni
  • Datblygu CNC i fod yn sefydliad rhagorol sy'n cefnogi cymunedau Cymru
  • Ymateb i’r pandemig COVID-19 a’r DU yn ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, gan fanteisio ar gyfleoedd i sicrhau adferiad gwyrdd

I gael gwybodaeth am sut mae'n sefydliad wedi'i strwythuro i gyflawni, gweler ein hadroddiad atebolrwydd ‘Ein Gweithrediaeth’ (neu ein strwythur y sefydliad am ragor o fanylder).

Crynodeb o risgiau allweddol

Fel sefydliad â swyddogaethau a chyfrifoldebau amrywiol, rydym yn rheoli sawl risg a mater allweddol er mwyn lliniaru eu heffaith ar gyflawni ein gwaith. Fel yr amlinellwyd yn ein hadroddiad atebolrwydd, mae'r risgiau i gyflawni'n hamcanion wedi'u nodi, eu hasesu, eu rheoli, eu hadolygu a'u cofnodi drwy gofrestrau risg ar lefelau amrywiol o'r busnes.

Ar ddechrau'r flwyddyn ariannol hon, gwnaethom ganolbwyntio ein hymdrechion ar beth oedd angen inni ei wneud i reoli'r risg o COVID-19 – i ni'n fewnol ac i'n gwasanaethau a chwsmeriaid allanol. Sefydlodd ein Grŵp Ymateb ac Adfer Digwyddiadau gofrestr risg sy'n ymwneud â'r pandemig a'i chynnal. Ein ffocws cychwynnol oedd sicrhau parhad ein gweithgareddau blaenoriaeth wrth warchod ein staff, gan ystyried yr effeithiau ar eu hiechyd a'u llesiant. Dilynasom gyngor y llywodraeth, gan weithio gyda staff, cwsmeriaid a phartneriaid i sicrhau diogelwch pawb. Ystyriwyd ein cofrestr risg strategol ar gyfer effeithiau'r pandemig, ond roedd yr effeithiau'n bennaf ar gyflawni'r camau lliniaru yn hytrach na'r risgiau eu hunain. Mae ein cofrestr risg strategol yn cynnwys y risgiau allweddol canlynol:

Methiant asedau

Mae ein hasedau yn cynnwys seilwaith mawr megis cronfeydd dŵr ac asedau llifogydd, yn ogystal ag asedau ar ystad goetir Llywodraeth Cymru. Gallai methiant yn yr asedau hyn gael effaith fawr ar y cyhoedd cyffredinol, felly rydym yn rhoi llawer o ymdrech i reoli ein hasedau i'r safonau gofynnol. Mae lleihau'r potensial am fethiant asedau drwy raglenni rheolaidd a chadarn o waith archwilio, cynnal a chadw, a monitro yn flaenoriaeth, a bydd hyn yn helpu i sicrhau diogelwch y bobl rydym yma i'w diogelu.

Llesiant, iechyd a diogelwch ein staff, contractwyr, ymwelwyr a thenantiaid

Mae rhywfaint o'n gwaith gweithredol yn cynnwys risgiau iechyd a diogelwch sylweddol, er enghraifft yn ystod cynaeafu coedwigoedd, sy'n gydnabyddedig ar draws y sector gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch. Rydym yn darparu hyfforddiant a chefnogaeth i staff a'r sail i hyn yw'r polisïau a'r gweithdrefnau sydd gennym ar waith, gan gynnwys asesiadau risg a Strategaeth Llesiant, Iechyd a Diogelwch. Yn ystod 2021/22, byddwn yn parhau i weithio tuag at gyflawni achrediad llawn ISO 45001 ym mis Ebrill 2022.

Cyllid

Rydym yn dibynnu ar gymorth grant Llywodraeth Cymru ar gyfer ychydig dros hanner ein cyllid, yn ychwanegol i incwm masnachol ac incwm o daliadau rheoliadol. Rydym wedi gwella ein prosesau rheoli a darogan cyllid, ond rydym yn parhau i flaenoriaethu'r gweithgareddau y gallwn eu cyflawni ac i gydbwyso'r galw am ein gwasanaethau. Rydym yn cysylltu â Llywodraeth Cymru, gan egluro ein gweithgareddau a’r buddion i Gymru drwy ein gwaith ac yn mynegi'r lefel o wasanaeth y gellir ei darparu am y cyllid sydd ar gael.

