Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy ddal ati i bori neu drwy glicio, “Parhau” byddwch yn cytuno i storio cwcis parti cyntaf a thrydydd partïon ar eich dyfais i wella’r broses o lywio’r safle, dadansoddi’r defnydd o’r safle, a chynorthwyo yn ein hymdrechion marchnata. Polisi cwcis.

Gwybodaeth am waith coedwig Sirhywi

Canfyddwch ragor ynglŷn â pham y mae’n rhaid inni gwympo coed llarwydd yn Nyffryn Sirhywi

Y diweddaraf am y coronafeirws

Rydym yn parhau â'n gwaith cynaeafu er mwyn helpu i gyflenwi cynnyrch coed. Mae hyn yn helpu i gynnal gwasanaethau hanfodol yn y sectorau iechyd, bwyd ac ynni.

Mae ein holl safleoedd coedwigaeth yn cael eu gwirio'n llym er mwyn sicrhau ein bod yn gweithredu’n unol â chanllawiau llywodraethol cyfredol o ran y coronafeirws a mesurau cadw pellter cymdeithasol.

Rydym yn cadw mewn cysylltiad ag Iechyd Cyhoeddus Cymru a byddwn yn adolygu ein gweithdrefnau yn ddyddiol er mwyn cadw ein staff, ein contractwyr, ein cwsmeriaid a'n partneriaid yn ddiogel.

Canfyddwch ragor am ein hymateb i bandemig y coronafeirws.

Cael gwared ar goed llarwydd

Ym mis Ebrill, cychwynnodd gwaith i gael gwared ar oddeutu 70 o hectarau o goed llarwydd heintiedig o Ddyffryn Sirhywi. Mae’r coed wedi’u heintio â phytophthora ramorum, a elwir fel arfer yn glefyd llarwydd.

Mae tua 30 o hectarau o goed llarwydd heintiedig ar ochr Parc Gwledig Sirhywi y dyffryn, a thua 40 o hectarau ar ochr Cwmfelin-fach.

Rhagwelwn y bydd y gwaith yn cael ei orffen ym mis Rhagfyr 2020.

Clefyd llarwydd

Mae clefyd y llarwydd, neu phytophthora ramorum, yn glefyd sy’n debyg i ffwng a all achosi difrod helaeth a marwolaethau ymysg amrywiaeth eang o goed a phlanhigion eraill. Mae clefyd llarwydd yn ymledu â sborau drwy’r awyr, o goeden i goeden. Nid yw’n fygythiad i iechyd dynol nac i iechyd anifeiliaid.

Er na allwn atal clefyd coed llarwydd rhag ymledu, gallwn gymryd camau i’w arafu.

Yn 2013, canfu arolygon fod clefyd llarwydd yn ymledu’n gyflym ar draws coedwigoedd yng Nghymru, gan sbarduno strategaeth genedlaethol i gael gwared ar goed heintiedig er mwyn atal y clefyd rhag ymledu ymhellach.

Mae’r clefyd wedi heintio oddeutu 6.7 miliwn o goed llarwydd ledled Cymru gyfan ac mae wedi cael effaith enfawr ar ein coedwigoedd.

Mae gofyniad cyfreithiol arnom i gael gwared ar goed llarwydd heintiedig o dan yr Hysbysiad Iechyd Planhigion Statudol – Symud, a gyflwynir gan Lywodraeth Cymru.

Mynediad i goedwigoedd

Nid ydym yn hoffi cau ein coedwigoedd, y mae cynifer yn eu mwynhau, ond dyma'r ffordd fwyaf diogel o drefnu i'r gwaith gael ei wneud yn gyflym ac yn ddiogel.

Rydym wedi cael caniatâd i gau'r llwybrau cerdded yn y goedwig ac o'i hamgylch a byddwn yn ailagor llwybrau cerdded mewn rhai ardaloedd cyn gynted ag y bydd yn ddiogel gwneud hynny. Byddwn yn rhoi gwybod i chi pa ran fydd yn cael ei hailagor cyn gynted â phosibl drwy ein gwefan a'n sianeli ar y cyfryngau cymdeithasol.

Oriau gwaith contractwyr

Mae rhai o'r ardaloedd y mae angen cwympo coed ynddynt yn agos iawn at dai pobl. Yn y lleoliadau hyn, bydd y gwaith yn cael ei wneud rhwng 8 a.m. a 6 p.m. Mewn rhannau eraill o'r goedwig, gall y gwaith ddechrau'n gynharach er mwyn gwneud y cynnydd mwyaf.

Gwaith cynaeafu a chludo

Ni allwn ddefnyddio peiriannau cynaeafu a chludo modern oherwydd y llethrau serth. Rhaid torri coed â llaw ac yna’u tynnu i’r safle prosesu a storio ar y ffordd, gan ddefnyddio system winsio ‘awyrlinell’. Caiff y peiriannau winsio a’r rhaffau gwifrau (wedi’u llwytho â sawl tunnell o goed cyfan) eu gosod ar rannau uchaf y llethr, a byddant yn dod â deunydd i fyny i’r peiriannau cynaeafu i’w brosesu, ei storio mewn pentyrrau logiau, ac yna i’w lwytho ar lorïau.

Yn y lle cyntaf, bydd y gwaith yn cychwyn ar ochr Cwmfelin-fach y cwm. Bydd y coed yn cael eu cludo drwy ein ffordd gludo breifat bresennol a'r briffordd gyhoeddus. Mae ein timau’n cydweithio'n agos â chyngor Caerffili i sicrhau bod y broses o gludo’r coed yn cael yr effaith leiaf bosibl.

