Cau rhannau o Gors Caron dros dro yn y Flwyddyn Newydd i wneud gwaith adfer pwysig

Cau Cors Caron dros dro yn y flwyddyn newydd

Bydd Prosiect Adfer Cyforgorsydd Cymru LIFE, a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), yn parhau ei waith adfer yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol (GNG) Cors Caron y flwyddyn hon, a fydd yn golygu cau’r prif faes parcio i ymwelwyr o ddydd Llun 9 Ionawr a bydd y prif lwybr pren i ymwelwyr ar gau o fis Chwefror.

Bydd contractwyr CNC yn gwneud gwaith hanfodol i’r prif faes parcio yn GNG Cors Caron, trwy osod wyneb newydd yn y prif faes parcio ac yn gwneud gwaith draenio.

Mae hyn yn golygu y bydd y maes parcio ar gau am dair wythnos o ddydd Llun, 9 Ionawr 2023.

Dywedodd Mike James, Uwch Swyddog Rheoli Tir Cyfoeth Naturiol Cymru: "Mae angen rhywfaint o waith cynnal a chadw arferol yn y maes parcio i sicrhau bod yr wyneb yn aros yn wastad ac i atal tyllau rhag ymddangos yn y ffordd."
"Bydd ymwelwyr yn dal i allu parcio yn y gilfan i'r gogledd ar hyd ffordd y B4343 tuag at Bontrhydfendigaid. Mae hyn yn rhoi mynediad i daith gerdded y rheilffordd a fydd yn parhau ar agor yn ystod y gwaith."

Hefyd fydd y prif lwybr ymwelwyr ar gau o fis Chwefror hyd at ddiwedd mis Mawrth tra bod y gwaith adfer yn digwydd gan y prosiect LIFE. Bydd cau'r rhannau hyn yn sicrhau diogelwch y contractwyr yn ogystal ag ymwelwyr â'r safle wrth i'r gwaith adfer - a ddechreuodd ddiwedd y llynedd - barhau.

Bydd contractwyr ar y safle ger Tregaron i osod byndiau cyfuchlinol isel, a phroffilio byndiau hŷn yn yr ardal o fewn y prif lwybr pren. 

Cloddiau mawn isel yw byndiau, sy’n helpu i lenwi tyllau a chraciau sy'n ymddangos ar rai rhannau o'r gors sydd wedi mynd yn sychach. Mae'r byndiau’n gweithredu fel argaeau ac yn stopio dŵr rhag llifo oddi ar y gors.

Bydd y gwaith hwn yn gwella lefelau dŵr naturiol y gors ac yn sicrhau ei bod yn aros yn wlyb ac yn sbyngaidd - amodau delfrydol ar gyfer planhigion pwysig fel migwyn, ac ar gyfer bywyd gwyllt.

Dywedodd Rebecca Thomas o brosiect Adfer Cyforgorsydd Cymru LIFE: "Yn ogystal â chreu'r byndiau cyfuchlinol isel, byddwn hefyd yn gwneud rhywfaint o waith proffilio ar y byndiau mwy o faint yn yr ardal hon a grëwyd yn wreiddiol dros 40 mlynedd yn ôl."
"Mae hyn yn golygu lleihau uchder y bwnd ei hun, er mwyn atal coed bach rhag sefydlu ar grib y bwnd, yn ogystal â gwneud y pyllau'n fasach, yn y gobaith y bydd mwy o figwyn yn cytrefu ac yn ffynnu."

Bydd mynediad i lwybr cerdded y rheilffordd yn parhau ar agor i ymwelwyr yn ystod y gwaith.

Bydd diweddariadau am y gwaith yn cael eu cyhoeddi ar sianeli cyfryngau cymdeithasol Facebook a Twitter