CNC – Byddwch yn barod am fwy o risg o lifogydd dros y gaeaf

Cae wedi gorlifo gyda choed

Nid yw’r ffaith nad yw llifogydd wedi effeithio arnoch chi yn y gorffennol yn golygu na fydd yn digwydd yn y dyfodol.

Dyma’r neges gan arbenigwyr perygl llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) heddiw (21 Tachwedd) wrth iddynt annog pobl ledled Cymru i wirio eu perygl llifogydd ac ystyried y llu o wasanaethau cymorth sydd ar gael iddynt ar-lein i helpu i baratoi ar gyfer llifogydd. Daw hyn yn sgil rhagolygon y Swyddfa Dywydd bod diwedd ansefydlog i'r gaeaf o'n blaenau.

Daw’r alwad i weithredu ar ddechrau Wythnos Hinsawdd Cymru pan fydd sefydliadau a phobl o bob rhan o Gymru yn ymgynnull i drafod y camau brys sydd eu hangen i greu mwy o gadernid yn wyneb effeithiau’r newid yn yr hinsawdd rydym eisoes yn eu profi ledled Cymru.

Un o olion traed trymaf yr argyfwng hinsawdd yw tywydd mwy eithafol yn amlach.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Cymru wedi profi cyfnod estynedig o dywydd sych a phoeth, gan arwain at ddatgan sychder ‘swyddogol’ cyntaf y genedl ers 2005-2006. Cyn hynny, cafodd y genedl ei tharo gan effeithiau’r glaw trwm a’r gwyntoedd cryfion a ddaeth yn sgil tair storm fawr mewn cyfnod o wythnos ym mis Chwefror, sy’n dangos yr her hinsawdd eithafol ac anrhagweladwy sy’n ein hwynebu i gyd.

Fel gyda'r gaeaf diwethaf, mae'r ffenomenau a elwir yn La Niña yn bresennol yn y Cefnfor Tawel. Mae hyn yn hanesyddol yn hyrwyddo gwasgedd uchel yng nghanol yr Iwerydd gan gynyddu'r risg o amodau oerach yn ystod y gaeaf cynnar, tra yn ddiweddarach yn y tymor gall La Niña yrru symudiad y jetlif tuag at y Pegynau gan gynyddu'r posibilrwydd o dywydd mwyn, gwlyb a gwyntog.

Dywedodd Will Lang, Pennaeth Argyfyngau Sifil Posibl y Swyddfa Dywydd:

Mae gaeafau yn y DU fel arfer yn cynnwys amrywiaeth eang o dywydd, ac mae’n edrych yn debyg nad yw’r gaeaf hwn yn eithriad. Er ein bod yn disgwyl gweld gwasgedd uchel yn dominyddu ein tywydd drwy lawer o’r gaeaf cynnar, sy’n cynyddu’r potensial o gyfnodau oer, gallem weld tywydd gwlyb a gwyntog ar adegau.
Mae’r perygl o dywydd ansefydlog yn cynyddu wrth i ni symud at 2023 gyda chyfnodau gwlyb, gwyntog a mwyn yn bosibilrwydd gwirioneddol.

Cyfoeth Naturiol Cymru yw’r prif awdurdod ar gyfer rheoli perygl llifogydd o brif afonydd a’r môr yng Nghymru. Mae wedi bod yn gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol a phartneriaid eraill i helpu i sicrhau bod cymunedau’n barod ar gyfer y gaeaf ac unrhyw ddigwyddiadau tywydd eithafol sydd i ddod.

Mae hyn yn cynnwys gwneud gwiriadau ac unrhyw atgyweiriadau angenrheidiol i rwydwaith CNC o amddiffynfeydd rhag llifogydd ledled y wlad sy’n helpu i amddiffyn 73,000 eiddo rhag llifogydd. Mae ein timau hefyd yn gweithio'n agos gyda gwirfoddolwyr llifogydd cymunedol i helpu pobl mewn ardaloedd sydd mewn perygl i ddatblygu eu gallu i wrthsefyll llifogydd.

Gydag 1 o bob 8 (tua 245,000) eiddo ledled Cymru mewn perygl o lifogydd, mae CNC yn annog pobl i gymryd camau syml i chwarae eu rhan wrth helpu i baratoi eu hunain ar gyfer unrhyw effeithiau posibl o unrhyw ddigwyddiadau glaw sylweddol dros fisoedd y gaeaf.

Dywedodd Jeremy Parr, Pennaeth Rheoli Perygl Llifogydd a Digwyddiadau Cyfoeth Naturiol Cymru:

Nid yw digwyddiadau tywydd eithafol yn ddieithr y Gymru. Bydd y rhai sydd wedi profi effeithiau llifogydd a stormydd difrifol eraill yn gwybod bod yr effeithiau’n para ar ôl i’r dŵr gilio, ac mae ein meddyliau gyda’r rhai sydd wedi profi hyn yn uniongyrchol.
Yn anffodus, mae cymaint o bobl yn meddwl bod y perygl yn bodoli mewn mannau eraill neu na fydd llifogydd yn digwydd iddyn nhw. Y peth cyntaf y gallwn ni i gyd ei wneud yw gwirio a yw ein hardal mewn perygl o lifogydd cyn i'r glaw ddechrau cwympo. Gall pobl wneud hynny drwy roi eu cod post yn y Gwiriwr perygl llifogydd ar-lein ar wefan CNC neu drwy ffonio’r Llinell Llifogydd ar 0345 988 1188.
Os bydd pobl yn gweld eu bod mewn perygl o lifogydd afonol neu arfordirol, gallant gofrestru ar gyfer y gwasanaeth rhybuddion llifogydd rhad ac am ddim ar ein gwefan a chanfod pa gamau y gallant eu cymryd i baratoi, fel gwneud cynllun llifogydd cymunedol neu roi pecyn llifogydd at ei gilydd. Gallwch hefyd ddod o hyd i wybodaeth bwysig am lefelau afonydd a’r môr, rhagolygon llifogydd, cofrestru i dderbyn rhybuddion llifogydd a dod o hyd i ganllawiau ar beth i'w wneud yn ystod ar ôl llifogydd.
Er y bydd CNC yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod ein hamddiffynfeydd a’n systemau rhybuddio yn barod i helpu i leihau effaith llifogydd ar bobl ac eiddo, rydym hefyd eisiau helpu cymunedau i adnabod eu perygl llifogydd eu hunain a’u cefnogi i helpu i amddiffyn eu hunain a’u heiddo cyn i'r glaw ddechrau cwympo.

Mae rhagolygon a rhybuddion tywydd gan y Swyddfa Dywydd yn helpu i lywio sut mae CNC yn paratoi ar gyfer llifogydd yng Nghymru ac yn ymateb iddynt. Mae’r Map perygl llifogydd 5 diwrnod ar gyfer Cymru yn cael ei ddiweddaru ar wefan CNC bob dydd – ac yn amlach pan fo risg ganolig neu uchel o lifogydd. Mae’n rhoi asesiad o’r perygl o lifogydd ar lefel awdurdod lleol am y pum diwrnod nesaf ac yn rhoi amser gwerthfawr i CNC, ein partneriaid a’r cyhoedd roi paratoadau ar waith i leihau effaith llifogydd.

Bydd CNC yn cyhoeddi Hysbysiadau a Rhybuddion Llifogydd os bydd afonydd ac arfordiroedd yn cyrraedd lefelau lle mae llifogydd yn bosibl neu'n ddisgwyliedig gyda thimau'n monitro a rhagweld lefelau afonydd a môr o amgylch Cymru 24 awr y dydd. Mae'r hysbysiadau a'r rhybuddion yn cael eu diweddaru bob 15 munud.

Mae tair lefel o rybuddion llifogydd:

  • Hysbysiad Llifogydd - mae llifogydd yn bosibl. Byddwch yn barod i roi eich cynllun llifogydd ar waith.
  • Rhybudd Llifogydd – Disgwyliwch weld llifogydd mewn cartrefi a busnesau. Gweithredwch.
  • Rhybudd Llifogydd Difrifol - mae perygl llifogydd difrifol a pherygl i fywyd.