Cynllun Busnes

Ein gweithgareddau a’n cyllid 2020 - 2021

Rhagair gan Syr David Henshaw a Clare Pillman


Croeso i'n cynllun busnes blynyddol ar gyfer 2020/21. Rydym wedi gohirio cyhoeddiad yr adroddiad hyd yma fel y gallem ei ddiwygio gan ystyried pandemig Covid-19.

Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn flwyddyn o newid - yn fyd-eang, yn y DU, yng Nghymru ac i ni yn CNC.  Pan oeddem yn paratoi'r Cynllun Busnes hwn yn wreiddiol, ni allai'r un ohonom fod wedi rhagweld yr effeithiau parhaus, eang a thorcalonnus y mae pandemig Covid-19 yn eu cael ar bob un ohonom ledled y byd.  Mae wedi newid y ffordd rydyn ni'n ymddwyn, y ffordd rydyn ni'n rhyngweithio ag eraill a'r ffordd rydyn ni'n gweithio. Ac er ein bod yn ansicr o’r hyn a allai ddod yn sgil y gaeaf beth bynnag fydd yn digwydd, byddwn yn profi ‘normal newydd’.

Mae'n hawdd dweud ein bod ni'n byw mewn cyfnod digynsail, ond daw'r pandemig ar adeg pan rydyn ni'n wynebu argyfwng hinsawdd, argyfwng natur wrth i ni barhau i golli bioamrywiaeth, ac rydyn ni'n adfer ar ôl stormydd a llifogydd y gaeaf diwethaf.  Rydym hefyd yn wynebu'r heriau a'r cyfleoedd a fydd yn codi nawr ein bod wedi gadael yr UE.  Yn CNC, rydym am chwarae ein rhan wrth fynd i'r afael â'r holl faterion hyn, wrth edrych ar ôl diogelwch a lles ein staff, ein partneriaid ac ymwelwyr â'n safleoedd - pawb sy'n byw yng Nghymru neu'n ymweld â hi. Ac rydyn ni am chwarae ein rhan yn Adferiad Gwyrdd Cymru.

Gall natur ein helpu ni o dan yr amgylchiadau hyn, gan ddarparu cyfleoedd economaidd i bobl yng Nghymru fel rhan o'r Adferiad Gwyrdd hwn - creu swyddi, prentisiaethau a hyfforddiant arall, cyfleoedd ar gyfer twristiaeth ac ynni adnewyddadwy, lliniaru llifogydd a darparu mwy o le gwyrdd yn ein trefi a dinasoedd - pob un yn defnyddio datrysiadau ar sail natur ac yn canolbwyntio ar reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. 

Wrth gwrs, mae natur hefyd yn darparu aer a dŵr glân i ni, ein bwyd a'n deunyddiau crai, a llawer o bethau eraill y mae ein bywydau'n dibynnu arnynt. A gall gweld natur a bod ynghanol natur - waeth pa mor fach yw’r ardal, yn y ddinas neu yng nghefn gwlad - fod yn dda i'n hiechyd meddwl a'n lles cyffredinol - gall ein helpu i deimlo'n well.    Gall Adferiad Gwyrdd go iawn - gan weithio'n wahanol gyda natur yn greiddiol i’r cyfan, helpu i ddelio nid yn unig â rhai o effeithiau Covid-19, ond hefyd helpu i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur yr ydym yn eu hwynebu a sicrhau gwell dyfodol economaidd, amgylcheddol a charbon isel i'n holl gymunedau yng Nghymru.

Yn fyd-eang, cafodd graddfa newid yn yr hinsawdd a’r angen dybryd am weithredu i fynd i’r afael ag ef ei atgyfnerthu gan Banel Rhynglywodraethol y Cenhedloedd Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd. Arweiniodd hyn at fudiad argyfwng hinsawdd cynyddol a gydnabuwyd gan y Llywodraeth: datganodd Llywodraeth Cymru a Senedd y DU argyfwng hinsawdd ym mis Ebrill a mis Mai 2019.  

Ynghyd â hyn, yn adroddiad 2019 y Llwyfan Polisi Gwyddoniaeth Rhynglywodraethol ar Wasanaethau Bioamrywiaeth ac Ecosystem, disgrifiwyd colli bioamrywiaeth fel bygythiad o’r un maint – yn argyfwng natur.

Gwnaethom ni yn CNC gyhoeddi ein hail Adroddiad interim ar Gyflwr Adnoddau Naturiol (SoNaRR2) fis Rhagfyr diwethaf.  Mae’r adroddiad yn nodi’n glir ein bod yn wynebu’r ddwy her fyd-eang fawr rhyng-gysylltiedig hyn: newid yn yr hinsawdd a cholli bioamrywiaeth - mae gennym argyfwng hinsawdd ac argyfwng natur. 

Hyd yn oed heb effaith Covid-19, mae'r heriau hyn yn enfawr. Gallwn ni yn CNC helpu i wneud gwahaniaeth trwy weithio gydag eraill a dangos yr hyn y gellir ei wneud yng Nghymru i fynd i'r afael â nhw.  Gan fod yn hyderus y gallwn ymateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur a gwneud y gwahaniaeth hwnnw, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda ni i gynyddu'r cyfleoedd i greu coetiroedd a datblygu rhaglen adfer mawndir ledled Cymru - gan ddarparu atebion naturiol i reoli carbon yn ogystal ag ymateb yn uniongyrchol i'r argyfwng natur. Rydym hefyd yn cefnogi hwb i safleoedd arbennig Cymru ar gyfer natur, safleoedd Natura 2000, sy’n hanfodol bwysig ar gyfer y cynefinoedd a’r rhywogaethau sydd ynddynt, ac ar gyfer gwella ansawdd dŵr, yn enwedig trwy fynd i’r afael â llygredd a achosir gan ddŵr ffo o fwyngloddiau metel.   Ac rydym yn paratoi ar gyfer y newidiadau a fydd yn digwydd yn dilyn ein hymadawiad o'r UE, gan gynnwys gweithio gyda Llywodraeth Cymru i helpu i sicrhau'r canlyniadau gorau ar gyfer rheoli tir a dŵr a physgodfeydd yng Nghymru.

Efallai y bydd llifogydd ac effeithiau Stormydd Ciara, Dennis a Jorge ym mis Chwefror yn ymddangos yn ddim ond atgof i rai, ond mae eraill yn dal i brofi effeithiau’r stormydd hyn. Gwnaethom brofi’r mis Chwefror gwlypaf a’r pumed gaeaf gwlypaf ers i gofnodion ddechrau ym 1862.  Profwyd gwytnwch Cymru i ddigwyddiadau fel y stormydd, ynghyd â’r gallu i ymateb i ddigwyddiadau llifogydd sylweddol.   Parhaodd ein staff i weithio'n ddiflino trwy gydol y cyfnod, ochr yn ochr â sefydliadau partner.  Mae'r hyn rydyn ni'n ei wneud yma yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl. 

Mae'r gwaith adfer o'r digwyddiadau llifogydd hyn yn cael effaith sylweddol yn 2020/21, yn y cymunedau yr effeithir arnynt, ar ein staff, ac ar ein llwyth gwaith a'n blaenoriaethau.  Mae'n bwysig ein bod ni'n dysgu o'r hyn a ddigwyddodd ac yn chwilio am welliannau, a’n bod yn parhau gyda’n gwaith ar sut rydyn ni'n addasu i newid yn yr hinsawdd, yn ogystal â sut i ddelio â'i effeithiau.  Mae angen i ni wneud yr hyn a allwn yn uniongyrchol fel sefydliad, a hefyd chwarae rhan arweiniol wrth gefnogi partneriaid, wrth i'r gymdeithas gyfan wynebu'r heriau hyn. 

