Annog trigolion Llanandras i roi barn ar gynllun i reoli coedwigoedd lleol yn gynaliadwy

Coetiroedd Llanandras

Mae trigolion Llanandras yn cael eu hannog gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i roi eu barn ar gynllun newydd i reoli Coetiroedd Llanandras.

Mae'r goedwig yn gorchuddio 443ha dros saith bloc coetir sy'n eistedd yn nalgylch Lugg ar ffin Cymru a Lloegr.

Mae CNC - sy'n rheoli Ystâd Goed Llywodraeth Cymru ledled Cymru - yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus i ganiatáu i farn trigolion ddylanwadu ar reolaeth y goedwig yn y dyfodol am y 10 mlynedd nesaf a thu hwnt.

Mae prif amcanion y cynllun yn cynnwys bod y goedwig yn parhau i fod yn goetir cynhyrchiol pwysig; y bydd rhywogaethau ac amrywiaeth strwythurol yn cael eu gwella'n sylweddol a bod planhigfeydd ar safleoedd coetir hynafol yn cael eu trosi'n araf ac yn gyson yn ôl i coetir llydanddail brodorol.

Dywedodd Becky Hares, Uwch Swyddog Rheoli Tir ar gyfer CNC:
"Mae coedwigoedd iach yn hanfodol i'r amgylchedd lleol a bioamrywiaeth yn ogystal â'r economi a diwylliant lleol. Rydym wedi llunio cynllun i reoli Coetiroedd Llanandras yn gynaliadwy ac rydym am i bobl leol ddweud eu dweud arno.
"Bydd cynllun da yn cynnig manteision i bawb, ac mae'r ymgynghoriad hwn yn ffordd i bawb ddweud eu dweud arno."

Gall preswylwyr ddod o hyd i'r cynlluniau ac ymateb i'r ymgynghoriad drwy fynd i wefan ymgynghori CNC.

Ymatebwch i'r ymgynghoriad.

Fel arall, gall preswylwyr ffonio 0300 065 3000 a gofyn am gael siarad ag un o'r Uwch Swyddogion Rheoli Tir sy'n gyfrifol am yr ymgynghoriadau. Byddant yn gallu anfon copïau caled o'r dogfennau ar gais.

Gall preswylwyr sydd am anfon adborth drwy'r post ei anfon at: Cyfoeth Naturiol Cymru, Maes Powell, Lôn Powell, Y Trallwng, Powys, SY21 7JY.

Bydd angen dychwelyd yr holl adborth a chwestiynau erbyn 27 Chwefror 2022 fan bellaf.