Partneriaid yn dathlu 50 mlynedd o Lwybr Clawdd Offa

Mae dau o bobl yn cerdded ar y llwybr troellog hamgylchynu gan rug porffor

Heddiw, 9 Gorffennaf 2021, bydd arweinwyr Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a sefydliadau o ddwy ochr y ffin rhwng Cymru a Lloegr yn ymgynnull yng Nghanolfan Clawdd Offa yn Nhrefyclo i ddathlu 50 mlynedd ers agor llwybr Clawdd Offa yn swyddogol.

I ddathlu, mae nifer o Wyliau Cerdded ar hyd y llwybr enwog wedi'u trefnu gan Ramblers Cymru i nodi'r garreg filltir bwysig hon.

Agorwyd y llwybr yn swyddogol ar 10 Gorffennaf 1971 yn Nhrefyclo gan yr Arglwydd Hunt, ac mae’n mynd drwy’r gororau godidog rhwng Cymru a Lloegr am 177 milltir rhwng Cas-gwent ar Afon Hafren i Brestatyn ar arfordir Gogledd Cymru.

Roedd y llwybr, y gellir ei fwynhau mewn adrannau byr neu deithiau cerdded dros ddiwrnod, yn gyflawniad arloesol pan gafodd ei agor, ar ôl cymryd degawd i'w gwblhau yn dilyn ymdrech bartneriaeth gan asiantaethau'r llywodraeth, awdurdodau lleol, a gwirfoddolwyr Cymdeithas Clawdd Offa a oedd newydd ei sefydlu.

Dywedodd Clare Pillman, Prif Swyddog Gweithredol CNC:
"Mae'n wych bod yn rhan o ddathliad fel hyn. Dros y 50 mlynedd diwethaf, mae Llwybr Clawdd Offa, sy’n cyfuno bywyd gwyllt a thirweddau trawiadol, wedi dod yn un o lwybrau cerdded mwyaf poblogaidd Prydain.
"Mae wedi croesawu cannoedd o filoedd o ymwelwyr i ddarganfod ei brofiad cerdded unigryw ac mae wedi chwarae rhan bwysig gyda'r economi dwristiaeth leol, gan roi cyfleoedd i bobl fwynhau’r manteision y mae cerdded a bod yn yr awyr agored yn eu rhoi i’n lles."

Heddiw, mae’r gwaith o ofalu am y llwybr, sy'n mynd drwy dair Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) a Pharc Cenedlaethol, yn cael ei ariannu ar y cyd a'i reoli'n strategol gan CNC a Natural England (NE) yn ogystal â phartneriaid o awdurdodau lleol a pharciau cenedlaethol.

Ychwanegodd Syr David Henshaw, Cadeirydd CNC:
"Mae'r garreg filltir hon yn amlygu pa mor bwysig yw gwaith partneriaeth ac yn arddangos y gorau sydd gan y DU i'w gynnig. Mae'r llwybr yn cynnig cymaint i'w ymwelwyr ac edrychaf ymlaen at 50 mlynedd nesaf Llwybr Clawdd Offa."

Os hoffech gymryd rhan yn hanner canmlwyddiant Llwybr Clawdd Offa, beth am ymuno ag un o'r nifer o Wyliau Cerdded ar hyd y llwybr. Ewch i'r wefan https://www.nationaltrail.co.uk/cy_GB/trails/offas-dyke-path/