Ymgynghoriad ar benderfyniad trwydded gwastraff

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cyhoeddi ei fod yn debygol o roi trwydded amgylcheddol i Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau i weithredu gorsaf storio a throsglwyddo gwastraff yn Noc Penfro.
Daw’r penderfyniad yn dilyn asesiad manwl o gynlluniau’r cwmni, a chyngor gan arbenigwyr eraill yn cynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Ond cyn gwneud penderfyniad terfynol, mae CNC yn cynnal ymgynghoriad pellach â phobl a busnesau lleol a phartneriaid proffesiynol.
Bydd hyn yn rhoi cyfle i bobl ddarllen asesiad CNC o gais y cwmni a deall sut y cyrhaeddodd ei benderfyniad. Bydd hefyd yn rhoi’r cyfle i bobl grybwyll unrhyw wybodaeth newydd berthnasol na chafodd ei hystyried yn barod.
Bydd angen cyflwyno sylwadau pellach i CNC erbyn 18 Hydref 2019, ac ar ôl hyn bydd yn gwneud ei benderfyniad terfynol ynglŷn â’r drwydded.
Meddai Gavin Bown, Rheolwr Gweithrediadau, Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Rydyn ni'n ddiolchgar i bawb a ymatebodd i'n hymgynghoriad - mae gwybodaeth leol yn bwysig, ac rydyn ni wedi ystyried pob sylw rydyn ni wedi'i dderbyn.
“Ar ôl adolygu’r rhain, ac asesu’r wybodaeth a ddarparwyd gan Awdurdod y Porthladd yn ei gais, rydym yn fodlon fod ganddynt y cynlluniau cywir mewn lle i weithredu’r safle hwn yn ddiogel heb niweidio pobl leol a’r amgylchedd.
“Os byddwn yn bwrw ymlaen i roi’r drwydded hon, bydd y safle yn cael ei reoleiddio a’i archwilio’n ofalus gan ein swyddogion i sicrhau ei fod yn gweithio o fewn amodau’r drwydded.”
Os bydd yn cael trwydded amgylcheddol, mae Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau yn bwriadu caniatáu i fusnesau sy’n defnyddio’r porthladd storio gwastraff dros dro ar y safle, cyn ei drosglwyddo i rywle arall.
Mae’r mathau o wastraff mae’n bwriadu eu storio yn cynnwys gwastraff amheryglus, gwastraff o gartrefi wedi’i fyrnu, a gwastraff pren rhydd wedi’i brosesu y gellir ei ddefnyddio i gynhyrchu ynni.
Mae copi caled hefyd ar gael ar gais drwy ein tîm trwyddedu.
Rhaid derbyn yr holl sylwadau yn ysgrifenedig erbyn 18 Hydref 2019 i permittingconsultations@naturalresourceswales.gov.uk neu:
Arweinydd Tîm Trwyddedu (Gwastraff), Cyfoeth Naturiol Cymru, Gwasanaeth Trwyddedu (Caerdydd), Tŷ Cambria, 29 Heol Casnewydd, Caerdydd, CF24 0TP