Wrth gwrs, er ein bod wedi parhau i weithredu trwy gydol y pandemig, bu'n rhaid i ni newid y ffordd yr ydym yn gweithio.  Roedd yn rhaid i ni gau ein safleoedd ymwelwyr ac atal llawer o'n gwaith maes yn y camau cynnar, ac wrth i ni ailagor safleoedd ac ailddechrau gwaith maes, mae angen i ni wneud hynny’n ofalus ac yn ddiogel.  Fel llawer o sefydliadau eraill, mae'r rhan fwyaf o'n staff yn gweithio ar-lein gartref, gyda llawer yn ymgymryd â chyfrifoldebau gofalu yn ogystal â'u swydd, tra bod eraill yn parhau i weithio ar y rheng flaen.  Mae lles staff o'r pwys mwyaf i ni ac rydym yn annog staff i weithio'n hyblyg, gan ofyn yn rheolaidd am eu barn fel y gallwn helpu i wneud gwaith mor ddi-straen â phosibl o dan amgylchiadau eithriadol. Rydym yn adolygu ein hymateb fel sefydliad i'r pandemig fel y gallwn ddysgu a gwella ein harferion gwaith yn y dyfodol.

Yn y cyd-destun hwnnw, mae sut rydym yn gweithio - adeiladu perthnasoedd gwaith cadarnhaol, canolbwyntio ar wasanaeth cwsmeriaid a chydweithio â phartneriaid sefydledig a newydd, yn ogystal â rhan o bob un o'r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, yn hanfodol bwysig i ni.   Mae Datganiadau Ardal, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2020, yn enghraifft wych o weithio fel hyn - dod â phartneriaid ynghyd i nodi'r heriau a'r cyfleoedd y gall yr amgylchedd naturiol eu darparu ar gyfer ardal benodol, a datblygu atebion arloesol sy'n seiliedig ar natur i broblemau fel rhan o Gynllun Llesiant ehangach, integredig.  Dyma'r ffordd iawn i weithio, a thynnu at ein gilydd a chyfuno adnoddau yw'r unig ffordd y gallwn ni i gyd wneud y newidiadau sydd eu hangen i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur sy'n ein hwynebu.

Mae gennym dimau seiliedig ar le sy'n darparu gwasanaethau lleol, integredig, sy'n addas i'r ardal. Bydd ein rhaglen grantiau ddiwygiedig yn gwneud ceisiadau yn symlach ac yn fwy hyblyg i'r rheini sydd am weithio gyda ni. Ac mae amcanion penodol i helpu i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur yn rhan o gynlluniau gwaith personol pob aelod o staff, p'un a ydynt yn gweithio ar y rheng flaen neu'n cefnogi'r rhai sy'n gwneud hynny.

Rydym yn bwriadu cyhoeddi SoNaRR2 erbyn Mawrth 2021. Bydd hyn yn egluro sut mae adnoddau naturiol cynaliadwy yn cael eu rheoli yng Nghymru ar hyn o bryd ac yn disgrifio'r cyfleoedd a'r heriau sy'n ein hwynebu yn y dyfodol.  Mae datblygu a rhannu tystiolaeth a defnyddio hyn i lywio ac ysbrydoli eraill yn un o'n meysydd gwaith pwysicaf. Rydym yn darparu cyngor ac arweiniad i ystod eang o sefydliadau, gan helpu i lywio penderfyniadau yn y dyfodol - yn arbennig o bwysig gan ein bod yn cefnogi Llywodraeth Cymru i gael canlyniadau gwell ar gyfer defnydd tir a rheoli dyfroedd morol a dŵr croyw yn dilyn ein hymadawiad o'r UE.  Dros y flwyddyn hon a’r flwyddyn nesaf, byddwn hefyd yn cynnal ‘sgwrs genedlaethol’ i ddatblygu gweledigaeth a rennir ar gyfer yr amgylchedd naturiol yng Nghymru ar gyfer 2050, gan helpu sefydliadau i feddwl a chynllunio yn y tymor hir a chydweithio tuag at farn gyffredin.

Mae ein hymrwymiad i lywodraethu a chydymffurfiaeth dda yn sail i'n holl waith. Mae llywodraethu yn ymwneud â sut rydyn ni'n rhedeg ein sefydliad, sut rydyn ni'n gwneud penderfyniadau gwybodus a chyson, sut rydyn ni'n blaenoriaethu rhwng pethau a chydbwyso risgiau.  Mae'n bwysig bod ein system lywodraethu yn briodol ac yn gymesur â'r math o sefydliad yr ydym a’r risgiau sy'n ein hwynebu wrth gyflawni ein hamcanion. Dros y flwyddyn i ddod, byddwn yn gweithio i ymgorffori dull newydd a mwy cynhwysfawr o reoli risg gan adeiladu ar waith blaenorol a wnaed y llynedd. Byddwn hefyd yn symud i weithredu camau gwella, a ddatblygwyd yn dilyn asesiad o'n trefniadau llywodraethu yn erbyn meincnodau allanol - gan gryfhau ein llywodraethu ymhellach.

Er ein bod wedi gorfod adolygu ein Cynllun Busnes ar gyfer eleni yn dilyn y pandemig, mae gennym raglen waith uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol. Mae gennym staff ymroddedig a gweithgar sy'n awyddus i'w gyflawni - er budd yr amgylchedd naturiol ac i bawb sy'n byw yng Nghymru neu'n ymweld â hi. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda chi i'w gyflawni.#

- Syr David Henshaw (Cadeirydd) ac Clare Pillman (Prif Weithredwr)

Cyflwyniad


Mae’r Cynllun Busnes hwn yn rhan o’n Cynllun Corfforaethol cyfredol hyd at 2022.   Mae'n nodi'r hyn yr ydym yn bwriadu canolbwyntio arno eleni i weithio tuag at gyflawni ein hamcanion Llesiant a chyflawni'r camau yr ydym wedi'u nodi yn ein Cynllun Corfforaethol.  Rydym wedi diwygio'r Cynllun Busnes hwn a'r dangosfwrdd perfformiad sy'n cyd-fynd ag ef, gan ystyried pandemig Covid-19. Mae’n seiliedig ar yr hyn rydyn ni'n ei ddeall nawr: gall effeithiau ail don, neu ddigwyddiadau sy'n gysylltiedig â'r tywydd barhau i gael effaith ar y cynllun hwn.

Ein Hamcanion Llesiant a'n Cynllun Corfforaethol hyd at 2022


Bydd ein blaenoriaethau strategol a gwaith eleni yn cyfrannu at gyflawni ein Hamcanion Llesiant a ddisgrifir yn ein Cynllun Corfforaethol hyd at 2022:

  • Hyrwyddo amgylchedd Cymru a rheoli adnoddau naturiol Cymru mewn modd cynaliadwy
  • Sicrhau bod tir a dŵr Cymru yn cael eu rheoli'n gynaliadwy ac mewn modd integredig
  • Gwella gwydnwch ac ansawdd ein hecosystemau
  • Lleihau'r risg i bobl a chymunedau rhag peryglon amgylcheddol megis llifogydd a llygredd
  • Helpu pobl i fyw bywydau iachach a mwy boddhaus
  • Hyrwyddo busnesau llwyddiannus a chyfrifol sy'n defnyddio adnoddau naturiol heb eu difrodi
  • Datblygu CNC yn sefydliad rhagorol, sy'n darparu gwasanaeth cwsmeriaid o'r radd flaenaf

Ein Blaenoriaethau Strategol ar gyfer 2020/21


Ar gyfer 2020/21, rydym yn canolbwyntio ar bum blaenoriaeth strategol yn ein cynllun busnes blynyddol:

  • Ymateb i argyfwng yr hinsawdd
  • Ymateb i'r argyfwng natur
  • Datblygu a defnyddio ein tystiolaeth gyda phartneriaid i ddadlau dros reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy a sicrhau bod hynny’n digwydd
  • Datblygu CNC yn sefydliad rhagorol sy'n gwasanaethu cymunedau Cymru
  • Ymateb i bandemig Covid-19 a'r DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, gan gymryd cyfleoedd i gael adferiad gwyrdd

Wrth gwrs, byddwn yn dal i wneud ein holl waith ‘busnes fel arfer’, a bydd llawer ohono’n cyfrannu at y pum blaenoriaeth strategol hyn - ymateb i ddigwyddiadau, gofalu am y coetiroedd a’r Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol rydym yn eu rheoli a darparu cyngor ac arweiniad er enghraifft. Ni fydd hyn i gyd yn cael ei amlinellu yn y cynllun busnes hwn.  Nod ein holl waith yw sicrhau ein bod yn rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy ac yn defnyddio'r naw egwyddor ar gyfer rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, gan helpu eraill i wneud yr un peth - dyma ein pwrpas ac mae'n sylfaenol i bopeth a wnawn.

Yn ogystal â'n rolau parhaus, rydym wedi nodi meysydd gwaith allweddol y byddwn yn mynd i'r afael â hwy yn 2020/21 o dan bob un o'r blaenoriaethau strategol. Wrth gwrs, mae peth o'n gwaith yn cyfrannu at fwy nag un o'r blaenoriaethau strategol ond mae wedi'i restru lle mae’n gweddu orau.

Ymateb i argyfwng yr hinsawdd


Mae'r camau'n cynnwys:

Lleihau ein hôl troed carbon

  • Dilyn ein blaenoriaethau yn y rhaglen Carbon Bositif, gan gynnwys paneli solar ar swyddfeydd, seilwaith gwefru cerbydau a cherbydau trydan, galluogi teithio llesol a chynaliadwy, ymgyrchoedd newid ymddygiad, rhoi mwy o ystyriaeth i garbon wrth gaffael a chynllunio effeithlonrwydd ynni yn ein hadeiladau.
  • Rhannu’r hyn a ddysgwn o’r rhaglen Carbon Bositif gyda'r sector cyhoeddus ehangach yng Nghymru i hwyluso gweithio rhanbarthol cydweithredol ar ddatgarboneiddio sy'n cefnogi'r uchelgais ar gyfer sicrhau sector cyhoeddus carbon niwtral erbyn 2030.
  • Gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddefnyddio Cynhadledd y Partïon y Cenhedloedd Unedig yn Glasgow (COP 26) sydd bellach wedi'i threfnu ar gyfer Tachwedd 2021 fel cyfrwng i ennill momentwm go iawn ar gyfer newid, yn enwedig i helpu i ddarparu atebion seiliedig ar natur i'r materion sy'n ein hwynebu.
  • Cyflawni blaenoriaethau'r rhaglen ynni adnewyddadwy ar y tir gan gynnwys hwyluso datblygiad prosiectau ynni adnewyddadwy ar dir a reolir gan CNC fel rhan o'n portffolio Datblygu Ynni, gan weithio gyda'n timau seiliedig ar le.
  • Cyflawni blaenoriaethau'r rhaglen ynni adnewyddadwy ar y môr a gwella ein dealltwriaeth o rôl yr amgylchedd morol wrth liniaru newid yn yr hinsawdd.
  • Ymgysylltu â Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill i ddarparu prosesau rheoleiddio a dulliau effeithiol ar gyfer newid deddfwriaeth.

Creu coetir newydd

  • Datblygu a chyflawni ein rhaglen creu coetir, gan gynnwys cynigion ar gyfer datblygu prosiectau creu coetir fel Plant! (plannu coeden ar gyfer pob plentyn sy’n cael ei eni neu ei fabwysiadu yng Nghymru) a chefnogi cynllun cyllido Glastir Llywodraeth Cymru a’r targedau uchelgeisiol ar gyfer gorchudd coetir yng Nghymru.
  • Helpu i greu coetir newydd fel rhan o'r Goedwig Genedlaethol, gan greu ecosystemau cysylltiedig, coetiroedd cynhyrchiol a choetiroedd cymunedol, gan gynnwys cefnogi prosiectau arddangos mewn nifer o safleoedd ledled Cymru.
  • Caffael a phlannu tir gyda choetir newydd, gan wneud iawn am gael gwared ar goetir ar gyfer datblygu ynni adnewyddadwy ac ehangu Ystad Goetir Llywodraeth Cymru

 Adfer mawndir

  • Datblygu a chychwyn rhaglen 4-5 mlynedd i ddod â mawndiroedd Cymru dan reolaeth gynaliadwy er mwyn adfer eu bioamrywiaeth sy'n dirywio a darparu'r ystod lawn o wasanaethau ecosystem sy'n gysylltiedig â mawndiroedd mewn cyflwr da. Mae hyn yn cynnwys amddiffyn carbon sy'n cael ei storio a lleihau allyriadau trwy ailwlychu mawndir trwy adfer systemau hydrolegol naturiol - a'u cydbwysedd dŵr naturiol.
  • Parhau i gyflawni prosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru  yr UE (a ariennir gan raglen LIFE yr UE).

 Rheoli perygl llifogydd

  • Cwblhau'r gwaith adfer sylweddol o stormydd y gaeaf, gan gynnwys asesu amddiffynfeydd, astudiaethau i fecanweithiau llifogydd a gwaith gwella posibl, mwy o waith gyda chymunedau a chyda phartneriaid fel Awdurdodau Lleol.
  • Cwblhau ein hadolygiad mewnol i'r gwersi a ddysgwyd a'r gwelliannau sy'n deillio o'r llifogydd gaeaf sylweddol.  Cynllunio, cyflawni a blaenoriaethu'r mentrau gwella a fydd yn digwydd o ganlyniad, darparu adnoddau ar gyfer tasgau newydd a rheoli'r effaith ar waith arall.
  • Parhau i reoli a darparu prosiectau cyfalaf sylweddol sy'n lleihau'r risg o lifogydd i gymunedau.  Cwblhau’r prosiectau yng Nghrindau a Llwynypia, a pharhau i ddatblygu prosiectau mewn lleoedd fel Rhydaman, Llyn Tegid, Aberteifi a Phorthmadog.
  • Cyflawni gwaith cynnal a chadw i sicrhau bod y risg is o lifogydd yn cael ei gynnal ar gyfer cymunedau sy'n byw mewn ardaloedd sy’n cael eu hamddiffyn.
  • Parhau i weithio gyda phartneriaid i ddatblygu a gweithredu cynlluniau addasu mewn ymateb i newid yn yr hinsawdd, yn enwedig ar yr arfordir, gan hyrwyddo'r defnydd o ymyriadau seiliedig ar natur lle bo hynny'n briodol.
  • Gweithio ochr yn ochr â phartneriaid i gyflawni tasgau sy'n deillio o Strategaeth Genedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydiad Arfordirol, sydd i fod i gael ei chyhoeddi yn 2020, gan gynnwys sicrhau bod ein gwybodaeth fapio a modelu Asesiad Perygl Llifogydd Cymru newydd ar gael.
  • Rheoleiddio pob cronfa ddŵr yng Nghymru i sicrhau cydymffurfiad parhaus â'r Ddeddf Cronfeydd Dŵr, gan ymgorffori unrhyw ofynion newydd o'r adolygiad o ddigwyddiad Toddbrook (Whaley Bridge) yn Lloegr yn 2019. Rheoli ein cronfeydd dŵr ein hunain i sicrhau cydymffurfiaeth, gan gynnwys hynt y gwaith mawr sy’n ofynnol yn Llyn Tegid.

Ymateb i'r Argyfwng Natur


Mae'r camau'n cynnwys:

Rhoi natur yn y canol

  • Cydnabod y rhyngweithio agos rhwng ymateb i'r hinsawdd a'r argyfyngau natur a nodi cyfleoedd i fod o fudd i'r ddau yn enwedig ar draws cynefinoedd sy’n gallu storio carbon a helpu i leddfu llifogydd ar fawndir, coetir a morfa heli.
  • Hyrwyddo blaenoriaethau ‘Natur Hanfodol’, strategaeth CNC ar gyfer natur, gan ymgorffori ystyriaeth o fioamrywiaeth a gwytnwch ecosystemau ar draws holl swyddogaethau CNC a helpu cyrff cyhoeddus eraill i wneud yr un peth.
  • Archwilio camau bioamrywiaeth ar draws CNC a datblygu canllawiau i'n staff ar yr hyn y mae gwytnwch ecosystemau yn ei olygu yn ymarferol.

Amddiffyn cynefinoedd a rhywogaethau arbennig - daearol, dŵr croyw a morol

  • Helpu i gynnal a chadw a gwella Rhwydwaith Natura 2000 Cymru gan gynnwys cefnogi buddsoddiad cyfalaf mewn gwarchodfeydd natur a phrosiectau morol, daearol a dŵr croyw.
  • Parhau i wneud gwelliannau bioamrywiaeth ar y Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol (GNGau) a'r coetiroedd rydyn ni'n eu rheoli, gan arwain trwy esiampl a dangos arferion da.
  • Helpu i wyrdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth trwy sicrhau camau gweithredu wedi'u targedu ar gyfer rhywogaethau sy'n dirywio neu'r rhai sy’n wynebu difodiant, gan gynnwys y gylfinir, eog a siwin, wystrys brodorol, britheg y gors, y gardwenynen feinllais a’r wiwer goch er enghraifft.
  • Gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu Cynllun Adferiad Gwyrdd a Thwf Amgylcheddol.  
  • Cyflwyno arferion bioddiogelwch effeithiol, gan gymryd mesurau i atal achosion o glefydau planhigion a chanfod ac ymateb yn gyflym i unrhyw achosion sy'n digwydd, a lleihau effaith rhywogaethau estron goresgynnol.

Rheoli tir yn gynaliadwy

  • Rhoi cyngor, arweiniad a chefnogaeth i hyrwyddo rheoli tir yn gynaliadwy, a gweithredu fel delfryd ar y tir rydym yn ei reoli.
  • Cefnogi mwy o weithio mewn partneriaeth ar draws tirweddau dynodedig Cymru - ei Pharciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol.
  • Gweithio gyda pherchnogion tir a rheolwyr gan gynnwys trwy Cyswllt Ffermio i hyrwyddo arferion cynaliadwy.
  • Gweithredu a chefnogi cynllunio a darparu Seilwaith Gwyrdd trwy weithio gydag eraill (gan gynnwys Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus), gwell cyngor, arweiniad a thystiolaeth.

 Rheoli'r môr yn gynaliadwy

  • Datblygu dull cymesur yn ein swyddogaethau cynghori a rheoleiddio i weithredu Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru,.
  • Cyflwyno'r rhaglen gwydnwch ecosystemau morol, gan gynnwys ein cyfraniad at Gyfarwyddeb Fframwaith y Strategaeth Forol.
  • Gweithredu a chefnogi datblygiad pellach Fframwaith Rheoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig Cymru.

 Gwella ansawdd dŵr

  • Datblygu a chyflawni’r blaenoriaethau yn y rhaglen adfer afonydd, ac ar gyfer yr amgylchedd morol ger y lan, gan gynnwys drwy’r dalgylchoedd ‘cyfle’ - y rhai a fydd yn darparu’r buddion gorau ar gyfer ansawdd dŵr, bioamrywiaeth a ffactorau eraill.
  • Datblygu ymchwiliadau a chamau gweithredu lleol a chenedlaethol fel rhan o'n rhaglen Cyfarwyddeb Fframwaith Dŵr (WFD).
  • Cyhoeddi Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd drafft ar gyfer y cylch chwe blynedd nesaf o dan WFD.
  • Cyflawni mesurau adfer dalgylchoedd i wella ansawdd dŵr neu bysgodfeydd, gan wella cyfathrebu â'r cyhoedd.
  • Asesu ac adrodd i Lywodraeth Cymru ar gynlluniau sychder cwmnïau dŵr; asesu ac archwilio cynlluniau rheoli adnoddau dŵr cwmnïau dŵr, cynlluniau rheoli draenio a dŵr gwastraff cwmnïau dŵr ac adrodd i Ofwat a Llywodraeth Cymru.
  • Cefnogi Llywodraeth Cymru i sicrhau bod buddiannau Cymru’n cael eu hystyried, eu hyrwyddo a’u gwarchod yn y Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Adnoddau Dŵr, sydd i fod i gael ei gyhoeddi gan Asiantaeth yr Amgylchedd yn gynnar yn 2020.

 Rheoli llygredd

  • Cefnogi Llywodraeth Cymru yn ei nod i ddatblygu economi mwy cylchol, rheoleiddio diwydiant ac wrth fonitro'r defnydd o adnoddau a mynd i'r afael â gwastraff anghyfreithlon.
  • Mynd i'r afael â materion troseddau amgylcheddol ac mewn safleoedd a ganiateir sy'n perfformio'n wael, gan gynnwys cyflwyno unrhyw gynlluniau gwella cydymffurfiaeth gan ddefnyddio dulliau rheoli o bell lle bo hynny'n bosibl a chanolbwyntio ar safleoedd sy'n cael yr effaith fwyaf.
  • Gweithredu'r mentrau llygredd amaethyddol trwy ymgysylltu'n barhaus ag Is-grŵp Fforwm Rheoli Tir Cymru.
  • Datblygu a gweithredu'r rhaglen i ddelio â gwaddol tir halogedig a chyflawni'r blaenoriaethau yn y rhaglen adfer mwyngloddiau metel, gan fynd i'r afael â gwelliannau i ddŵr mwyngloddio e.e. yn Frongoch, Cwmystwyth a Chwm Rheidol i gyd ger Aberystwyth.
  • Datblygu ein rôl wrth fynd i'r afael ag ansawdd aer, gan weithio gyda Llywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol.

Datblygu a defnyddio ein Tystiolaeth gyda Phartneriaid i Ddadlau dros reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy a Sicrhau bod hynny’n digwydd


Mae’r camau’n cynnwys:

Creu Gweledigaeth a Rennir ar gyfer yr amgylchedd naturiol ar gyfer 2050

  • Ymgymryd â cham dadansoddi'r rhaglen i ddatblygu'r weledigaeth a rennir ar gyfer yr amgylchedd naturiol, a chychwyn cam cyntaf digwyddiadau sgwrsio cenedlaethol.

Gwella a Chyflwyno Tystiolaeth am yr Amgylchedd Naturiol

  • Datblygu a chyhoeddi ein hail (SoNaRR2) ar ôl cyhoeddi'r adroddiad interim ym mis Rhagfyr 2019.
  • Gwerthuso risg a bregusrwydd yr hinsawdd gan ddefnyddio amcanestyniadau hinsawdd UKCP18 a ddiwygiwyd yn ddiweddar.
  • Datblygu a darparu Gwerthusiad Gwaelodlin o safleoedd Gwarchodedig Daearol a Dŵr Croyw (Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACAau) a Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGAau)) i asesu cyflwr dangosol eu nodweddion a llywio datblygiad rhaglen fonitro seiliedig ar risg. Mae asesiadau safle dangosol ar gyfer safleoedd morol eisoes wedi'u cyhoeddi.

Gweithio gyda Phartneriaid a Chymunedau gan ddefnyddio Datganiadau Ardal

  • Sicrhau ein bod yn chwarae ein rhan ymhob un o'r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ledled Cymru, gan ddefnyddio ein Datganiadau Ardal i helpu i nodi'r cyfleoedd y gallai'r amgylchedd naturiol eu darparu yn yr ardal leol a darparu atebion seiliedig ar natur i heriau lleol.
  • Sicrhau ein bod yn darparu'r dystiolaeth sy'n ofynnol ar gyfer Datganiadau Ardal, gan weithio fel rhan o Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i sicrhau eu bod yn rhan annatod o Gynlluniau Llesiant.
  • Ymgysylltu â rhanddeiliaid i gasglu gwybodaeth ychwanegol a sicrhau buddion gweladwy gyda ac ar gyfer cymunedau lleol.

Datblygu CNC yn sefydliad rhagorol sy'n gwasanaethu cymunedau Cymru


Mae’r camau’n cynnwys:

Ymateb i Ddigwyddiadau a'u Rheoli

  • Sicrhau ein bod yn darparu gwasanaeth rheoli digwyddiadau effeithiol a gwydn.  Cwblhau’r gwaith o gyflwyno'r rhaglen hyfforddi a ddechreuodd yn 19/20 ac ategu hyn gyda fframwaith cymhwysedd a rhaglen barhaus o ymarferion.
  • Gweithio gyda chydweithwyr Rheoli Perygl Llifogydd ar elfennau Adfer ac Adolygu digwyddiadau llifogydd y gaeaf, gan nodi a gweithredu unrhyw welliannau a chamau gweithredu ar gyfer y gwasanaeth rheoli digwyddiadau ehangach.
  • Parhau i ddefnyddio dull ‘brysbennu’ gyda digwyddiadau i sicrhau bod digwyddiadau’n cael eu blaenoriaethu a’n bod yn ymdrin â hwy yn y ffordd fwyaf effeithlon a phriodol a pharhau i wella trefniadau adrodd digwyddiadau.
  • Amddiffyn pobl, cymunedau ac ecosystemau rhag digwyddiadau amgylcheddol, gan gynnwys gweithio gydag eraill i leihau llygredd damweiniol a chefnogi mentrau i baratoi ar gyfer llifogydd, ac ymateb iddynt, ynghyd â materion eraill fel Covid-19 a goblygiadau posibl gadael yr UE.

Budd i Gymunedau

  • Datblygu ein dull o ymgysylltu â rhanddeiliaid a gweithio gyda nhw - rhanddeiliaid newydd a'r rhai rydyn ni'n eu hadnabod yn dda.
  • Annog economi gynaliadwy sydd â chysylltiad lleol sy'n darparu cyfleoedd gwych i bobl sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymru ac yn ymweld â hi.
  • Cefnogi Cynllun Gweithredu Twristiaeth Llywodraeth Cymru, gan gynnwys Llwybr Arfordir Cymru a Llwybrau Cenedlaethol.
  • Cefnogi mentrau sy'n gwella iechyd corfforol a meddyliol fel Partneriaeth Gweithgarwch Corfforol Cymru, rhagnodi cymdeithasol a strategaeth Pwysau Iach: Cymru Iach Llywodraeth Cymru.

 Datblygu ein Sefydliad

  • Cyflawni gwaith llywodraethu da ar draws CNC gan sicrhau ein bod yn dilyn y broses briodol ac yn atebol am ein gweithredoedd.
  • Gwreiddio rheolaeth gynaliadwy ar adnoddau naturiol ac egwyddorion hynny, a phum ffordd o weithio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) ar draws ein sefydliad.
  • Datblygu dull sefydliadol o addasu i newid yn yr hinsawdd wedi'i lywio gan y safon addasu ISO rhyngwladol newydd.
  • Gwreiddio gwerthoedd ac ymddygiad #TîmCyfoeth yn y sefydliad.
  • Sicrhau bod timau seiliedig ar le yn ceisio ymgysylltu a deall y gwahanol anghenion cymunedol yn eu hardaloedd, fel ein bod yn clywed ac yn deall y materion yn llawer gwell.
  • Adolygu ein proses Asesu Effaith Cydraddoldeb fel ein bod yn asesu ac yn ymgysylltu mewn ffordd fwy teg ac ystyrlon.
  • Sicrhau ein bod yn gwneud y defnydd gorau a llawnaf o'n hadnoddau ariannol, gan reoli ein gwariant yn ofalus.
  • Datblygu ein dulliau cyfathrebu fel bod pawb yng Nghymru yn deall yn well sut a pham rydyn ni'n gweithio yn y ffordd rydyn ni'n gweithio a'r hyn rydyn ni'n ei gyflawni.
  • Gwneud ein gwasanaethau digidol yn hygyrch i'r holl ddefnyddwyr a sicrhau bod y gwasanaethau hyn ar gael yn eang ac yn gydnerth.
  • Datblygu ymhellach ddull sy'n seiliedig ar risg yn ein gwaith.
  • Datblygu ein cynllun gweithlu i sicrhau bod gennym y capasiti a'r gallu i wneud ein gwaith nawr ac yn y dyfodol a darparu offer effeithiol i recriwtio a chadw staff.
  • Datblygu dulliau arloesol o weithio.

 Sicrhau Lles, Iechyd a Diogelwch Pawb

  • Sicrhau bod y rhai sy'n ymweld â thir rydyn ni'n ei reoli, neu'n gweithio i ni, yn gwneud hynny mewn amgylchedd diogel.
  • Gweithredu ein Cynllun diogelwch coedwigoedd.
  • Sicrhau sefydliad i asesu ac archwilio CNC yn unol â'n hymrwymiad i sicrhau cofrestriad i ISO 45001.
  • Amddiffyn iechyd a lles ein cymunedau a'n hecosystemau trwy gyflawni blaenoriaethau rheoleiddiol allweddol - gan gynnwys ar gyfer iechyd planhigion coed, amaethyddiaeth ddwys, mynd i'r afael â throseddau gwastraff a safleoedd gwarchodedig.

 Canolbwyntio ar ein Cwsmeriaid

  • Cyflwyno gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar y cwsmer i randdeiliaid mewnol ac allanol.
  • Gweithredu ein rhaglen gwasanaeth cwsmeriaid.
  • Sicrhau bod ein proses Grantiau newydd yn caniatáu gweithio'n agosach gyda rhanddeiliaid allanol mewn ffordd sy'n effeithlon i bawb, gan wneud y prosesau ymgeisio mor syml ac effeithiol â phosibl, a symud tuag at ddull tymor hwy mwy hyblyg ac ymatebol. Bydd tri math o grant ar gael: y Grant Cais am Ganlyniadau a Rennir, y Grant Cystadleuol a'r Grant Cyllid Strategol a Ddyrennir.

 Gwneud y gorau o'n Cyfleoedd Masnachol

  • Datblygu ein Strategaeth Fasnachol gan gynnwys datblygu ac ymgynghori ar Gynllun Gwerthu a Marchnata Pren diwygiedig a chyflawni Cynllun Busnes Labordy CNC.
  • Ymgysylltu â'n cyflenwyr i gael gwell dealltwriaeth o effaith ein gofynion caffael a lleihau effeithiau carbon mewn gweithgaredd caffael ar draws meysydd allweddol sy'n cyfrannu at allyriadau carbon.

Ymateb i bandemig Covid-19 a'r DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, gan gymryd cyfleoedd i gael adferiad gwyrdd


Mae’r camau’n cynnwys:

Rhoi cyngor ac arweiniad

  • Cefnogi Llywodraeth Cymru i drosglwyddo swyddogaethau o'r UE i weinyddiaethau'r DU a Chymru, gan ystyried maint y gwaith hwn a sut yr effeithir ar ein rolau yn CNC: mae trosglwyddo swyddogaethau yn debygol o arwain at waith a chyfrifoldeb ychwanegol i CNC.
  • Cyfrannu at waith Llywodraeth Cymru a helpu i lunio'r Egwyddorion Amgylcheddol a'r dulliau llywodraethu sy'n ofynnol yn dilyn ein hymadawiad o'r UE. Mae hyn yn cynnwys rôl, cylch gwaith a swyddogaeth corff goruchwylio newydd i Gymru a deall effaith y corff newydd ar rôl a chylch gwaith CNC ei hun.
  • Gweithio gyda Llywodraeth Cymru i fonitro trafodaethau masnach a datblygu deddfwriaeth y DU a Chymru, fel Mesur Amaeth Cymru a Mesur Pysgodfeydd Cymru, a'r ddeddfwriaeth sy'n ofynnol i sefydlu'r corff newydd, gan ddeall effaith newidiadau posibl. 

Bod yn barod am newid

  • Sicrhau bod gan CNC gynlluniau ar waith i ddelio â materion a chyfleoedd a allai godi nawr ein bod wedi gadael yr UE, gan ddarparu cyngor a chefnogaeth i randdeiliaid a gwrando ar eu hadborth, gan gynnwys a yw trafodaethau yn arwain at senario dim bargen.
  • Adolygu contractau / fframweithiau ar gyfer goblygiadau Ymadael â’r UE.
  • Sicrhau ein bod yn cyfleu newidiadau yn glir i staff, partneriaid a rhanddeiliaid eraill fel ei gilydd, yn ogystal â chefnogi staff sydd (neu aelodau o'u teulu sydd) yn ddinasyddion yr UE. 

Rheoli ein perfformiad


Ymateb i'r argyfwng hinsawdd

  • Lleihau ein hôl troed carbon
    • Camau gweithredu brys dros yr hinsawdd ar draws Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Creu coetir newydd
    • Dilysu ceisiadau cynllun grant ar gyfer Cynllun Creu Coetir Glastir
    • Arwynebedd y coetir newydd a grëwyd ar ystad Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Adfer mawndiroedd
    • Camau gweithredu a gymerwyd i adfer mawndiroedd Cymru
  • Rheoli perygl llifogydd
    • Cwblhau adolygiad Cyfoeth Naturiol Cymru o stormydd y gaeaf 2019/20 ac adrodd ar weithredu’r argymhellion
    • Cynnal a chadw asedau perygl llifogydd mewn systemau risg uchel yn eu cyflwr targed

Ymateb i'r argyfwng ym myd natur

  • Rhoi natur wrth wraidd popeth
    • Camau gweithredu dros fioamrywiaeth ar draws Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Diogelu cynefinoedd a rhywogaethau, gan gynnwys rhai daearol, dŵr croyw a morol
    • Camau gweithredu â blaenoriaeth a gymerwyd ar safleoedd gwarchodedig i wella cyflwr nodweddion
    • Camau gweithredu a gymerwyd ar Warchodfeydd Natur Cenedlaethol ar dir a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru i wella cyflwr a nodweddion
    • Cyflawni'r camau gweithredu sydd wedi'u targedu ar gyfer rhywogaethau sy'n dirywio neu sydd ar fin diflannu
  • Rheoli tir yn gynaliadwy
    • Nifer y Ceisiadau Camau Unioni Mawr, Ceisiadau Camau Unioni Bychain ac arsylwadau sydd ar agor o dan Safon Sicr Coetiroedd y Deyrnas Unedig ar dir a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru o'r archwiliad diweddaraf yn erbyn Safon Sicr Coetiroedd y Deyrnas Unedig a chynnydd wrth eu cau
    • Cynnydd yn ein cefnogaeth i Lywodraeth Cymru o ran seilwaith gwyrdd mewn ardaloedd trefol, datblygu canllawiau ar gyfer creu asesiadau seilwaith gwyrdd, a chyngor ar ddefnyddio Datganiadau Ardal wrth greu Cynlluniau Datblygu Lleol
  • Rheoli'r môr yn gynaliadwy
    • Gweithredu Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru
    • Cynnydd wrth reoli’r rhwydwaith o Ardaloedd Morol Gwarchodedig
  • Gwella ansawdd dŵr
    • Nifer yr ymchwiliadau o dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr a gwblhawyd yn seiliedig ar y nifer oedd yn ofynnol ar ddechrau'r flwyddyn; dyma'r cyfraniad ar gyfer eleni i darged aml-flwyddyn
  • Rheoli llygredd
    • Cynnydd yn ein gwaith i leihau llygredd o gloddfeydd metel
    • Perfformiad gollyngiadau ansawdd dŵr a safleoedd diwydiannol a gwastraff a reoleiddir – nifer yr achosion o dorri amodau cydymffurfio Categori 1 a Chategori 2 gyda'r ymateb rheoleiddiol priodol wedi'i benderfynu o fewn chwe mis

Datblygu a defnyddio'n tystiolaeth gyda phartneriaid i eirioli dros Reoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy a’i gyflawni

  • Creu gweledigaeth a rennir ar gyfer yr amgylchedd naturiol yn 2050
    • Cyflenwi'r rhaglen i greu gweledigaeth a rennir ar gyfer yr amgylchedd naturiol yn 2050, gan adeiladu ar ein gwaith ar gyfer adferiad gwyrdd
  • Gwella a chyflwyno tystiolaeth a'r amgylchedd naturiol
    • Cyhoeddi Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2
    • Defnyddio Datganiadau Ardal o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru

Datblygu Cyfoeth Naturiol Cymru i fod yn sefydliad rhagorol sy'n gwasanaethu cymunedau Cymru

  • Ymateb i ddigwyddiadau a'u rheoli
    • Asesu digwyddiadau (o fewn 1 awr)
    • Ymateb i ddigwyddiadau categori uchel (o fewn 4 awr)
  • Bod o fudd i gymunedau
    • Datblygu ein dull o ymgysylltu a chydweithio â rhanddeiliaid – rhanddeiliaid newydd a'r rhai rydym yn eu hadnabod yn dda
    • Cefnogi Cynllun Gweithredu Twristiaeth Llywodraeth Cymru trwy hyrwyddo Llwybr Arfordir Cymru a'r Llwybrau Cenedlaethol
  • Datblygu ein sefydliad
    • Datblygu ein cynllun gweithlu ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru, gan weithio i gyflwyno camau â blaenoriaeth
    • Adolygu ein proses ar gyfer asesu’r effaith ar gydraddoldeb fel ein bod yn ymgysylltu â chymunedau mewn ffordd decach
  • Sicrhau llesiant, iechyd a diogelwch pawb
    • Cynnydd tuag at ennill gwobr Aur y Safon Iechyd Corfforaethol
    • Nifer y digwyddiadau trwch blewyn a digwyddiadau lle collwyd amser yr oedd ein gweithwyr yn rhan ohonynt
  • Rhoi sylw i gwsmeriaid
    • Datblygu’r rhaglen cwsmeriaid – cynyddu cyfranogiad cwsmeriaid
    • Adolygu a diffinio pob mecanwaith ariannu sydd ar gael i Cyfoeth Naturiol Cymru, gan sicrhau aliniad â'n Polisi Grantiau a chanolbwyntio ar anghenion cwsmeriaid
  • Gwneud y mwyaf o gyfleoedd masnachol
    • Cyhoeddi Strategaeth Fasnachol Cyfoeth Naturiol Cymru
    • Swm y pren a gynigiwyd i'r farchnad / a werthwyd / a ddosbarthwyd

Ymateb i’r pandemig COVID-19 a’r DU yn ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, gan fanteisio ar gyfleoedd i sicrhau adferiad gwyrdd

  • Darparu cyngor ac arweiniad
    • Cyfraniad Cyfoeth Naturiol Cymru yn dilyn ymadael â'r UE, gan gynnwys cerrig milltir ar trosglwyddo swyddogaethau, egwyddorion amgylcheddol, llywodraethu, a'r corff goruchwylio newydd, a deddfwriaeth newydd (datblygu'r Bil Amaethyddiaeth a'r Bil Pysgodfeydd)
  • Bod yn barod am newid
    • Cynnydd o ran parodrwydd Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer unrhyw ddigwyddiadau neu faterion posibl yn dilyn ymadael â’r UE
    • Gweithredu rhaglen Adnewyddu Covid-19

Fel sefydliad sy’n cyflawni, mae angen i ni allu dangos pa mor dda rydyn ni wedi perfformio. Gan ddefnyddio'r Cynllun Busnes hwn, a'i ddisgrifiadau o'n gwaith a'n blaenoriaethau parhaus, rydym wedi datblygu dangosfwrdd perfformiad y bydd ein Bwrdd yn ei ddefnyddio bedair gwaith y flwyddyn i graffu ar gyflawni a dwyn ein Tîm Gweithredol i gyfrif. Yn dilyn y chwarter cyntaf, rydym wedi diwygio'r cerrig milltir a'r targedau ar ein dangosfwrdd perfformiad i sicrhau bod gennym raglen y gellir ei chyflawni wrth weithio o fewn y cyfyngiad a osodir arnom gan y pandemig a sicrhau ein bod yn ystyried lles ein staff yn llawn.