Ymateb i ddigwyddiadau

Mae gennym ddyletswyddau statudol ar gyfer rheoli digwyddiadau fel ymatebwr Categori 1 o dan y Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl gyda chyfrifoldebau i gydweithio â'n partneriaid i reoli a lliniaru effeithiau digwyddiadau amgylcheddol fel llifogydd, sychder a llygredd amgylcheddol ar bobl a'r amgylchedd. Rydym yn dibynnu ar ein staff medrus, systemau a gweithdrefnau i gynnal ein hymateb i ddigwyddiadau ac rydym yn ymrwymedig i sicrhau bod y gwasanaeth hwn yn wydn yn wyneb effeithiau tebygol y newid yn yr hinsawdd.

Ymgorffori rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy

Ein diben statudol yw rheoli ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy. Mae angen i ni arddangos gweithredu’r diben hwn ym mhob rhan o'r sefydliad, drwy ffyrdd arloesol o weithio yn seiliedig ar leoedd a gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar dystiolaeth. Rydym yn hyfforddi ein staff i sicrhau bod hyn yn cael ei gyflawni ac rydym hefyd yn annog ein partneriaid/rhanddeiliaid i gynnwys hyn yn eu cynlluniau hyfforddi.

Crynodeb o berfformiad

Mae ein fframwaith perfformiad yn adlewyrchu’r canllawiau statudol rydym wedi'u derbyn ar reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, y ddyletswydd bioamrywiaeth sydd gan bob awdurdod cyhoeddus, a chanllawiau eraill.

Mae pob mesur yn ein fframwaith perfformiad yn ymwneud â'n Hamcanion Llesiant. Mae adrodd a craffu ar bynciau a mesurau yn ein dangosfwrdd Cynllun Busnes blynyddol yn digwydd mewn sesiwn gyhoeddus agored mewn cyfarfodydd o Fwrdd CNC bedair gwaith y flwyddyn, gyda chraffu pellach ar yr adrodd hyn drwy Lywodraeth Cymru.

Roedd ein dangosfwrdd Cynllun Busnes yn adlewyrchu 35 o fesurau eleni, ar draws 20 o bynciau. Ar ddiwedd y flwyddyn, o'r mesurau hynny roedd:

  • 21 yn wyrdd – wedi cyflawni’r nod neu garreg filltir
  • 12 yn felyn – yn agos at y nod neu garreg filltir
  • 2 yn goch – wedi methu’r nod neu garreg filltir

Roedd effaith COVID-19 yn golygu y newidiwyd nifer o fesurau yn ystod y flwyddyn (ar gyfer chwarter dau ymlaen), gyda chymeradwyaeth ein Bwrdd. Wrth ddiweddaru'r mesurau, gwnaethom anelu at sicrhau eu bod yn adlewyrchu targedau realistig, gan ystyried effaith hysbys, a disgwyliedig, COVID-19 yn y flwyddyn ar unigolion a sefydliadau, a'u gallu cyflawni, gyda 15 o fesurau wedi'u diweddaru.

O gymharu perfformiad â'r flwyddyn flaenorol (2019/20), yn 2020/21 roedd yna 11 mesur gwyrdd yn fwy ac un mesur coch yn llai, heb unrhyw fesurau yn parhau i fod yn goch rhwng 2019/20 a 2020/21 (a naw o fesurau yn ychwanegol i gyd yn 2020/21).

I weld mwy ar safle perfformiad pob un o'r 35 o fesurau, gweler ein dangosfwrdd Cynllun Busnes, sydd wedi'i gyhoeddi, a’n papurau Bwrdd ar gyfer y dangosfyrddau yn ystod y flwyddyn. Gellir gweld adroddiadau ar gyfer blynyddoedd blaenorol hefyd drwy ein tudalen Adroddiad blynyddol a chyfrifon ar y we.

Crynodeb ariannol

Cyllid a sut y gwnaethom wario ein harian 

Roedd cyfanswm ein hincwm ar gyfer y flwyddyn yn £78 miliwn. Yn ogystal, gwnaeth Llywodraeth Cymru ddarparu £105 miliwn mewn cymorth grant a grantiau eraill tuag at amrywiaeth o ganlyniadau, y dyrannwyd £35 miliwn o'r arian hwnnw i reoli perygl llifogydd a risgiau arfordirol. Yn y datganiadau ariannol, caiff cymorth grant ei ystyried yn gyfraniad gan awdurdod â rheolaeth ac nid yn ffynhonnell incwm. Roedd cyfanswm ein gwariant ar gyfer y flwyddyn yn £225 miliwn, cynnydd o £207 miliwn yn 2019/20. Mae'r newid o ganlyniad i sawl rheswm, gan gynnwys cynnydd mewn costau staff ar ôl cwblhau cynllun ein sefydliad, ymgymryd â rhaglen gyfalaf newydd sy'n canolbwyntio ar fuddion bioamrywiaeth ac ansawdd dŵr, rhaglen gyfalaf rheoli perygl llifogydd fwy, a mwy o arian yn cael ei wario ar ein rhaglenni grantiau. Dyma ddosbarthiad cyfanswm ein cyllid a gwariant:

  • Cyllid yn ôl math: Grantiau Llywodraeth Cymru (57% / £105 miliwn), Taliadau (20% / £37 miliwn), Masnachol ac incwm arall (22% / £39 miliwn), Ewropeaidd ac allanol arall (1% / £2 miliwn)
  • Gwariant yn ôl math: Costau staff (47% / £106 miliwn), Gwaith cyfalaf a osodwyd fel treuliau yn ystod y flwyddyn (9% / £20 miliwn), Gwariant arall (44% / £99 miliwn)

Rheoli ein harian

Yn 2020/21, er y cafodd ein cyllid ‘craidd’ gan Lywodraeth Cymru ei ostwng o ganlyniad i gyfyngiadau’r pandemig COVID-19 a phwysau ehangach ar gyllideb y llywodraeth, darparodd Llywodraeth Cymru gyllid gwahanol ar ddechrau ac yn ystod y flwyddyn ariannol, a helpasom ni i fforddio ein cynlluniau presennol a gwario £11 miliwn ar raglen gyfalaf newydd ar draws 70 o brosiectau sy'n cyflawni buddion bioamrywiaeth sylweddol. Cynyddodd ein hincwm pren hefyd o ganlyniad i'r farchnad fywiog ac ailfuddsoddwyd yr incwm hwnnw i gyd mewn coedwigaeth. Rydym hefyd wedi defnyddio cronfeydd wrth gefn ac, o ganlyniad, mae ein balansau arian parod wedi gostwng yn gyfatebol. Cafodd yr holl ddyraniadau i gyllidebau eu craffu a'u cymeradwyo gan y Tîm Gweithredol a'r Bwrdd. 

Edrych i'r dyfodol

Rydym wedi cyhoeddi ein Cynllun Busnes ar gyfer 2021/22, sy'n nodi'n blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn ariannol i ddod. Mae ein Cynllun Corfforaethol cyfredol yn parhau tan 2023. Rydym wedi gosod ein cynlluniau yn seiliedig ar adnoddau disgwyliedig, gan gynnwys cymorth grant, taliadau, a dyraniadau ac amcangyfrifon incwm masnachol. Mae incwm taliadau'n dueddol o fod yn weddol sefydlog, ond mae ein hincwm masnachol yn llai rhagweladwy gan ei fod yn sensitif iawn i newidiadau i'r gyfradd gyfnewid, sy'n effeithio ar brisiau pren. Nid ydym yn gwybod ein dyraniadau cymorth grant ar gyfer 2022/23 ymlaen ond byddwn yn gweithio'n agos â Llywodraeth Cymru ar yr hyn y gallwn ei gyflawni gyda'r lefelau posibl o gyllid sydd ar gael. Mae Llywodraeth Cymru yn cynllunio i gyhoeddi cyllid dangosol dros y tymor hwy yn y dyfodol, a fydd yn helpu ein gwaith cynllunio.

