CNC yn croesawu “galwad genedlaethol i weithredu” Llywodraeth Cymru ar blannu coed

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi croesawu "galwad genedlaethol i weithredu” Llywodraeth Cymru i ehangu'r canopi gwyrdd yng Nghymru yn sylweddol ac mae wedi addo gweithio gyda'r llywodraeth a phartneriaid i sicrhau cynnydd dramatig mewn plannu coed.

Daw'r alwad ar ôl i CNC weithio fel rhan o dasglu’r Dirprwy Weinidog dros y Newid Hinsawdd, Lee Waters AS a oedd yn archwilio ffyrdd o ehangu plannu coed yng Nghymru.

Dros gyfnod o waith dwys dros dair wythnos, daeth tîm o arbenigwyr at ei gilydd i ddatblygu cyfres o argymhellion gyda'r nod o gefnogi creu coetiroedd a chanolbwyntio ar ddileu rhwystrau i blannu coed. Ymchwiliodd y tîm arbenigol hefyd i ffyrdd o gynyddu gwerth a maint y pren o Gymru a dyfir yn gynaliadwy a ddefnyddir yng Nghymru.

Mae'r gwaith hwn yn adeiladu ar ymdrechion CNC sydd eisoes yn mynd rhagddo i gynyddu'r nifer o goed yng Nghymru drwy’r Rhaglen Creu Coetiroedd. Mae hyn yn cwmpasu ystod eang o waith gan gynnwys ehangu Ystad Goetir Llywodraeth Cymru a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru; cwmpasu dulliau ariannu newydd ar gyfer creu coetiroedd; a gwaith parhaus i leihau baich rheoleiddio creu coetiroedd heb beryglu mesurau diogelu amgylcheddol hanfodol.

Dywedodd Clare Pillman, Prif Swyddog Gweithredol CNC: “Mae creu coetiroedd yn rhan hanfodol o greu Cymru iachach a ffyniannus.
“Rydym yn benderfynol o gyfrannu tuag at uchelgais Llywodraeth Cymru i fod yn sero net carbon erbyn 2050 drwy blannu hyd at 180,000 hectar o goetir a pherthi newydd.
“Rydym i gyd yn wynebu argyfyngau hinsawdd a natur a bydd plannu coed ar raddfa fawr yn ein helpu i fynd i'r afael â'r ddau. Bydd hefyd yn cynnig manteision sylweddol i bawb yng Nghymru. Rwyf wrth fy modd gyda'r momentwm newydd y mae plannu coed yn ei fwynhau yng Nghymru.”

Cynrychiolwyd CNC ar y tasglu gan ei Gyfarwyddwr Gweithredol am Gyfathrebu, Cwsmer a Masnach, Sarah Jennings.

Dywedodd: “Mae wedi bod yn bleser gweithio ochr yn ochr ag arbenigwyr o bob rhan o Gymru ac ar draws sectorau ar y canfyddiadau a nodwyd gan y Dirprwy Weinidog.
“Rydym wedi gweithio gyda'n gilydd gyda'r diben cyffredin i ddeall y rhwystrau i blannu coed a sut y gellir eu goresgyn.
“Mae manteision plannu coed yn rhy bwysig i beidio manteisio arnynt; maent yn darparu amrywiaeth o fanteision amgylcheddol, economaidd, diwylliannol a lles sylweddol.
“Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'r Dirprwy Weinidog a'n partneriaid mewn cynghrair dros newid ledled Cymru i ddatblygu'r argymhellion yn gamau gweithredu a fydd yn cael effaith wirioneddol a chadarnhaol ar ddyfodol Cymru.”

Bydd CNC yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid i hyrwyddo'r uchelgeisiau helaeth o ran plannu coed yng Nghymru ac i sicrhau'r manteision niferus y gall hyn eu cynnig i bob un ohonom.