Cynllun Galluogi - Rheoli Digwyddiadau 2015-2020

Mae ein gwaith yn helpu i sicrhau bod amgylchedd, pobl ac economi Cymru yn elwa ar gael digwyddiadau amgylcheddol sy’n llai aml ac yn llai difrifol. Mae ein ffyrdd o gyflawni’r rôl hon yr un mor bwysig oherwydd mae’n dod â ni i gysylltiad â chymunedau pan fyddant ar eu mwyaf bregus. Nid gwasanaeth brys mohonom, yn hytrach rydym yn darparu cyngor technegol arbenigol i gynorthwyo ein partneriaid proffesiynol yn eu gwaith yn arwain wrth reoli digwyddiadau. Mae’r cynllun galluogi a luniwyd gennym yn gymorth inni gael dull hirdymor, integredig a hyblyg o reoli digwyddiadau.

Atal digwyddiadau rhag bodoli yn y lle cyntaf yw ein nod yn y pen draw er mwyn sicrhau bod ein cyfoeth naturiol yn cael ei reoli’n briodol, ac mae hyn yn rhan annatod o’n gwaith o baratoi ar gyfer digwyddiadau a rheoleiddio. Mae ein gwaith o baratoi ar gyfer unrhyw fath o ddigwyddiad amgylcheddol, ac ymateb iddo, yn cynnwys

  • cynyddu dealltwriaeth y cyhoedd o’r amgylchedd a’u gofal amdano
  • rhoi trwyddedau gyda chymalau i amddiffyn pobl a’r amgylchedd
  • rheoleiddio safleoedd ac adeiladau i atal y risg o ddigwyddiadau
  • rhybuddio’r boblogaeth am lifogydd
  • darparu cyngor technegol i gefnogi’r gwasanaethau brys a phartneriaid eraill cyn, yn ystod ac yn y cyfnod adfer yn dilyn digwyddiad
  • asesu effeithiau amgylcheddol digwyddiadau a chymryd camau i’w lleihau

Byddwn yn gwneud hyn drwy:

  • Ddarparu ymateb effeithiol a chyson i’r tebygolrwydd o ddigwyddiadau amgylcheddol a’u canlyniadau
  • Rheoli ein busnes a’r ffordd yr ydym ni, ac eraill, yn defnyddio’r tir a reolwn
  • Darparu cyngor i’r cyhoedd, busnesau a sefydliadau eraill ynglŷn â dull cydnerth o reoli cyfoeth naturiol mewn perthynas â digwyddiadau

Map of Wales made from newspaper headlines

Caiff y gwaith cyflawni ei fonitro drwy gynllun Atebolrwydd ar sail Canlyniadau.

Cynllun eang

Bob blwyddyn, rydym yn cael tua 9,000 o alwadau’n ymwneud â digwyddiadau ac mae angen inni amddiffyn pobl, yr amgylchedd a’n holl gyfoeth naturiol yng Nghymru drwy sicrhau bod gennym weithgareddau a gweithdrefnau i atal, paratoi, ymateb, trefnu, adfer ac adolygu ein rôl mewn digwyddiadau. Gall effeithiau amrywio’n ddirfawr o ran maint ac ehanger, o’r digwyddiadau bychain y byddwn yn ymdrin â nhw o ddydd i ddydd i ddydd i’r digwyddiadau mawr sy’n effeithio ar rannau mawr o’r wlad.

Bydd yn cyflawni hyn drwy fynd ati’n weithgar gydag eraill:

Fel ymatebydd statudol i ddigwyddiadau:

Sicrhau ein bod yn cyflawni ein rôl rheoli digwyddiadau mewn modd sy’n seiliedig ar risg ac sy’n gyson yn genedlaethol, gan ganolbwyntio ar ble a sut y gallwn wneud y cyfraniad mwyaf posibl i atal a rheoli digwyddiadau.

Diffinio ein rôl fel ei bod yn integredig ac yn effeithiol ac yn cael ei chyfleu mewn modd a ddeellir yn glir wrth gynllunio ar gyfer pob math o ddigwyddiad ac ymateb iddo.

Fel corff cyhoeddus a rheolwr tir:

Bod yn gorff cyhoeddus sydd ymysg y gorau yn y diwydiant, gan hybu a defnyddio arferion gorau er mwyn sicrhau nad yw ein gweithgareddau a’r ffordd y rheolwn ein tir yn achosi unrhyw ddigwyddiadau amgylcheddol.

Fel cynghorydd dylanwadol:

Hyrwyddo tystiolaeth gref ar y cyfraniad y mae amgylchedd iach, heb ei lygru’n ei wneud i les pobl, economïau lleol a’r gallu i wrthsefyll y newid yn yr hinsawdd.

Ein Gwaith Ymateb i ddigwyddiadau

Categoreiddio Digwyddiadau

Mae rheoli digwyddiadau yn bwysig i ni ac mae ein Cynllun Galluogi Rheoli Digwyddiadau wedi ein helpu i gyflenwi polisi categoreiddio digwyddiadau integredig, fel rhan o'n dull cyffredinol o reoli adnoddau naturiol ac atal niwed amgylcheddol.

Byddwn yn parhau i ymateb i ddigwyddiadau posibl a gwirioneddol trwy ddilyn dull sy'n seiliedig ar risg. Byddwn yn blaenoriaethu ein gwaith i sicrhau ein bod ni'n diogelu'r budd uchaf ar gyfer amgylchedd, pobl ac economi Cymru. Bydd hyn yn cyflenwi ateb effeithiol a chyson i bosibilrwydd a goblygiadau digwyddiadau amgylcheddol, megis digwyddiadau llygredd, llifogydd, ac achosion o glefydau'n torri allan. 

Sefydliad galluogi allweddol

Mae rôl Cyfoeth Naturiol Cymru fel sefydliad galluogi yn allweddol i’r cynllun hwn. Bydd hwyluso a gweithio ar y cyd ag eraill yn rhan greiddiol o’n gwaith. Ein cynllun yw canolbwyntio ar y modd y byddwn yn cynorthwyo, cefnogi a hwyluso eraill i gyflawni a gwireddu ein canlyniadau drwy rannu ein harbenigedd, cyfleusterau ac asedau. Mae hefyd yn blaenoriaethu ein rôl yn dylanwadu’n strategol ar yr agendâu rheoli digwyddiadau y mae gennym y dylanwad mwyaf effeithiol arnynt.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Cynllun Galluogi Rheoli Digwyddiadau Saesneg yn unig PDF [720.7 KB]
Cynllun Galluogi Gweithredu Saesneg yn unig PDF [367.4 KB]
ICG nodyn briffio PDF [164.8 KB]
ICG llythyr / letter PDF [178.9 KB]
Diweddarwyd ddiwethaf