Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy ddal ati i bori neu drwy glicio, “Parhau” byddwch yn cytuno i storio cwcis parti cyntaf a thrydydd partïon ar eich dyfais i wella’r broses o lywio’r safle, dadansoddi’r defnydd o’r safle, a chynorthwyo yn ein hymdrechion marchnata. Polisi cwcis.

Pencefn Feeds Ltd Ymgymeriad Gorfodi

Beth achosodd y llygredd yn Afon Teifi ym mis Rhagfyr 2016?

Ym mis Rhagfyr 2016, roedd Pencefn Feeds Ltd wedi bod yn profi'r lefelau nwy angenrheidiol ar gyfer eu gwaith treulio anaerobig newydd cyn dechrau cynhyrchu pŵer.

Wrth gynnal y profion hyn, methodd pibell rhwng y tanciau cynradd ac eilaidd a llifodd y sylwedd a gynhyrchwyd trwy dreuliad anaerobig i mewn i afon Teifi.

Beth yw cyfleuster treulio anaerobig?

Mae cyfleuster treulio anaerobig yn dadelfennu deunydd organig fel gwastraff anifeiliaid neu fwyd i gynhyrchu bio-nwy a biowrtaith. Gall hyn fod yn ffynhonnell ynni adnewyddadwy, gyda rhai safleoedd yn cyflenwi methan i'r grid nwy, neu ynni i'r grid pŵer.

Pa niwed a achoswyd gan y llygredd?

Yn anffodus, bu niwed mawr i afon Teifi, sy’n un o'r pysgodfeydd hamdden a net mwyaf eiconig a phwysig yng Nghymru, ac yn Ardal Cadwraeth Arbennig o bwysigrwydd rhyngwladol ar gyfer pysgod sydd mewn perygl, fel llysywen bendoll, eog a phenlletwad.

Cyfrifodd ein Swyddogion 982 o eogiaid marw yn dilyn y digwyddiad, ac amcangyfrifwyd colledion o oddeutu 18,000 o eogiaid dros y 5 milltir o afon yr effeithiwyd arno.

Sut wnaethoch gyfrifo faint o bysgod a fu farw o ganlyniad i'r digwyddiad?

Cafodd pysgod marw eu cyfrif gan ein swyddogion yn y dyddiau yn dilyn y digwyddiad ond ni fydd yr holl rai a fu farw wedi eu darganfod.

Yn seiliedig ar y dwyseddau pysgod disgwyliedig a ragfynegwyd gan offeryn dosbarthu Cyfarwyddeb y Fframwaith Dŵr ar gyfer pysgod, rydym yn amcangyfrif y byddai 18,000 o eogiaid posibl wedi cael eu heffeithio ar bum milltir o'r afon.

A gafodd y llygrwr ei erlyn?

Yn dilyn ein hymchwiliadau i achos y gollyngiad, mae'r tirfeddiannwr sy'n gyfrifol, Pencefn Feeds Ltd, wedi derbyn trosedd niwed ac esgeulustod categori 1, ac wedi cynnig talu ymgymeriad gorfodi o £40,000.

  • Bydd £15,000 yn mynd i Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru ar gyfer gwaith adfer cynefinoedd pysgodfeydd
  • Bydd £5,000 hefyd yn mynd i Sefydliad y Gynghrair Cefn Gwlad i ariannu gweithgareddau addysg am bysgod a'r amgylchedd lleol i blant yn ardal Tregaron
  • Bydd yr £20,000 sy’n weddill yn talu costau ymchwiliad a chyfreithiol yr achos

Beth yw ymgymeriad gorfodi?

Ymgymeriad gorfodi yw pan fydd llygrwyr yn derbyn cyfrifoldeb ac yn cynnig talu am welliannau amgylcheddol yn yr ardaloedd y mae'r llygredd wedi effeithio arnynt, megis gwella cynefinoedd ac ansawdd dŵr.

