Cyfoeth Naturiol Cymru yn croesawu penodiadau Gweinidogol

Wrth ymateb i gyhoeddiad phenodiadau newydd i’r Cabinet heddiw, dywedodd Prif Weithredwr CNC, Clare Pillman:

“Estynnaf longyfarchiadau gwresog iawn i Julie James ac i Lee Waters ar ei phondiadau i weinyddiaeth newid hinsawdd newydd, ac i Lesley Griffiths ar ei ail-apwyntiad fel Gweinidog Materion Gwledig. Edrychaf ymlaen at weithio'n agos gyda nhw ar ein huchelgeisiau ar y cyd i fynd i'r afael ag achosion ac effeithiau argyfyngau’r hinsawdd a natur, ac ar amddiffyn ein hamgylchedd naturiol.

"Byddaf yn ceisio trefnu cyfarfod gyda'r Gweinidogion cyn gynted â phosibl i drafod y materion dybryd sy'n wynebu ein hamgylchedd naturiol ar hyn o bryd – yn enwedig ar yr angen i fod yn fwy beiddgar yn ein hymdrechion cydweithredol i reoli'r perygl cynyddol o lifogydd yng Nghymru, a sut y mae'n rhaid i waith i ymgorffori atebion sy'n seiliedig ar natur fod yn asgwrn cefn i'n cenhadaeth gyfunol er mwyn sicrhau adferiad cryf a gwyrdd o bandemig y coronafeirws.

"Mae CNC yn uchelgeisiol ac yn barod i fynd i'r afael â'r heriau sy'n ein hwynebu yn ystod y cyfnod allweddol hwn. Dywedodd Y Prif Weinidog Mark Drakeford heddiw bydd yr amgylchedd wrth wraidd holl benderfyniad Llywodraeth Cymru, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda nhw ar y mesurau allweddol a fydd yn helpu i ddiogelu a gwella amgylchedd Cymru ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."

Dywedodd Cadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru, Syr David Henshaw:

"Llongyfarchiadau i Lesley Griffiths ar ei ddychweliad i’r Cabinet fel Gweinidog Materion Gwledig. Llongyfarchiadau mawr hefyd i Julie James a Lee Waters sy’n ymgymryd â'r portffolio pwysig hwn a ategir gan uchelgais Cymru i gyrraedd sero net ac i fynd i'r afael ag argyfyngau'r newid yn yr hinsawdd a cholled bioamrywiaeth.

"Yr allwedd i gyflawni'r ymrwymiadau hyn fydd cynnal y momentwm a gynhyrchwyd eisoes o amgylch agenda’r adferiad gwyrdd yng Nghymru. Mae amgylchedd naturiol iach nid yn unig yn bwysig i fywyd gwyllt ond hefyd i iechyd cymdeithas a'n heconomi felly mae'n hanfodol ein bod yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i weithio tuag at adferiad lle mae lles ein pobl a'n planed yn gydnaws ag iechyd ein heconomi yn y dyfodol.

"Mae'r sector amgylcheddol yng Nghymru yn barod i chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o sicrhau adferiad gwyrdd ac wrth fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur yng Nghymru. Edrychwn ymlaen at weithio gyda'r Gweinidog newydd i gryfhau sefyllfa Cymru fel llais blaenllaw ar y materion hyn ac ar sut rydym yn cymryd y camau cydweithredol beiddgar a bwriadol sydd eu hangen i sicrhau dyfodol mwy cynaliadwy i'n cenedl."

DIWEDD