Islaw’r Dangosfwrdd hwn mae sawl haen o reoli perfformiad, sy'n caniatáu i'n Tîm Arweinyddiaeth, Gwasanaethau, Lleoedd, timau ac unigolion fonitro perfformiad.  Gyda'i gilydd, mae hyn yn rhoi darlun cynhwysfawr o berfformiad y sefydliad. Mae'n allweddol wrth i ni sicrhau ein bod ni'n ystyried y Gwasanaethau rydyn ni'n eu cynnig a'r Llefydd rydyn ni'n gweithio ynddynt yn gyfannol ac mae'n sylfaenol i'n penderfyniadau.

Ein Blaenoriaethau Strategol yn gysylltiedig â'n Hamcanion Llesiant


Bydd ein gwaith eleni yn erbyn ein Blaenoriaethau Strategol yn helpu i gyflawni ein Hamcanion Llesiant tymor hwy fel y nodir yn ein Cynllun Corfforaethol hyd at 2022.

Adnoddau   


Rydym yn gwybod y bydd cyllid ac adnoddau yn parhau i newid yn y dyfodol; rydym wedi ymgorffori hyblygrwydd a gwytnwch yn nyluniad y sefydliad fel y bydd unrhyw newidiadau i adnoddau yn canolbwyntio ar addasu timau yn hytrach nag ailstrwythuro llwyr. Nawr yn fwy nag erioed, bydd cydweithredu’n agos â sefydliadau eraill, yn enwedig wrth ddarparu Cynlluniau Llesiant Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a chyda’r byd academaidd a chyrff proffesiynol i ddatblygu dulliau arloesol, yn sylfaenol i’n llwyddiant.

Mae ein Strategaeth Gyllid yn tynnu sylw at y cyfleoedd a'r heriau ariannol sy'n ein hwynebu wrth gyflawni'r targedau yn y Cynllun Busnes hwn a'r ymrwymiadau yn ein Cynllun Corfforaethol. Byddwn yn ceisio cynyddu ein cyfleoedd incwm masnachol i'r eithaf, dangos ein bod yn rheoleiddio diwydiannau yng Nghymru yn effeithlon ac yn gwneud y defnydd gorau o'r Grant Cymorth a dderbyniwn gan Lywodraeth Cymru. Byddwn yn defnyddio atebion i sicrhau ein bod yn defnyddio'r cyllidebau a bennwn yn effeithlon ac yn effeithiol i wneud y mwyaf o'r adnoddau sydd gennym.

Yn wreiddiol roedd cyfanswm ein gwariant a'n cyllid yn y Cynllun Busnes yn £204.6m, £172.6m o refeniw a £32.0m o gyfalaf, i'w ariannu gan Gymorth Grant (£101.3m), taliadau (£37.9m), incwm masnachol a chyllid allanol (£44.0m) ac incwm wedi’i ddwyn ymlaen o 2019-20 (£21.4m).

Oherwydd yr effaith y mae pandemig Covid-19 wedi'i chael ar ein gwahanol ffynonellau a gweithrediadau cyllido, rydym wedi diwygio ein cynlluniau a'n cyllidebau. Er ein bod yn wreiddiol wedi rhagweld gostyngiad yn ein hincwm masnachol, rydym wedi gweld adferiad cryf iawn ym mis Mehefin a mis Gorffennaf ac rydym bellach yn rhagweld y bydd ein ffrydiau incwm masnachol yn cynyddu (£5.6m) ond mae Llywodraeth Cymru wedi gostwng ein Grant Cymorth Nad yw ar Gyfer Llifogydd (£ 7.6m) i helpu i ariannu'r costau o fynd i'r afael â'r pandemig.  Yn ogystal, rydym wedi diweddaru'r cyllidebau i adlewyrchu newidiadau eraill gan gynnwys Grant Cymorth refeniw llifogydd ychwanegol. O ganlyniad, mae ein gwariant a'n cyllid yn y Cynllun Busnes bellach yn £204.5m, £173.3m o refeniw a £31.2m o gyfalaf, i'w ariannu gan Gymorth Grant (£97.1m), taliadau (£37.7m), incwm masnachol a chyllid allanol (£49.3m) ac incwm wedi’i ddwyn ymlaen o 2019-20 (£20.4m).

Rydym wedi lleihau ein cynlluniau gwariant lle mae capasiti a newidiadau yn y ffordd yr ydym yn gweithredu wedi cael effaith, er enghraifft, gan leihau ein cyllidebau ar gyfer cyfleusterau, fflyd a theithio a chynhaliaeth.

Mae ein cyllideb wedi cael ei blaenoriaethu gan ein grŵp arweinyddiaeth a'r byrddau busnes mewnol sy'n rheoli ein gwasanaethau, wedi'i chymeradwyo gan ein tîm gweithredol a'n bwrdd ac wedi'i dosbarthu ar draws ein cyfarwyddiaethau. Mae hyn wedi sicrhau bod yr adnodd wedi'i ddyrannu lle mae ei angen fwyaf. Mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod cyllid cyfalaf ychwanegol ar gael i ni eleni ar gyfer rhai prosiectau cyffrous.

Mae'r gyllideb ar gyfer ein Cyfarwyddiaeth Gweithrediadau wedi'i dosbarthu rhwng ein saith tîm Lle: bydd ganddynt yr atebolrwydd a'r arian i gyflawni yn erbyn y blaenoriaethau a nodir yn y Cynllun Busnes hwn. Mae'r gyllideb Gweithrediadau o £98.6m wedi'i dyrannu'n llwyr i Lle.

Dosberthir y gyllideb ar draws ein cyfarwyddiaethau fel yr amlinellir yn y tabl isod:

Dyraniadau cyllideb ar gyfer 20-21 - yn ôl Cyfarwyddiaeth

Cyfarwyddiaeth Refeniw £m Cyfalaf £m Cyfanswm y gyllideb £m
Gweithrediadau 82.9 15.7 98.6
Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu 50.2 7.9 58.0
Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol 17.7 7.6 25.3
Cyfathrebu, Cwsmeriaid a Masnach 14.8 0.0 14.8
Strategaeth Gorfforaethol a Datblygu 7.6 0.0 7.6
Cyfanswm y gyllideb 173.3 31.2 204.5


Dyraniadau cyllideb ar gyfer 20-21 - yn ôl Lle

Cyfarwyddiaeth – Gweithrediadau Refeniw £m Cyfalaf £m Cyfanswm y gyllideb £m
Cyfarwyddwr Gweithrediadau (gan gynnwys cyllidebau heb eu dosrannu eto) 4.6 0.0 4.6
Gogledd-orllewin/Gogledd-ddwyrain Cymru (gan gynnwys cyllidebau a thargedau gor-raglennu sydd heb eu dosrannu eto) -1.0 0.0 -1.0
Y Gogledd-ddwyrain 14.5 0.6 15.1
Y Canolbarth 14.1 0.1 14.2
Y Gogledd-orllewin 9.5 0.3 9.8
Canol y De 10.6 13.2 23.8
Y De-ddwyrain 11.2 0.0 11.2
Y De-orllewin 14.7 0.6 15.3
Cynllunio Datblygu a Gwasanaethau Morol 4.8 0.9 5.8
Cyfanswm y gyllideb 82.9 15.7 98.6


