Datblygu ymateb CNC i’r Argyfwng Hinsawdd

Wythnos Hinsawdd Cymru (2-6 Tachwedd 2020)

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn treialu cerbydau trydan pob tir ac offer batri solar fel rhan o'i ymdrechion i helpu'r sector cyhoeddus yng Nghymru i ddod yn garbon niwtral erbyn 2030.

Os bydd y treialon yn llwyddiannus, gallai'r cerbydau ecogyfeillgar ddisodli’r cerbydau pob tir a beiciau cwad sydd gan CNC ar hyn o bryd, gan arwain at ostyngiad o 65 y cant yn ei allyriadau CO2. Mae offer, megis strimwyr a llifiau cadwynwedi’u gwefru gan bŵer solar, eisoes yn lleihau ei allyriadau tua 99 y cant.

Nid yw cyflwyno ffyrdd o wneud gwaith rheoli tir yn fwy gwyrdd ond yn un elfen o ymateb CNC i’r datganiad a wnaed Llywodraeth Cymru y llynedd ynglŷn ag Argyfwng Hinsawdd.

Mae Syr David Henshaw, Cadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru, yn croesawu cyfres o ddigwyddiadau gan Lywodraeth Cymru yn ystod Wythnos Hinsawdd Cymru. Dywed fod yr Wythnos yn gyfle gwych i unrhyw un sy'n frwdfrydig dros faterion yn ymwneud â newid hinsawdd feddwl am ddulliau ymarferol y gallant hwy fel unigolion a sefydliadau eu mabwysiadu er mwyn helpu yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd. 

Fel rhan o weithgareddau'r wythnos, bydd CNC yn cynnal gweithdy ar-lein i ddatblygu ymdrechion ar y cyd i leihau allyriadau ar draws sefydliadau'r sector cyhoeddus yng Ngwent. Mae gweminarau hefyd ar gael i staff CNC, i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am raglen a gwaith datgarboneiddio CNC a sut i fynd i'r afael â'r newid hinsawdd yng nghyd-destun yr amgylchedd morol.

Dywedodd Syr David, sydd hefyd yn arwain Tasglu Adferiad Gwyrdd Llywodraeth Cymru: "Mae'r cyfnod heriol hwn wedi amlygu mor bwysig yw'r amgylchedd i bob agwedd ar ein bywyd - ein hiechyd a'n lles, y bwyd rydyn ni'n ei fwyta a chyfoeth ein cenedl.
"Rydym yn benderfynol o weithio'n ddiflino gydag eraill i helpu Cymru i ddod o hyd i lwybr tuag at adferiad gwirioneddol wyrdd o'r argyfwng hwn a fydd yn mynd i'r afael â newid hinsawdd.
"Mae rhoi cyfle i bawb rannu syniadau drwy ymuno â sgwrs genedlaethol ar newid hinsawdd yn allweddol er mwyn dod o hyd i atebion. Rwyf yn annog pawb i edrych ar y rhaglen o ddigwyddiadau a gynhelir gan Lywodraeth Cymru - maen nhw i gyd yn rhad am ddim, yn ddigidol ac yn rhyngweithiol - https://waterfront.eventscase.com/CY/walesclimateweek. "

Mae CNC eisoes wedi ymrwymo i'r camau canlynol.

  • Gwella'r ffordd y rheolir coedwigoedd a mawndiroedd fel eu bod yn storio mwy o garbon;
  • Bod yn fwy effeithlon o ran ynni a chynhyrchu ynni adnewyddadwy lle bo hynny'n bosibl mewn swyddfeydd;
  • Sicrhau cynnydd sydyn yn y defnydd o gerbydau trydan;
  • Ystyried mwy o gyfleoedd i gynhyrchu ynni adnewyddadwy ar dir a reolir gan CNC;
  • Rhoi mwy o ystyriaeth i'r defnydd o garbon ym mhopeth a brynir;
  • Rhannu profiad CNC o reoli allyriadau carbon gyda chyrff eraill yn y sector cyhoeddus er mwyn helpu i sicrhau sector cyhoeddus gwyrddach;
  • Ystyried y cynhesu byd-eang anochel ym mhopeth a wnawn a helpu Cymru i addasu i'r newidiadau sydd o'n blaenau.

Diwedd

  • Clare Pillman, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru fydd yn darparu'r anerchiad agoriadol ddydd Mercher 4 Tachwedd, gan osod y cyd-destun ar drafodaethau'r diwrnod ar ddefnydd tir ac atebion sy'n seiliedig ar natur ac annog camau gweithredu personol.