Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd
Gwybodaeth a chyngor ynglŷn â’r hyn y gallai ymadael...
Diweddariad diwethaf 26 Mawrth 2021
Mae'r meysydd parcio, y llwybrau, yr ardaloedd chwarae a’r toiledau ym mwyafrif ein coetiroedd a'n gwarchodfeydd natur ar agor. Mae ein canolfannau ymwelwyr wedi cau am y tro ond bydd rhai safleoedd yn cynnig gwasanaeth tecawê.
Wrth ymweld â'n coetiroedd, cofiwch ddilyn rheolau Llywodraeth Cymru sy'n berthnasol I ddiogelu Cymru gan:
Canfyddwch beth sydd ar agor yn eich coetir neu warchodfa natur leol.
Mae rhan fwyaf o’n staff yn gweithio o adref. Fodd bynnag, mae ein gweithwyr allweddol a hanfodol yn parhau i gwblhau eu gwaith argyfwng. Mae hyn yn cynnwys ymweld â’n safleoedd a chasglu data yn ystod digwyddiadau amgylcheddol sylweddol, a delio gyda materion sydd o’r risg mwyaf i’r cyhoedd a’r amgylchedd.
Rydym yn parhau i adolygu’r sefyllfa ac wedi ymroddi i gyflawni gwasanaethau diogel, gan flaenoriaethu iechyd a diogelwch ein staff, teuluoedd a’r gymuned ehangach.
Fe wnawn ddiweddaru’r dudalen yma gyda newyddion ar sut mae gwasanaethau wedi cael ei heffeithio, a diweddaru ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol Facebook ac Twitter.
Yn ystod yr argyfwng presennol, mae ein gwaith i hyrwyddo amgylchedd Cymru yn parhau. Byddwn yn parhau i helpu gweithredwyr ac unigolion a reoleiddir i ddeall a chydymffurfio â rheoliadau amgylcheddol drwy'r cyfnod heriol hwn.
Rydym yn disgwyl i fusnesau ac unigolion barhau i gydymffurfio â rheoliadau amgylcheddol ac amodau eu trwyddedau. Mae hyn yn cynnwys datblygu cynlluniau wrth gefn a gosod mesurau priodol yn eu lle i sicrhau bod pob cam rhesymol yn cael ei gymryd i ragweld a lliniaru unrhyw broblemau posibl.
Os yw busnes neu unigolyn a reoleiddir yn wynebu problemau o ran cydymffurfio ag amodau trwydded a bod hynny’n ganlyniad uniongyrchol i'r amgylchiadau eithriadol sy'n ein hwynebu ar hyn o bryd, dylai:
Os bydd busnesau ac unigolion a reoleiddir yn dilyn y canllawiau hyn, byddwn yn mynd ati mewn ffordd gymesur a rhesymol i asesu cydymffurfiaeth yn ystod yr argyfwng iechyd cyhoeddus hwn. Byddwn yn gweithio gyda gweithredwyr i ddod o hyd i'r atebion gorau o ran diogelu'r amgylchedd a helpu busnesau i ymaddasu o dan yr amgylchiadau heriol hyn.
Byddwn yn parhau i wirio ac asesu cydymffurfiaeth mewn nifer o ffyrdd gan gynnwys galwadau ffôn, ymweliadau â ffocws â safleoedd blaenoriaeth, a defnyddio amryw o ddulliau amgen ar gyfer casglu gwybodaeth.
Rydym wedi cyhoeddi penderfyniadau rheoleiddiol dros dro i helpu i ddelio â materion sy’n deillio’n uniongyrchol o’r pandemig coronafeirws.
Rydym wedi cyhoeddi penderfyniadau rheoleiddiol dros dro i helpu i ddelio â materion sy'n deillio'n uniongyrchol o bandemig y coronafeirws.
Bydd y rhain yn helpu i leihau'r peryglon i'r amgylchedd ac i iechyd dynol pan na fydd efallai’n bosibl cydymffurfio â gofynion rheoleiddiol penodol oherwydd y coronafeirws, am resymau sydd y tu hwnt i'ch rheolaeth.
Maent hefyd yn cwmpasu amgylchiadau penodol lle rydym yn llacio gofynion rheoleiddiol arferol. Nod hyn yw osgoi cynyddu’r peryglon i'r amgylchedd neu iechyd dynol yn ystod amgylchiadau penodol pandemig y coronafeirws.
Mae pob penderfyniad rheoleiddiol yn nodi pryd y mae’n gymwys a'r amodau y mae'n rhaid ichi gydymffurfio â nhw. Rhaid ichi gydymffurfio o hyd â phob un o'ch gofynion rheoleiddiol amgylcheddol eraill.
Os ydych yn dymuno defnyddio penderfyniad rheoleiddiol sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws, rhaid ichi gydymffurfio â'r ddau beth a ganlyn:
Os byddwch yn gwneud hyn, ni fyddwn fel arfer yn cymryd camau gorfodi yn eich erbyn.
Gwasgaru llaeth gwastraff ar dir amaethyddol - Yn dilyn adolygiad, nid yw’r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn gymwys bellach
Darllenwch ein penderfyniadau rheoleiddiol ar gyfer rheoli gwastraff:
Darllenwch ein penderfyniadau rheoleiddiol ar gyfer monitro ac adrodd:
Ein prosesau a'n hamserlenni yn ystod y pandemig COVID-19
Darllenwch ein penderfyniadau rheoleiddiol ar gyfer Cronfeydd Dŵr
Mae rhai sefydliadau yn cynnal digwyddiadau ar ein safleoedd. Nid ydym yn cymryd rhan yn y gwaith o drefnu’r digwyddiadau hyn felly ni allwn roi diweddariadau ynglŷn â’r rhain.
Cysylltwch â threfnydd y digwyddiad yn uniongyrchol os hoffech wybod a oes unrhyw newidiadau i ddigwyddiad yr ydych yn ei fynychu.
Rydym wedi bod yn gweithio gyda'n partneriaid yn ysgrifennu canllawiau ar gyfer rheolwyr safleoedd diwylliannol naturiol ac awyr agored. Bydd hyn yn helpu gyda'u paratoadau ar gyfer ailagor a gweithredu mor ddiogel â phosibl pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynghori ei bod yn ddiogel gwneud hynny.
Canllawiau cynghorol ydynt a byddant yn cael eu diweddaru'n rheolaidd yn unol â chyngor diweddaraf Llywodraeth Cymru, ac wrth i’n tystiolaeth a’n profiad o coronafeirws gynyddu.
Y bwriad yw y bydd y rhain yn ategu'r gyfres ehangach o wybodaeth a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru i helpu i baratoi ar gyfer llacio'r cyfyngiadau.
Mae’r canllawiau hyn ar gael yn Saesneg yn unig ar hyn o bryd. Darllenwch y dudalen hon yn rheolaidd i ganfod unrhyw ddiweddariadau.
Rydym yn parhau â’n gweithgareddau cynaeafu i gynorthwyo’r cyflenwad o gynhyrchion pren.
Cynhelir archwiliadau llym ar ein holl safleoedd coedwigaeth i sicrhau ein bod yn gweithredu o fewn canllawiau cyfredol y Llywodraeth o ran mesurau Coronafirws ac ymbellhau cymdeithasol.
Rydym yn parhau mewn cysylltiad agos ag Iechyd Cyhoeddus Cymru a byddwn yn cadw ein trefn odan adolygiad er mwyn cadw ein staff, ein contractwyr, ein cwsmeriaid a’n partneriaid yn ddiogel.
Rydyn ni’n prosesu ceisiadau am drwyddedau cwympo coed a Cheisiadau Sgrinio Effeithiau Amgylcheddol fel arfer. Ein nod yw cwblhau'r rhain yn ôl yr amserlenni safonol. Os bydd oedi gyda'ch cais, byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi ac efallai y byddwn yn gofyn am amser ychwanegol i wneud ein penderfyniad.
Nid ydym yn ymweld â safleoedd ar gyfer y ceisiadau hyn oni bai bod rheswm hanfodol, h.y. pryder amgylcheddol sylweddol. Os bydd angen ymweld â safle, byddwn yn dilyn canllawiau'r Llywodraeth ar gadw pellter cymdeithasol. Ni fyddem yn disgwyl cyfarfod â rheolwyr safleoedd, ond byddwn yn cysylltu â nhw ymlaen llaw i sicrhau y gallwn gynnal y gwaith yn ddiogel.
Mae ein staff trwyddedu yn gweithio gartref a gallwch gysylltu â nhw drwy e-bost ar fellinglicence@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.
Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi mesurau rhyddhad caledi ar waith ar gyfer cyflenwyr yn ystod pandemig y coronafeirws.
Rydym wedi adolygu'r opsiynau sydd ar gael ac wedi datblygu nodyn polisi gweithgarwch masnachol ar gyfer ein cyflenwyr. Mae hwn yn egluro pa ryddhad sydd ar gael i gyflenwyr ac a ellir gwneud unrhyw newidiadau i drefniadau sy'n bodoli eisoes.
Mae ein staff ym mhob rhan o’r sefydliad yn gweithio o’u cartref os oes modd iddynt wneud hynny.
Golyga hyn na allwn dderbyn ffurflenni cais papur ar hyn o bryd. Byddwch yn gallu anfon ffurflenni yn electronig ac os bydd angen gallwch wneud taliadau drwy BACS.
Er ein bod yn gobeithio amharu gyn lleied ag sydd bosibl ar bethau, cofiwch y gall y bydd prosesu yn cymryd mwy o amser tra byddwn yn addasu i ffyrdd newydd o weithio.
Byddwn yn parhau i hysbysebu a chynghori ar geisiadau trwyddedau fel arfer. Mae amser pob ymgynghoriad yn cael ei bennu gan y ddeddfwriaeth, unwaith y bydd cais yn cael ei wneud.
Yn achos ceisiadau o ddiddordeb cyhoeddus sylweddol byddwn yn ystyried a fydd angen inni newid sut y byddwn yn cynghori pobl. Bydd hyn yn cael ei drefnu fesul achos a bydd cyfathrebu cysylltiedig yn digwydd drwy ein sianeli arferol.
Os dymunwch anfon ymateb i ymgynghoriad yn ystod y cyfnod hwn anfonwch e-bost i permittingconsultations@naturalresourceswales.gov.uk.
Yn achos prosiectau yn Sir Benfro, Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Sir Gaerfyrddin, Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr, anfonwch e-bost at: swplanning@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Yn achos prosiectau yng Nghaerdydd, Casnewydd, Bro Morgannwg, Rhondda Cynon Taf, Torfaen, Sir Fynwy, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Blaenau Gwent, Caerffili, a Merthyr Tudful, anfonwch e-bost at: southeastplanning@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Yn achos prosiectau yng Ngwynedd, Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Wrecsam, Powys, Ceredigion, Parc Cenedlaethol Eryri, anfonwch e-bost at: northplanning@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Byddwn yn gallu darparu cyngor ynglŷn â pha mor addas yw’r safle a byddwn yn gweithio gyda chi i atal neu gyfyngu ar lygredd dŵr daear.
Bydd angen i bob darpar safle gael ei asesu o ran risg a’i sgrinio’n amgylcheddol. Mae canllawiau manwl ar ddiogelu dŵr daear a llunio asesiad risg ar gael ar wefan gov.uk:
Mae digwyddiadau diweddar wedi effeithio'n sylweddol ar lefelau staffio ein timau gwasanaethau dadansoddol. Rydym yn gwneud pob ymdrech i gwrdd â’n hymrwymiadau dadansoddol, ond efallai y bydd y sefyllfa yn effeithio ar y rhain ar hyn o bryd.
Rydym yn parhau i geisio cyflawni’r holl waith dadansoddi presennol ac y cytunwyd arno. Er mwyn gallu gwneud hyn, rydym wedi penderfynu gwrthod unrhyw waith masnachol newydd nes yr hysbysir yn wahanol.
Nid ar chwarae bach y daethom i’r penderfyniad hwn, ond mae angen inni sicrhau ein bod yn cynnig disgwyliadau realistig i'n cwsmeriaid. Rydym yn sylweddoli y gallai hyn darfu ar eich gwaith. Hoffem ymddiheuro am hyn a diolch i chi am eich amynedd a'ch dealltwriaeth parhaus yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Rydym yn adolygu ein Cynlluniau Parhad Busnes yn ddyddiol a byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am unrhyw newidiadau. Yn y cyfamser, os oes gennych bryderon, cysylltwch â ni drwy’r blwch negeseuon e-bost yn gyntaf. Gallai digwyddiadau cyfredol effeithio ar ein hamseroedd ymateb arferol.