Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy ddal ati i bori neu drwy glicio, “Parhau” byddwch yn cytuno i storio cwcis parti cyntaf a thrydydd partïon ar eich dyfais i wella’r broses o lywio’r safle, dadansoddi’r defnydd o’r safle, a chynorthwyo yn ein hymdrechion marchnata. Polisi cwcis.

Penderfyniadau rheoleiddiol ar gyfer trwyddedau rhywogaethau

Trwyddedau rhywogaethau

Ni ddylid gwneud unrhyw waith arolygu a gynlluniwyd gennych fel rhan o gais am drwydded rhywogaeth oni bai fod hynny'n gwbl angenrheidiol yn dilyn y canllawiau diweddaraf a gafwyd gan y llywodraeth ar gyfer ymbellhau cymdeithasol.

Os na allwch weithio o’ch cartref dylech ddarllen y canllawiau diweddaraf a ddarparwyd gan fusnesau amgylcheddol megis Ymddiriedolaeth Adara Prydain (BTO), RSPB neu Sefydliad Siartredig Ecoleg a Rheolaeth Amgylcheddol (CIEEM).

Fel arfer, ni ddylai arolygon a gyflwynir i gefnogi cais am drwydded fod yn llai na dwy flwydd oed. Gan na fydd efallai’n bosibl diweddaru eich arolygon y tymor hwn, eleni byddwn yn ymestyn hyn ac yn derbyn arolygon o'r tair blynedd diwethaf.

Dylech gwblhau eich arolwg cyn gynted ag y cewch gyfle a phan fo’n briodol unwaith y bydd y cyfyngiadau wedi eu codi. 

Os oes gennych gwestiynau pellach gallwch gysylltu â’n tîm rhywogaethau drwy e-bost trwyddedrhywogaeth@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.