Asedau anghyfredol

Roedd ein hasedau anghyfredol yn werth £2,103 miliwn ar 31 Mawrth 2021, sef 69.5% (£862 miliwn) yn fwy o'u cymharu â'r flwyddyn ariannol ddiwethaf. Y gydran fwyaf arwyddocaol yw gwerth yr ystad goedwig ac asedau biolegol, sy'n cyfri am £1,773 miliwn o'r cyfanswm, a phrisiad cryf y cnydau ar yr ystad oedd y prif reswm dros y cynnydd mawr. 

Taliadau masnachol a thaliadau eraill

Mae gan Lywodraeth Cymru ymrwymiad i dalu 95% o gyflenwyr o fewn 30 diwrnod, ac rydym yn ceisio mynd y tu hwnt i'r targed hwn pan fo'n bosibl. Disgynnodd y perfformiad ar gyfer y flwyddyn gyfan ychydig o dan hynny (94%). Yn chwech o'r 12 mis, roeddem uwchben y trothwy 95% a disgynnwyd o dan y targed ar gyfer y flwyddyn oherwydd y newid mewn trefniadau gweithio staff yn ystod cyfyngiadau’r pandemig COVID-19.

Perfformiad dyledwyr

Mae ein rheolaeth barhaus o ddyled fasnachol wedi gweld cynnydd bach mewn dyled fasnachol, gyda nifer y diwrnodau ar gyfartaledd i gwsmeriaid dalu ostwng i un diwrnod o’i gymharu â thri diwrnod yn 2019/20.  Mae ein rheolaeth o ddyled reoleiddiol wedi gweld cynnydd o 3.7% yn 2019/20 i 5.6% ar ddiwedd 2020/21.  Nid ydym wedi cychwyn unrhyw achosion cyfreithiol yn ystod y pandemig COVID-19, gan yn hytrach roi llythyrau atgoffa a siarad â chwsmeriaid, gan wneud trefniadau ar gyfer adfer dyled. Wrth i ni ddod allan o'r pandemig, bydd angen i ni addasu ein dull i wella sefyllfa ein dyled. Roedd y ddarpariaeth dyled ddrwg ar gyfer dyled reoleiddiol yn £0.8 miliwn ar 31 Mawrth 2021.

Busnes hyfyw

Mae'r datganiad o'r sefyllfa ariannol ar 31 Mawrth 2021 yn dangos ecwiti trethdalwyr cadarnhaol o £1,951 miliwn. Bydd ein rhwymedigaethau yn y dyfodol yn cael eu hariannu gan gymorth grant Llywodraeth Cymru a thrwy gymhwyso incwm yn y dyfodol. Rydym wedi cymeradwyo Cynllun Busnes ar gyfer 2021/22. Felly, mae'n briodol mabwysiadu dull busnes hyfyw wrth baratoi'r datganiadau ariannol.

Pensiynau

Datgelir y rhwymedigaeth pensiwn yn y datganiadau ariannol ar sail Safon Cyfrifyddu Ryngwladol 19. Mae'r rhwymedigaeth ar gyfer y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol wedi cynyddu o £1.5 miliwn i £105.8 miliwn yn ystod y flwyddyn.  Mae hyn yn wahanol i'r sylfaen a ddefnyddir ar gyfer cyfrifiadau cyllido. Roedd Cronfa Bensiwn Asiantaeth yr Amgylchedd wedi amcangyfrif bod ganddi ddigon o asedau i fodloni 111% o'i rhwymedigaethau disgwyliedig yn y dyfodol ar 31 Mawrth 2021.

Archwilwyr  

Caiff ein cyfrifon eu harchwilio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Y ffi archwilio ar gyfer 2020/21 oedd £188,000.

Adroddiadau eraill

Fel sefydliad, rydym yn cyhoeddi nifer o adroddiadau yn rheolaidd, gan gynnwys Adroddiad blynyddol ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, Adroddiad amgylcheddol corfforaethol. Gellir hefyd cael mynediad at adroddiadau tystiolaeth ac ymchwil a gyhoeddwyd (gan gynnwys Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2020 ar gyfer Cymru).

Yn ôl at yr Adroddiad blynyddol a chyfrifon 2020 - 2021

Diweddarwyd ddiwethaf