Os yw'r rhodd yn gyfwerth â maint dirwy bosibl a bod y gwaith arfaethedig yn dderbyniol, gallwn dderbyn y cynnig ymgymeriad gorfodi.

Pe byddem yn penderfynu erlyn yn lle derbyn y cynnig byddai'r arian yn mynd i'r trysorlys, nid i'r amgylchedd leol.

Trwy dderbyn yr ymgymeriad gorfodi gan Pencefn Feeds Ltd, bydd elusennau afonydd ac amgylcheddol yn gallu gwella cynefin pysgodfeydd yn nalgylch Teifi, gan gynnwys ffensio glannau afonydd, datblygu llystyfiant ar lan yr afon a chael gwared ar rwystrau artiffisial i fudo pysgod.

Roedd hwn yn ddigwyddiad mawr - oni ddylai'r llygrwr orfod talu mwy o arian?

Nid ni sydd yn gosod y swm i'w dalu. Mae hyn yn seiliedig ar y Canllawiau Dedfrydu Amgylcheddol sy'n nodi bod yn rhaid i'r swm adlewyrchu difrifoldeb y drosedd ac ystyried amgylchiad ariannol y troseddwr.

Gallwch ddarllen y Canllawiau Dedfrydu Amgylcheddol ar-lein sy'n cynnwys yr ystod egwyddorion a chategorïau cyffredinol ar gyfer gosod dirwy.

Pam ei bod wedi cymryd mor hir i gwblhau’r ymchwiliad?

Roedd hwn yn achos cymhleth gyda llawer o gwmnïau dan sylw, gan gynnwys, ComBigaS UK, Hallmark Power Ltd a ComBigaS Denmarc.

Yn ogystal ag ymchwilio i'r digwyddiad ar y safle a goruchwylio’r gwaith i lanhau, fe wnaeth ein tîm lleol hefyd ymchwilio i bob cwmni a'r rolau oedd ganddyn nhw yn y digwyddiad.

Gall hon fod yn broses llafurus iawn ond mae'n bwysig i'r tîm gynnal ymchwiliad trylwyr.

Pam nad ydych chi'n cymryd camau gorfodi yn erbyn y cwmnïau eraill dan sylw?

Cyflogwyd Hallmark Power Ltd fel is-gontractwyr ond fe ddaethant hwy i ben y diwrnod cyn y digwyddiad, ar 16 Rhagfyr 2016 - felly ni ellir ei herlyn drwy’r llysoedd.

Sefydlwyd ComBigaS UK gan ComBigaS Denmarc yn benodol ar gyfer adeiladu dau gyfleuster treulio anaerobig yn y DU. Daeth ComBigaS UK hefyd i ben ym mis Mawrth 2017, felly eto, nid oeddem yn gallu cymryd unrhyw gamau drwy’r llysoedd yn erbyn y sefydliad hwn.

A fydd yr afon yn gwella o'r llygredd?

Bydd ansawdd y dŵr wedi gwella'n weddol gyflym ar ôl i'r gollyngiad llygrol gael ei atal.

Nododd ein hymchwiliad ar adeg y digwyddiad nad oedd infertebratau wedi cael eu heffeithio’n sylweddol.

O ran poblogaeth pysgod Afon Teifi, cadarnhaodd arolygon a gynhaliwyd gennym yn ystod haf 2017 bresenoldeb eogiaid ifanc ac, felly, rydym yn gwybod bod rhai o'r wyau eog a oedd yn y graean ar waelod yr afon amser y digwyddiad wedi goroesi.

Yn anffodus, lladdwyd nifer fawr o frithyll brown, ac er y bydd niferoedd y rhywogaeth hon yn gwella, bydd hyn yn cymryd peth amser.

A oes angen trwydded amgylcheddol ar gyfleusterau treulio anaerobig i weithredu?

O dan y rheoliad cyfredol yng Nghymru, nid oes angen trwydded amgylcheddol ar gyfleusterau treulio anaerobig sy'n defnyddio rhai deunyddiau amaethyddol, megis slyri, tail, deunydd i’w roi o dan anifeiliaid a meinwe planhigion, ac yn lle hynny gallant weithredu o dan eithriad rhag caniatáu.

Efallai y bydd angen trwydded amgylcheddol ar rai safleoedd treulio anaerobig yn dibynnu ar ba wastraff sy'n cael ei ddefnyddio, y meintiau a ble mae'r gweithgaredd yn digwydd.

A oedd gan Pencefn Feeds Ltd drwydded ar gyfer ei gyfleuster treulio anaerobig?

Ar adeg y digwyddiad, roedd Pencefn Feeds Ltd yn gweithredu o dan eithriad i drwydded oherwydd eu bod yn defnyddio deunyddiau amaethyddol.

A fydd angen trwydded amgylcheddol arnynt i weithredu yn y dyfodol?

Mae Pencefn Feeds Ltd wedi gwneud cais am Drwydded Rheolau Safonol Amgylcheddol fel y gallant barhau i weithredu a chymryd gwastraff amaethyddol a llaeth. Maent hefyd wedi gwneud cais am hawlen i wasgaru'r gwastraff o'r gwaith treulio anaerobig ar dir.

Ar hyn o bryd rydym yn adolygu’r cais sy’n gorfod dangos eu bod wedi rhoi mesurau ar waith i atal digwyddiad tebyg rhag digwydd eto. Mae hyn yn cynnwys:

  • Adeiladu bwnd cyfyngiant eilaidd wedi'i beiriannu'n iawn i ddal unrhyw dreuliad neu elifiant pe bai gollyngiad
  • Datblygu system rheoli amgylcheddol i ddangos sut y byddant yn rhedeg y safle ac yn delio ag unrhyw ddigwyddiadau posibl
  • Bydd angen i'r gweithredwr brofi ei fod wedi neu wrthi'n caffael cymhwysedd technegol i weithredu'r math hwn o gyfleuster

Ni fyddwn yn rhoi trwydded os nad ydynt yn gallu profi eu bod yn gallu bodloni’r safonau gofynnol.

Os rhoddir y drwydded, byddwn yn gallu rheoleiddio'r cyfleuster a chynnal archwiliadau cydymffurfio rheolaidd. Bydd gennym hefyd bwerau i atal y gwaith rhag gweithredu os yw'n peri risg i bobl neu'r amgylchedd.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y drwydded neu ein proses drwyddedu, cysylltwch â permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Beth ydych chi'n ei wneud i atal digwyddiadau llygredd fel hyn rhag digwydd yn y dyfodol?

Rydym wedi cynnal dros 100 o ymweliadau atal llygredd â ffermydd yng Ngheredigion a dalgylch Teifi yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ac mae'r rhain wedi helpu i leihau'r risg o lygredd o slyri fferm.

Rydym hefyd wedi cynnal archwiliadau o'r 3 safle treulio anaerobig arall yng Ngheredigion i sicrhau bod mesurau atal llygredd addas ar waith. 

Serch hynny, mae gormod o ddigwyddiadau llygredd yn effeithio ar ein hafonydd gwerthfawr. Mae’r ateb yn ddibynnol ar bob un ohonom: ni, ffermwyr, tirfeddianwyr, unedau ffermio, pysgotwyr, ac ati. Mae hefyd angen dull gweithredu amlddisgyblaethol. Gellir gwneud llawer mwy i leihau faint o slyri a gynhyrchir ar ffermydd – gan y ffermwyr eu hunain a thrwy dechnolegau newydd arloesol.

Rydym hefyd wedi penodi tîm i ymweld â ffermydd ledled Cymru i roi cyngor a chyfarwyddyd ac i helpu tirfeddianwyr i leihau’r perygl o lygredd o’u tir yn mynd i’n hafonydd.

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.