Cynllun Gweithredu i ddiogelu'r Maelgi sydd mewn Perygl Difrifol, a geir o hyd oddi ar arfordir Cymru

Mae cynllun gweithredu pum mlynedd wedi cael ei gyhoeddi heddiw i helpu i ddiogelu Maelgwn. Dyma un o rywogaethau siarcod prinnaf y byd, ond gellir dod o hyd i iddi o hyd o gwmpas arfordir Cymru.[www.angelsharknetwork.com/cymru/#cynllungweithredu]

Mae Cynllun Gweithredu Maelgi Cymru wedi cael ei ddatblygu gyda sefydliadau o bob rhan o Gymru mewn ymateb i'r ddealltwriaeth gyfyngedig o ecoleg a statws Maelgwn yng Nghymru ac mae’n nodi camau gweithredu â blaenoriaeth i ddiogelu'r rhywogaeth warchodedig hon.

Mae'r Cynllun Gweithredu yn benllanw dwy flynedd o waith casglu tystiolaeth helaeth a wnaed fel rhan o Brosiect Maelgi: Cymru (PM:C), menter gydweithredol a arweinir gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a’r elusen gadwraeth ryngwladol ZSL (Cymdeithas Swoleg Llundain).

Ers iddo gael ei lansio yn 2018, mae PM:C wedi llwyddo i ddwyn ynghyd bysgotwyr, cyrff y Llywodraeth, cyrff anllywodraethol a phobl leol o bob cwr o Gymru, i greu darlun cliriach o ble mae Maelgwn i’w gweld yn nyfroedd Cymru ac i ddeall eu rôl yn nhreftadaeth forol Cymru.

Mae data a gasglwyd o atgofion cymunedol, ymchwil hanesyddol, gwybodaeth pysgotwyr ac arolygon gwyddoniaeth dinasyddion wedi cael ei ddefnyddio i lywio'r Cynllun Gweithredu, a fydd yn cael ei roi ar waith dros y pum mlynedd nesaf.

Dywedodd Joanna Barker, Uwch Reolwr Prosiectau Morol a Dŵr Croyw ZSL:

"Mae lansio'r Cynllun Gweithredu hwn yn gam hollbwysig i ddiogelu dyfodol Maelgwn yng Nghymru. Mae gan y rhywogaeth hon bwysigrwydd gwyddonol a diwylliannol sylweddol i Gymru ac fe'i rhestrir fel y pumed siarc mwyaf Unigryw yn Esblygol ac sydd mewn Perygl yn Fyd-eang (EDGE), sy’n golygu ei fod yn cynrychioli cangen unigryw ar goeden bywyd".  

Ers 1980, mae mwy na 1,600 o Faelgwn wedi cael eu cofnodi yn nyfroedd arfordirol Parth Cymru, gan gynnwys 79 o gofnodion o Faelgwn ifanc o ardaloedd o gwmpas gogledd Bae Ceredigion a Môr Hafren.

Dywedodd Ben Wray, Ecolegydd Morol ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru:

"Mae'n hynod o gyffrous bod gennym boblogaeth o Faelgwn yma yng Nghymru o hyd, ac mae'r cydweithio dros y ddwy flynedd ddiwethaf wedi gwella'n dealltwriaeth yn sylweddol o ran statws ac ecoleg y rhywogaeth hynod bwysig hon.
"Yr hyn sy'n hanfodol nawr yw ein bod yn adeiladu ar yr hyn rydym wedi'i ddysgu hyd yn hyn ac yn gwella ein dealltwriaeth ymhellach i wneud yn siwr bod y siarc prin hwn yn cael ei ddiogelu – nawr ac yn y dyfodol."

Ychwanegodd Jake Davies, Cydlynydd PM:C:

"Rydyn ni'n hynod ddiolchgar i'r holl bartneriaid, gan gynnwys y gymuned bysgota ac aelodau'r cyhoedd, sydd wedi cymryd rhan yn y prosiect hwn hyd yma.
"Diolch i gyllid a chefnogaeth gan sawl sefydliad, gan gynnwys On The EDGE Conservation, gall y camau blaenoriaeth o'r cynllun gweithredu ddechrau fis nesaf. Bydd hyn yn cynnwys astudiaeth DNA amgylcheddol (eDNA) systematig yng ngogledd Bae Ceredigion i ddeall presenoldeb Maelgwn trwy gydol y flwyddyn, parhau â'r gwaith gyda'r gymuned bysgota ac ysbrydoli cymunedau arfordirol yng Nghymru gyda’r e-lyfr Angylion Cymru.”