Yn y lle cyntaf, bydd y gwaith yn cychwyn ar ochr Cwmfelin-fach y cwm. Bydd y coed yn cael eu cludo drwy ein ffordd gludo breifat bresennol a'r briffordd gyhoeddus. Mae ein timau’n cydweithio'n agos â chyngor Caerffili i sicrhau bod y broses o gludo’r coed yn cael yr effaith leiaf bosibl.

Bydd lorïau pren yn cludo'r boncyffion i felinau llifio yng nghanolbarth Cymru. Mae'r safleoedd hyn wedi'u trwyddedu'n benodol i ymdrin â phren o ardaloedd heintiedig. Mae'n debygol y bydd y pren o Goedwig Cwmcarn yn cael ei ddefnyddio i gynhyrchu deunydd pacio, cynhyrchion adeiladu a byrddau ffibr. Ni fydd rhisgl y coed, sydd fel arfer yn ffynhonnell werthfawr o incwm i'r iardiau coed, yn gallu cael ei ddefnyddio at ddibenion garddwriaethol felly caiff ei ddefnyddio fel biodanwydd.

Enillion o werthu’r pren

Gall hyd yn oed pren o goed llarwydd heintiedig gael ei brosesu a'i ddefnyddio. Ar ôl ei brosesu, gellir ei ddefnyddio i greu nifer o gynhyrchion pren, gan gynnwys deunyddiau adeiladu, paledi, ffensys a phelenni tanwydd coed.

Mae’r holl incwm o werthu pren yn mynd tuag at y costau gweithredu sy’n dod i’n rhan drwy reoli Ystad Goetir Llywodraeth Cymru. Mae ein costau’n fwy na’r refeniw a gynhyrchir o werthu pren, ac felly rydym hefyd yn cael cymorth ariannol ychwanegol gan Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn ein galluogi i barhau i ddarparu llawer o gyfleusterau yn ddi-dâl ledled Cymru er budd cymunedau lleol ac ymwelwyr.

Cyflwr y tir

Oherwydd y dull cynaeafu, bydd rhai tocion yn cael eu gadael ar y safle.

Bydd mwyafrif y coed yn yr ardal dorri yn cael eu winsio i beiriant prosesu sydd uwchben yr ardal dorri. Mae hyn yn tueddu i arwain at safle gweddol glir gan fod y tocion yn cael eu gadael ar frig y safle. Fodd bynnag, gan ddibynnu ar ansawdd y pren, mae’n bosibl y bydd malurion yn cael eu gadael ar y safle. Os yw'r pren wedi'i heintio â chlefyd y llarwydd ers peth amser, gall canghennau/coesynnau fod yn fregus a thorri yn ystod y broses winsio.

Os oes ardaloedd gwastad, bydd y rhain yn cael eu cynaeafu â pheiriant. Bydd y tocion yn cael eu gosod o flaen y peiriant i leihau’r difrod i’r ddaear drwy gywasgiad. Bydd rhesi o docion wedyn ar draws y safle lle gyrrwyd y peiriant.

Bydd perygl tân y safle yn cael ei asesu yn ystod y gwaith ac ar ôl ei gwblhau.

Tymor nythu adar

Cyn i'r gwaith ddechrau, buom yn gweithio'n agos gydag arolygwr adar i arolygu'r safle’n drylwyr i ganfod unrhyw adar sy'n nythu. Bydd parth gwahardd yn cael ei osod o amgylch unrhyw nythod a ganfyddir a bydd y timau'n gweithio o amgylch yr ardal nes bod yr adar wedi gorffen bridio ac wedi gadael y nyth. Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael ar ein gwefan.

Ailblannu

Byddwn yn ailblannu dros y tri thymor plannu nesaf, sef rhwng mis Tachwedd a mis Ebrill. Rydym yn plannu yn y gaeaf gan fod arnom angen i’r coed fod ynghwsg cyn y gall y feithrinfa godi’r coed a’u cludo er mwyn inni eu plannu yn ein coetiroedd.

Mae Dyffryn Sirhywi yn Blanhigfa ar Safle Coetir Hynafol (PAWS) a byddwn yn ei ailblannu â choed llydanddail brodorol sy’n fwy gwydn ac yn helpu i sicrhau’r safle ar gyfer y dyfodol. Gallwch ddarllen rhagor am ein gwaith ailstocio yn yr adran newyddion.

Mae Planhigfeydd ar Safle Coetir Hynafol yn safleoedd y credir iddynt fod wedi’u gorchuddio â choed ers dros 400 mlynedd yn ddi-dor ac sydd â brigdwf y mae dros 50 y cant ohono’n rhywogaethau coed conwydd anfrodorol ar hyn o bryd. Ers 2011, mae 5,000ha o Goetir Hynafol wedi’i nodi ar Ystad Goetir Llywodraeth Cymru, yr ydym yn ei rheoli.

Adborth

Rydym yn croesawu adborth gan ddefnyddwyr y safle fel y gallwn leihau anghyfleustra ac i wella ein gwaith.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau nad ydynt wedi’u hateb yma neu os hoffech roi adborth inni ynglŷn â’n dulliau cyfathrebu, cysylltwch â ni:

Ymholiadau cyffredinol: ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Ffôn: 0300 065 3000 (Llun-Gwe, 9am - 5pm) Gwasanaeth Minicom: 03702 422 549**

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.