Cwympo coed yn Rhyslyn, Parc Coedwig Afan

Parc Coedwig Afan

Cam nesaf

Mae gwaith cwympo coed sydd wedi'u heintio â chlefyd llarwydd yng Nghoedwig Afan yn symud i'r cam nesaf.

Er mwyn caniatáu i'r gwaith hwn fynd rhagddo, rydym wedi newid trefniadau dargyfeirio a chau llwybrau sydd eisoes ar waith.

Cau a dargyfeirio llwybrau

Dyma restr gyfredol o’r llwybrau sydd wedi’u dargyfeirio neu wedi’u cau.

Llwybrau cerdded Afan

Llwybr Penrhys – Yn dal i fod ar gau

Llwybr yr Afon a'r Rheilffordd – Yn dal i fod ar gau

Llwybr Glanyrafon Rhyslyn – Ar gau

Llwybr Crib Gyfylchi – Ar agor gyda dargyfeiriad - dechrau a gorffen swyddogol yn Bryn Betws Lodge, (cod post SA12 9SP) gyda llwybr wedi'i addasu.

Llwybr Hen Heol y Plwyf – Ar agor

Llwybrau MTB Afan

Llwybr y Rheilffordd - Ar gau

Rookie Gwyrdd – Ar agor

Rookie Glas - Ar gau

Blue Scar - Ar agor

Pen-hydd - Ar agor

Y Wal a chysylltiadau gyda W2 - Ar agor gyda dargyfeiriadau

Drwy gydol y gwaith cynaeafu, bydd newid dros dro i gynnwys dechrau a gorffen swyddogol yn Bryn Betws Lodge, (cod post SA12 9SP) gyda llwybr wedi'i addasu.

Byddwch yn ymwybodol bod yr adrannau canlynol ar gau:

  • Alpha
  • Elevator
  • 6ft Under
  • Resurrection
  • Omega
  • Corker
  • ZigZag
  • Cam 4

Mae hi’n dal i fod yn bosibl cyrraedd dechrau’r newid dros dro i lwybr Y Wal o Ganolfan Ymwelwyr Afan.

Whites Level a chysylltiadau W2 - ar agor gyda dargyfeiriadau

Skyline – Ar agor

Blade – Ar agor

Parc Beicio Afan - Ar agor

Adfer llwybrau

Mae swyddogion CNC yn gweithio i ailagor y llwybrau sydd wedi cael eu heffeithio gan gam cyntaf y gwaith cwympo coed.

Unwaith y bydd y gwaith hwnnw wedi'i gwblhau, a chyn gynted ag y byddwn yn fodlon eu bod yn ddiogel i'w defnyddio, byddwn yn gallu ailagor mwy o lwybrau.

Oedi gweithredol

Mae cyflwr y coed yr ydym yn eu cwympo yn llawer gwaeth nag yr oeddem wedi’i ragweld wrth gynllunio’r gwaith hwn. Mae hyn wedi gwneud y gwaith o dynnu’r coed mewn modd diogel yn llawer mwy heriol, ac mae wedi arwain at oedi sylweddol.

Fandaliaeth ffensys diogelwch

Mae pobl wedi bod yn dinistrio ffensys diogelwch wrth geisio cael mynediad i’r safle caeedig hefyd, ac mae hynny wedi cyfrannu at yr oedi. Mae swyddogion CNC wedi gorfod ailosod paneli ffensio ar 15 achlysur o leiaf er mwyn cadw’r safle’n ddiogel. Rydym yn annog defnyddwyr y goedwig i fod yn amyneddgar, i ddilyn y gwyriadau a chymryd sylw o’r llwybrau sydd ar gau. Mae'r heddlu wedi cael gwybod am y fandaliaeth barhaus.

Clefyd Llarwydd

Rydym ni’n tynnu’r coed yma gan eu bod wedi’u heintio â chlefyd llarwydd, neu Phytophthora ramorum.

Mae hwn yn glefyd tebyg i ffwng sy’n achosi difrod sylweddol a marwolaethau ymysg amrywiaeth eang o goed a phlanhigion eraill. Er nad oes modd i ni atal lledaeniad clefyd llarwydd, gallwn gymryd camau i’w arafu.

Mae’n ddyletswydd cyfreithiol arnom ni i waredu’r coed llarwydd sydd wedi’u heintio dan yr Hysbysiad Iechyd Planhigion Statudol – Symudiad – a gyflwynir gan Lywodraeth Cymru. Mae’n rhaid cwympo’r holl goed llarwydd fel rhan o’n strategaeth genedlaethol i atal lledaeniad pellach.

Helpwch ni i osgoi oedi

Rydym ni’n annog unrhyw un sy’n ymweld â Choedwig Afan yn ystod y gwaith cwympo i ddilyn y dargyfeiriadau a’r arwyddion yn nodi bod llwybrau ar gau.

Pan fo pobl yn anwybyddu dargyfeiriadau ac arwyddion bod llwybrau ar gau, gallant fynd i mewn i safleoedd gweithredol peryglus, gan orfodi contractwyr i oedi’r gwaith nes bydd aelodau’r cyhoedd wedi symud o’r ardal. Gall yr amhariadau hyn arwain at oedi wrth ail-agor y llwybrau sydd wedi’u heffeithio.

Pwyntiau gwybodaeth

Byddwn yn diweddaru arwyddion llwybrau ac yn gosod pwyntiau gwybodaeth mewn meysydd parcio ym Mharc Coedwig Afan cyn dechrau ar y gwaith cwympo.

Ar ôl cynaeafu

Ar ôl cwblhau’r gwaith cynaeafu, bydd yr holl lwybrau sydd wedi’u heffeithio’n cael eu hadfer cyn gynted â phosibl, a bydd gwelliannau’n cael eu gwneud i rai ardaloedd.

Bydd ymwelwyr yn gallu mwynhau golygfannau newydd o’r afon.

Bydd gwaith ail-stocio sylweddol yn cael ei wneud drwy blannu coed llydanddail a chonwydd cymysg i dyfu coetir iachach a chryfach.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru