Map newydd yn taflu goleuni ar awyr dywyll Cymru

Mae map awyr dywyll newydd wedi dangos bod Cymru'n gwneud yn dda wrth fynd i'r afael â llygredd golau.

Comisiynodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) Land Use Consultants i greu'r map ar y we, sef Awyr Dywyll a Llygredd Golau yng Nghymru, gan ddefnyddio delweddau lloeren o Gymru a gymerwyd am 1:30am.

Datgelodd fod mwy na 68 y cant o'r wlad a 95 y cant o'n Parciau Cenedlaethol a'n Hardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol yn dod o fewn y ddau gategori tywyllaf ar gyfer awyr y nos. Mae arwyddion hefyd bod faint o olau sy'n cael ei allyrru mewn dinasoedd i’w weld yn gostwng hefyd. 

Gellir defnyddio'r map awyr dywyll a llygredd golau i dynnu sylw at awyr dywyll fel adnodd pwysig ac fel sylfaen dystiolaeth ar gyfer gwarchodfeydd awyr dywyll newydd posibl yng Nghymru. 

Gellir ei ddefnyddio hefyd i hyrwyddo manteision goleuadau nad ydynt yn amharu ar awyr dywyll ac annog pobl i ystyried llygredd golau wrth lunio ceisiadau cynllunio a dylunio datblygiadau’r adferiad gwyrdd yn sgil COVID-19. 

Mae'r map hefyd yn darparu tystiolaeth ar gyfer cynlluniau rheoli, asesiadau o seilwaith gwyrdd ac asesiadau lles a all helpu i nodi lle y gallai lleihau llygredd golau yn y nos fod yn arbennig o fuddiol i rwydweithiau bywyd gwyllt a natur.

Dywedodd Jill Bullen, Cynghorydd Arbenigol Arweiniol ar Dirweddau gyda CNC:

"Gall awyr dywyll effeithio ar ein profiad o fyd natur, tirweddau a mannau gwyrdd a gall fod o fudd i'n hiechyd a'n lles a'n bywyd gwyllt lleol.
"Er mai mewn tirweddau anghysbell a gwledig y ceir awyr dywyll gan mwyaf, gellir gwella ein profiad o awyr y nos mewn trefi ac aneddiadau drwy leihau llygredd golau a defnyddio goleuadau nad ydynt yn amharu ar yr awyr dywyll.
"Mae cadw goleuadau ymlaen yn hirach nag sydd ei angen neu unedau sy'n taflu golau i fyny, yn hytrach nag i'r lle mae ei angen fwyaf, yn cyfrannu at wawl yn yr awyr, amhariad golau ac yn ychwanegu at lygredd golau.
"Erbyn hyn mae gan lawer o awdurdodau lleol bolisïau arbed ynni ar waith sy'n effeithio ar oleuadau ac yn cyfrannu at ddyfodol carbon is.
"Mae rhai goleuadau'n cael eu pylu, eu goleuo am ran o'r nos neu eu diffodd drwy'r nos lle mae'n bosibl ac yn ddiogel gwneud hynny, a gall gwaith uwchraddio sy'n cynnwys gosod gorchuddion i bwyntio golau i lawr helpu i gynnal awyr dywyll yng Nghymru."

Mae'r map ar y we ar gyfer Awyr Dywyll a Llygredd Golau yng Nghymru yn galluogi unrhyw un i edrych ar lefelau ymbelydredd golau yn yr ardal sydd o ddiddordeb iddynt.

Gallwch weld y map Awyr Dywyll a Llygredd Golau yng Nghymru yma: https://luc.maps.arcgis.com/apps/opsdashboard/index.html#/1cd6ba8a1d7d4a62aff635cfcbaf4aec

Yr wythnos nesaf (5 Ebrill i 12 Ebrill) yw Wythnos Ryngwladol Awyr Dywyll, dysgwch fwy yn https://www.darksky.org/international-dark-sky-week-2021-save-the-date/

Mae'r Gymdeithas Awyr Dywyll Ryngwladol yn gweithio i ddiogelu awyr y nos ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol, mae gan ei gwefan syniadau a chyngor ar yr hyn y gallwch ei wneud i wneud gwahaniaeth yn lleol a dod o hyd i leoedd awyr dywyll i ymweld â nhw https://www.darksky.org/