Trigolion Aberteifi wedi eu gwahodd i sesiwn galw heibio yr wythnos hon i ddysgu mwy am gynlluniau llifogydd CNC

Gwahoddir trigolion Aberteifi i sesiwn galw heibio ar ddydd Mercher, 23 Tachwedd am 1pm-7pm i ddysgu mwy am gynlluniau i leihau'r risg o lifogydd llanwol yn ardal Strand yn y dref.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnal y sesiwn galw heibio yn Ystafell y Tŵr yng Nghastell Aberteifi fel rhan o ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu barn am leoliad amddiffynfa llifogydd. Byddai'r wal arfaethedig yn cael ei chodi mewn lleoliad ar hyd glan ogleddol Afon Teifi rhwng Maes Parcio Rhes Gloster a Phont Aberteifi.

Mae dyluniadau amlinellol wedi'u rhoi at ei gilydd ar gyfer tri opsiwn. Byddai un opsiwn yn gweld wal llifogydd yn cael ei hadeiladu tua 5m i fewn i’r Afon Teifi; byddai un arall yn gweld wal yn cael ei hadeiladu yn bennaf ar lannau'r afon, a byddai'r opsiwn olaf yn golygu adeiladu wal mewndirol lle mae busnesau ac eiddo yn sefyll ar hyn o bryd. Gallai ateb terfynol gynnwys cyfuniad o elfennau o'r opsiynau arfaethedig.

Mae CNC hefyd am ymgorffori buddion cymunedol a bioamrywiaeth mewn unrhyw gynllun sy'n cael ei adeiladu. Bydd yr ymgynghoriad hefyd yn gofyn i drigolion am eu barn ar ba fath o welliannau y gellid eu gwneud yn yr ardal ddatblygu ac o'i chwmpas.

Dywedodd Chris Pratt, Rheolwr Prosiect CNC ar gyfer Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd Llanwol Aberteifi:
"Mae'n bwysig iawn cael barn trigolion wrth gynllunio cynllun o'r maint yma.
"Rydym eisiau adeiladu ased i leihau'r risg o lifogydd llanw i tua 90 eiddo yn Aberteifi, ac i gynnwys buddion ychwanegol i'r dref.  
"Byddwn yng Nghastell Aberteifi ar ddydd Mercher, 23 Tachwedd i drafod y cynlluniau gyda thrigolion ac i ateb unrhyw gwestiynau sydd ganddyn nhw."

Lansiwyd yr ymgynghoriad ar 11 Tachwedd ac mae modd cael mynediad iddo drwy ymweld â https://bit.ly/CynllunLlifogyddLlanwolAberteifi

Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn dod i ben ar 22 Rhagfyr 2022.