Byddwn yn monitro cyflawniad y Cynllun Busnes a'r gyllideb yn erbyn y gwasanaethau canlynol (ar hyn o bryd mae'r gyllideb gwasanaethau masnachol yn cael ei dyrannu ar draws gwasanaethau eraill):

Gwasanaethau Refeniw £m Cyfalaf £m Cyfanswm y gyllideb £m
Gwasanaethau Corfforaethol 34.2 3.8 37.9
Tystiolaeth 10.7 0.9 11.6
Rheoli Llifogydd a Digwyddiadau  18.2 8.7 26.9
Stiwardiaeth Tir 47.4 4.4 51.8
Rheoli Adnoddau Naturiol 36.1 13.4 49.5
Rheoleiddio 26.8 - 26.8
Cyfanswm y gyllideb 173.3 31.2 204.5


Mae’r tabl isod yn crynhoi ein cyllideb:

Incwm refeniw

Incwm Refeniw Cyllideb (cychwynnol) 2019-2020 £m Cyllideb (cychwynnol) 2020-2021 £m Rhagolwg cymeradwy 2020-2021 yn sgil Effaith Covid-19 £m Newid 2020-2021 £m
Cymorth Grant – Sylfaenol 76.6 76.4 70.7 -5.7
Cymorth Grant – Ychwanegol 4.3 2.4 2.1 -0.3
Cymorth Grant – Ad-daliad Buddsoddi i Arbed -1.2 -0.9 -0.9 0.0
Codi Tâl 38.5 37.9 37.7 -0.2
Incwm Masnachol ac arall 36.7 39.0 44.6 5.6
Incwm Allanol 3.2 3.7 3.2 -0.5
Incwm a Dducpwyd Ymlaen 24.4 18.1 18.0 -0.1
Cyfanswm Incwm Refeniw 182.4 176.6 175.4 -1.2

 

Incwm cyfalaf

Incwm Cyfalaf Cyllideb (cychwynnol) 2019-2020 £m Cyllideb (cychwynnol) 2020-2021 £m Rhagolwg cymeradwy 2020-2021 yn sgil Effaith Covid-19 £m Newid 2020-2021 £m
Cymorth Grant – Sylfaenol 11.2 9.8 10.0 0.2
Cymorth Grant – Ychwanegol 5.2 13.6 15.2 1.6
Incwm Masnachol ac arall 1.4 1.3 1.5 0.2
Incwm a Dducpwyd Ymlaen 4.5 3.3 2.4 -0.9
Cyfanswm Incwm Cyfalaf 22.2 28.0 29.1 1.1


Gwariant refeniw

Gwariant Refeniw Cyllideb (cychwynnol) 2019-2020 £m Cyllideb (cychwynnol) 2020-2021 £m Rhagolwg cymeradwy 2020-2021 yn sgil Effaith Covid-19 £m Newid 2020-2021 £m
Costau Staff 87.4 89.2 85.6 -3.6
Costau heblaw Staff 62.3 61.0 54.1 -6.9
Prosiectau Refeniw 12.6 9.1 21.5 12.4
Cytundeb Gweithredu Cronfeydd Dŵr 9.4 9.6 9.8 0.2
Cytundebau Lefel Gwasanaeth 3.5 3.7 2.7 -1.0
Cyfanswm Gwariant Refeniw 175.2 172.6 173.7 1.1


Gwariant cyfalaf

Gwariant Cyfalaf Cyllideb (cychwynnol) 2019-2020 £m Cyllideb (cychwynnol) 2020-2021 £m Rhagolwg cymeradwy 2020-2021 yn sgil Effaith Covid-19 £m Newid 2020-2021 £m
Rhaglen Llifogydd 12.4 9.1 6.2 -2.9
Popeth arall 17.0 22.9 24.6 1.7
Cyfanswm Gwariant Cyfalaf 29.4 32.0 30.8 -1.2

 

Cyfanswm incwm a gwariant

Cyfanswm incwm a gwariant Cyllideb (cychwynnol) 2019-2020 £m Cyllideb (cychwynnol) 2020-2021 £m Rhagolwg cymeradwy 2020-2021 yn sgil Effaith Covid-19 £m Newid 2020-2021 £m
Holl Incwm 204.6 204.6 204.5 -0.1
Holl Wariant 204.6 204.6 204.5 -0.1
Gweddill 0.0 0.0 0.0 0.0


Cyfoeth Naturiol Cymru: Beth rydyn ni'n ei wneud a sut rydyn ni'n gweithio


Ein rolau

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Cynghorydd i Lywodraeth Cymru, diwydiant, perchnogion/rheolwyr tir a’r sector cyhoeddus a gwirfoddol ehangach
  • Rheoleiddiwr ar gyfer diwydiant a safleoedd gwastraff, ynni, morol, coedwig a safleoedd dynodedig er enghraifft, yn gwarchod pobl a’r amgylchedd naturiol ac yn cefnogi busnes cyfreithlon
  • Dynodwr ar gyfer Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig,  Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol a Pharciau Cenedlaethol, yn ogystal â chyhoeddi Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol
  • Ymatebwr i ddigwyddiadau amgylcheddol gan dargedu ein hymateb i'r rhai sydd wedi'u categoreiddio fel “uchel”
  • Ymgynghorai statudol ar gyfer ceisiadau cynllunio
  • Rheolwr 7% o arwynebedd tir Cymru, gan gynnwys Ystad Goetir Llywodraeth Cymru, Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol ac amddiffynfeydd llifogydd ac asedau
  • Partner, addysgwr a galluogwr yn cefnogi ac yn hwyluso gwaith sefydliadau eraill ac yn helpu pobl i fwynhau, dysgu yn, dysgu ar gyfer a dysgu am yr amgylchedd naturiol
  • Casglwr tystiolaeth yn monitro'r amgylchedd, yn dylanwadu, yn comisiynu ac yn cynnal ymchwil, yn datblygu ac yn rhannu gwybodaeth ac yn cadw cofnodion cyhoeddus
  • Cyflogwr ein staff ein hunain yn ogystal â chontractwyr a gwirfoddolwyr

Ein Strwythur

Fel craidd ein strwythur sefydliadol diwygiedig, rydym yn darparu wyth gwasanaeth sy'n gweithredu ar draws saith lle: mae'r gwasanaethau'n nodi'r hyn a wnawn, wedi'i rannu ar draws pob un o'r lleoedd. 

Gwasanaethau:

  • Rheoli Adnoddau Naturiol
  • Rheoleiddio
  • Rheoli Perygl Llifogydd
  • Rheoli Digwyddiadau
  • Stiwardiaeth Tir

Hefyd, tri gwasanaeth sy'n cefnogi'r gwasanaethau allanol a ddarparwn uchod:

  • Tystiolaeth
  • Masnachol
  • Gwasanaethau Corfforaethol 

Lleoedd:

  • Gogledd Ddwyrain Cymru
  • Gogledd Orllewin Cymru
  • Canolbarth Cymru
  • De Orllewin Cymru
  • Canol De Cymru
  • De Ddwyrain Cymru
  • Cynllunio a Datblygu Morol

 Ein gwerthoedd

Mae ein gwerthoedd yn enghraifft o'r ffordd yr ydym am i CNC fod a sut rydym yn gweithio:

  • Rydym yn angerddol ynghylch amgylchedd naturiol Cymru
  • Rydym yn gofalu am ein gilydd a'r bobl rydym yn gweithio gyda nhw
  • Rydym yn gweithredu gyda gonestrwydd
  • Rydym yn gwneud gwahaniaeth nawr ac ar gyfer y dyfodol
  • Rydym yn falch o wasanaethu pobl Cymru

Gobeithio y bydd ein Cynllun Busnes yn ddiddorol ac yn ddefnyddiol i chi.  Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu sylwadau, cysylltwch â ni yn corporate.planning@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk