Mae pysgodfeydd morol a physgodfeydd dŵr croyw
Pysgodfeydd mewndirol cynaliadwy yng Nghymru agenda ar gyfer newid
Maen nhw’n ddangosydd allweddol o ansawdd yr amgylchedd, maent yn cynnig cyfleoedd hamdden, ac yn darparu swyddi ac incwm.
Mae pysgodfeydd morol a physgodfeydd dŵr croyw, a’r ecosystemau sy’n eu cynnal, yn hynod o bwysig i les amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd Cymru. Yn ystod y blynyddoedd, mae Cymru wedi ennill safle cadarn ar y map pysgota. Fodd bynnag, ceir sialensiau i sicrhau fod ein pysgodfeydd yn gynaliadwy nawr ac i’r dyfodol.
Mae sefydlu Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfle inni i ystyried ein rôl a’n ffocws o ran rheoli pysgodfeydd, a sut y gallwn weithio’n well gyda phartneriaid yn y meysydd hyn.
Mae cyfleoedd,drwy ein gwaith yn rheoli’n hystâd ni, drwy ein cynlluniau, ein rhaglenni a’n prosiectau, a thrwy ein rôl reoleiddio i datblygudulliau newydd, arddangos yr arferion gorau a rhoi dull rheoli ar lefel yr ecosystem ar waith.
Agenda ar gyfer newid
Yn dilyn cyfres o drafodaethau gyda chymunedau â diddordeb, rydym wedi clustnodi canlyniadau drafft a phrif syniadau a fydd yn caniatáu inni sicrhau fod pysgodfeydd mewndirol Cymru yn darparu buddiannau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol