Biomass UK No.2 Ltd - Yr hyn sydd angen i chi ei wybod

Ein sefyllfa bresennol

Ar 7 Chwefror 2018, cyhoeddwyd ein bod wedi rhoi trwydded amgylcheddol i Biomass UK No 2 Ltd i weithredu cyfleuster nwyeiddio ar Woodham Road, Y Barri. Daw’r penderfyniad yn dilyn asesiad helaeth o gynlluniau'r cwmni, a nifer o ymgynghoriadau gyda phobl leol a chyrff proffesiynol, gan gynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru. 

Rydym yn rheoleiddio'r safle yn unol ag amodau ei drwydded amgylcheddol a bydd ein swyddogion yn monitro'r gweithgareddau hyn drwy gynnal gwiriadau, ymweliadau ac archwiliadau technegol ar bob agwedd ar weithrediad y safle er mwyn sicrhau bod y gweithredwr yn bodloni'r rheolaethau llym yn ei drwydded.

Tra bod gweithrediadau ar y safle wedi cael eu gohirio, cafodd gweithdrefnau a chofnodion diogelu’r peiriannau eu hadolygu, a doedd dim gwendidau wedi’u nodi. Ym mis Hydref 2023, fe wnaethom adolygu gynllun cychwyn a chomisiynu Biomass UK No.2 Ltd i sicrhau bod yr amgylchedd yn cael ei ddiogelu'n briodol pe baent yn dechrau yn y dyfodol agos.

Mae copïau o'n dogfen penderfyniad a'r amodau sydd wedi'u gosod ar gyfer y drwydded ar gael i'w gweld ar dudalen penderfyniad trwydded Biomass UK No. 2 Ltd. Mae'r amodau'n gosod terfynau cyfreithiol priodol ar gyfer pethau fel allyriadau o'r cyfleuster, ac yn pennu'r mathau o ddeunydd y gall ei brosesu, a sut mae'n storio gwastraff.

Gwaith cyn comisiynu a chomisiynu

Ers derbyn y drwydded, mae yna lawer o brofion wedi cael eu cynnal ar y safle i sicrhau fod cydrannau’r gwaith yn gweithio’n iawn a’u bod yn gallu cynhyrchu trydan. Ym mis Mawrth 2018 cynhaliwyd gwaith cyn comisiynu.  

Yn ystod y cyfnod hwn, cawsom nifer o gwynion yn ymwneud â llwch, arogleuon a sŵn. Wnaeth ein swyddogion ymchwilio’r rhain yn drylwyr a nodwyd sawl toriad yn amodau’r drwydded.  O ganlyniad, cafodd y cwmni rybudd ffurfiol yn unol â’n Polisi Gorfodi ac Erlyn, a’i gorfodi i gymryd camau i adfer y toriadau i’w atal rhag digwydd eto. 

Fel rhan o hyn, mae’r gweithredwr wedi cyflwyno mesurau i ostwng lefelau sŵn. Mae hyn yn cynnwys gosod gwyntyllau, ac ynysiad rhag sŵn.

Camau nesaf

Os bydd y safle yn dechrau gweithredu eto, cyfeirir at y cam nesaf fel comisiynu oer ac mae’n golygu gwneud rhagor o brofion i sicrhau bod pob rhan yn gweithredu a gweithio yn ôl y disgwyl.  Ar hyn o bryd, nid yw hynny’n golygu defnyddio pren fel tanwydd. 

Bydd y gwyntyllau newydd osodwyd i leihau’r sŵn yn cael eu profi yn ystod y comisiynu oer, ac fe fyddwn yn asesu’r sŵn drwy gydol y broses er mwyn sicrhau nad ydynt yn fwy na’r lefelau derbyniol.  Byddwn yn asesu’r lefelau sŵn a gyflawnir er mwyn sicrhau nad ydynt yn mynd tu hwnt i’r rhai a nodir yng nghynllun rheoli sŵn y safle. 

Yna byddem yn disgwyl i'r safle symud ymlaen o’r comisiynu oer i’r cyfnod comisiynu poeth. Bydd hyn y golygu cyflwyno pren yn raddol i’r weithfa i gychwyn y prif weithrediadau. Fe wneir y gwaith yn raddol er mwyn sicrhau bod y weithfa’n cael ei redeg yn effeithlon, yn effeithiol ac o fewn amodau’r drwydded. Ni fyddwn yn caniatáu i’r gweithgaredd gael ei gychwyn hyd nes byddwn yn fodlon gyda chanlyniadau monitro'r comisiynu oer.

Newid mân i'r drwydded 

Ar 14 Mawrth 2019, gwnaethom ganiatáu newid i drwydded y cwmni sy'n caniatáu iddynt newid y ffordd y maent yn monitro allyriadau fflworid o'r safle.

Mae’r newid hwn yn golygu y bydd bellach yn gwirio lefelau'r allyriadau hyn bob tri mis yn ystod ei flwyddyn gyntaf o weithredu, yn hytrach na'n barhaus.

Ond ni fydd effaith byrdymor a hirdymor yr allyriadau hyn yn newid, ac mae mesurau yn dal yn eu lle i sicrhau bod lefelau hydrogen fflworid yn aros o fewn terfynau cyfreithiol. Mae amodau'r drwydded wreiddiol yn gosod terfyn cyfartalog dyddiol o 1.5 miligram o hydrogen fflworid fesul metr ciwbig, a chyfartaledd o ddim mwy na 6 miligram o hydrogen fflworid fesul metr ciwbig mewn cyfnod o hanner awr. 

Mae'r dull amgen yn cyfyngu ar allyriadau i ddim mwy na 3 miligram o hydrogen fflworid fesul metr ciwbig mewn cyfres o brofion tymor byr bob tri mis yn y flwyddyn gyntaf. Gall hyn wedyn gael ei newid i un mesuriad bob chwe mis yn dilyn adolygiad blynyddol.

Mae'r cyfleuster yn defnyddio cyfarpar tynnu nwy asid er mwyn rheoli allyriadau hydrogen fflworid, hydrogen clorid a sylffwr deuocsid. Mae hyn yn golygu, os yw allyriadau hydrogen clorid yn is na'r terfyn cyfreithiol, yna mae’n anochel y bydd yr allyriadau hydrogen fflworid hefyd yn is na'r terfyn.

Bydd monitro allyriadau hydrogen clorid yn barhaus yn sicrhau nad yw'n fwy na therfynau cyfartalog hanner awr a dyddiol. Ni waeth pa ddull sy'n cael ei ddefnyddio, mae'r lefelau disgwyliedig ar gyfer hydrogen fflworid yn parhau'n sylweddol islaw gwerthoedd canllaw’r Panel Arbenigol ar Safonau Ansawdd Aer (EPAQS) mewn perthynas â diogelu iechyd pobl. 

Gweld y drwydded amgylcheddol ddiwygiedig.

Beth fydd y cyfleuster yn wneud pan fydd yn gweithredu’n llawn?

Mae'r datblygiad yn gyfleuster cynhyrchu ynni adnewyddadwy sydd wedi’i gynllunio i adennill ynni o bren gwastraff cymysg a baratowyd ymlaen llaw drwy broses o'r enw nwyeiddio. Mae'r broses hon yn cynhyrchu nwy synthetig hylosg, a ddefnyddir wedyn i greu stêm a chynhyrchu trydan gan ddefnyddio tyrbin stêm. 

Yr enw technegol ar y broses nwyeiddio yw Triniaeth Thermol Pellach (ATT), a chaiff y broses hon ei dosbarthu fel cyd-losgi, o dan y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol.Mae ganddo'r gallu i gynhyrchu trydan adnewyddadwy gyda chapasiti o allbwn o hyd at 10MWe, a gallai brosesu hyd at 86,400 tunnell fetrig o bren gwastraff cymysg amheryglus a baratowyd ymlaen llaw bob blwyddyn. 

Fe'i cynlluniwyd i brosesu pren gwastraff cymysg wedi'i falu, o gartrefi a diwydiant, a fydd yn cynnwys eitemau fel paledi, paneli ffensys, cypyrddau ac ati. Caiff yr eitemau hyn eu torri’n ddarnau mân mewn man arall a'u cludo i'r safle er mwyn eu prosesu. Ni ellir ailgylchu'r pren hwn ar gyfer defnyddiau eraill gan ei fod yn ddeunydd o radd isel. Ni chaniateir i’r cyfleuster dderbyn pren gwastraff peryglus na llosgi gwastraff cyffredinol neu ddeunyddiau eraill y gellir eu hailgylchu.

Sut y byddwn yn rheoleiddio'r cyfleuster

Rydym yn rheoleiddio safleoedd diwydiannol mewn amryw o ffyrdd, gan ddefnyddio amodau'r drwydded er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth. 

Bydd hyn yn cynnwys hapwiriadau ac ymweliadau dirybudd, yn ogystal ag archwiliadau technegol manwl. Gall ein harchwiliadau ganolbwyntio ar bob agwedd o weithrediad y safle er mwyn sicrhau bod y safle’n cael ei weithredu mewn modd sy’n cwrdd â’r rheolaethau llym a nodir yn nhrwydded y safle. Bydd hyn yn cynnwys asesu canlyniadau monitro er mwyn mesur perfformiad y cyfleuster. 

Mae’n angenrheidiol i'r gweithredwyr hefyd fonitro’u hallyriadau i’r aer yn barhaus ac yn rheolaidd, a rhoi'r canlyniadau hynny i ni. Rydym yn sicrhau bod yr holl fonitro'n cael ei gynnal yn unol â safonau achrededig MCERTS er mwyn sicrhau hyder  

Rydym yn cymryd unrhyw achos o dorri trwydded o ddifrif, ac yn gweithredu'n gymesur ar sail yr effaith debygol. Gall hyn gynnwys diffyg cydymffurfiaeth wedi'i sgorio yn erbyn trwydded y gweithredwr, a all arwain at gosb ariannol. Mewn achosion mwy difrifol o dorri'r rheolau, rydym yn gweithredu'n unol â'n Polisi Gorfodi ac Erlyn.

 

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf