Timau teuluol – Prosiect yn tynnu pobl ifanc oddi wrth ei sgriniau ac yn cynnig chwa o awyr iach i deuluoedd Conwy

Ionawr 2023

Timau teuluol – Prosiect yn tynnu pobl ifanc oddi wrth ei sgriniau ac yn cynnig chwa o awyr iach i deuluoedd Conwy

Yn aml mae'n anoddach cael plant hŷn i fynd allan i ganol byd natur.  Mae llawer o bobl ifanc yn eu harddegau yn colli’r cysylltiad â natur ar adeg yn eu bywyd pan fo mynd allan yn hollbwysig i'w hiechyd meddyliol a chorfforol.  Gan ei fod yn cystadlu â chyfforddusrwydd eu gwely neu atyniad sgriniau a’r cyfryngau cymdeithasol, nid yw mynd allan i gael awyr iach bob amser yn brif flaenoriaeth i blant hŷn a phobl ifanc yn eu harddegau.  Er hynny, i’r rhan fwyaf ohonom mae synnwyr cyffredin yn dweud fod pobl ifanc sarrug ac oriog yn aml yn hapusach pan fyddant allan yn yr awyr agored.  Efallai y bydd angen ychydig o berswâd ac anogaeth arnyn nhw i fynd allan i'r awyr agored, ond unwaith y byddan nhw wedi mentro allan, mae digonedd o bethau ardderchog iddynt eu gwneud.  Mae Greg Woolley o Ysgol Goedwig Nant y Glyn, Bae Colwyn yn rhannu ei brofiadau o gynnal prosiect sy'n dod â phobl ifanc a'u teuluoedd at ei gilydd yn yr awyr agored.   

Yn ystod haf 2022, cawsom gyllid 'Haf o hwyl' Llywodraeth Cymru a chynnal rhai sesiynau treialu oedd yn anelu at bobl ifanc yn eu harddegau a'u rhieni”, meddai Greg.  “Roedd y cyfranogwyr yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys adeiladu lloches, saethyddiaeth, gwaith coed gwyrdd a choginio ar dân gwersyll.  Roedd y sesiynau'n boblogaidd iawn a chafwyd adborth cadarnhaol gan y rhieni a chan y plant eu hunain.  Llwyddiant y sesiynau hyn a arweiniodd at y prosiect newydd gan fod prinder o gyfleoedd yn targedu’r grŵp demograffig penodol hwn.” 

“Yn y cyfnod cyn Nadolig 2022, cawsom grant bach gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i gynnal rhagor o sesiynau i rieni a phobl ifanc yn eu harddegau.  Roedd y cyllid wedi dod o Gronfa Cymunedau Gwyrdd Pontio'r Cenedlaethau Bwrdd Iechyd Cyhoeddus Betsi Cadwaladr a diben y sesiynau oedd cysylltu pobl ifanc yn eu harddegau a'u teuluoedd â mannau gwyrdd, hyrwyddo perthynas gref ac ar yr un pryd gwella eu hiechyd a'u lles.”

“Er bod gan lawer ohonom brofiad personol o sut y gall cerdded ar hyd y traeth neu dreulio amser yn yr awyr agored helpu i newid ein hwyliau”, meddai Greg, “nid yw o reidrwydd yn strategaeth y mae pobl ifanc yn eu harddegau yn ymwybodol ohoni neu'n ei dewis.  I'r rhan fwyaf o'r teuluoedd a gymerodd ran, y rhieni oedd yn gyfrifol am ysgogi’r cyfranogiad, ac roedd y bobl ifanc yn eu harddegau yn gyndyn o fynychu.  Fodd bynnag, cyn gynted ag yr oeddent allan yn y coetir roedd y bobl ifanc yn mwynhau eu hunain yn fawr ac yn amharod i adael ar ddiwedd pob sesiwn!  Bu'r teuluoedd a gymerodd ran yn gweithio gyda'i gilydd i wneud ceirw coed ar gyfer y Nadolig a gwneud tasgau coginio ar dân gwersyll yn ein coetir ym Mae Colwyn.  Dim ond ychydig o deuluoedd oedd gennym ar y tro, felly roedd yr ymdeimlad o gyfeillgarwch ac agosatrwydd yn amlwg yn y sesiynau.”

“I'r bobl ifanc yn eu harddegau, roedd cymryd rhan yn y gweithgareddau awyr agored yn gyfle iddynt reoli risg, gwthio eu hunain yn gorfforol ac yn feddyliol a’u helpu i ddatblygu gwytnwch a hunanhyder a chael hwyl yr un pryd.  I'r rhieni a fynychodd, rwy'n credu eu bod wedi elwa o dreulio amser o ansawdd a chymryd rhan ar y cyd mewn gweithgareddau gyda'u plant.  Rydym yn gobeithio cynnal rhagor o sesiynau yn y dyfodol a pharhau i ddenu pobl ifanc oddi wrth eu sgriniau ac allan i'r byd naturiol.”

Os hoffech chi ddysgu mwy, cysylltwch â Greg yn uniongyrchol neu edrychwch ar gyfrif Twitter neu Facebook Nant y Glyn.

 

Dysgu yn ein hamgylchedd naturiol, dysgu amdano a dysgu ar ei gyfer

Chwilio am ragor o adnoddau dysgu, gwybodaeth, neu ddata? Cysylltwch ag:

addysg@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu ewch i https://cyfoethnaturiol.cymru/dysgu

Am fformatau gwahanol; print bras, neu ieithoedd gwahanol, cysylltwch ag:

ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk  

0300 065 3000

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru