Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy ddal ati i bori neu drwy glicio, “Parhau” byddwch yn cytuno i storio cwcis parti cyntaf a thrydydd partïon ar eich dyfais i wella’r broses o lywio’r safle, dadansoddi’r defnydd o’r safle, a chynorthwyo yn ein hymdrechion marchnata. Polisi cwcis.

Gwirfoddolwyr yn mentro i ddŵr Aberdaugleddau

A man collecting a water sample

Mae cant o wirfoddolwyr wedi brwydro yn erbyn yr elfennau ar hyd dyfrffordd Aberdaugleddau er mwyn casglu data fydd yn helpu arbenigwyr i wella ansawdd dŵr yn yr ardal.

Maen nhw wedi ymgynnull fel rhan o brosiect SWEPT (Arolygu Amgylchedd y Ddyfrffordd am Fygythiadau Llygredd), sy’n cael ei arwain gan bartneriaeth o reolwyr ACA Sir Benfro Forol mewn cydweithrediad ag Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru, Fforwm Arfordirol Sir Benfro a Darwin. Cefnogir ac ariennir SWEPT gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC). 

Ei nod yw casglu data am ffynonellau dŵr lleol er mwyn galluogi swyddogion CNC i dargedu eu hymdrechion wrth helpu lleihau faint o lygredd sy’n mynd i mewn i’r ddyfrffordd. 

Bu gwirfoddolwyr o’r gymuned yn patrolio 46 ardal o’r aber, o Dale i Canaston Bridge, gan arolygu’r lan am arwyddion o lygredd, gwastraff plastig a rhywogaethau estron. 

Maen nhw’n chwilio am ardaloedd ble mae dŵr ffres yn mynd i mewn i’r aber – o nentydd bychain, sianeli draenio a mannau ble mae dŵr yn ffoi o gaeau a ffyrdd. 

Yna caiff samplau eu profi am nitradau a ffosffadau – ffynonellau cyffredin o lygredd o amaeth, diwydiant a chartrefi – sy’n cyfrannu ansawdd gwael dŵr. 

Ers i’r prosiect ddechrau ym mis Tachwedd 2018, mae’r gwirfoddolwyr wedi arolygu’r ardal dair gwaith. Treuliodd y gwirfoddolwyr 247 awr ar yr arolwg cyntaf, gan dynnu 729 llun a phrofi 190 sampl dŵr.  

Byddan nhw’n gwneud un arolwg arall ddiwedd mis Chwefror ac ar ôl hynny caiff y canlyniadau eu hadolygu a chaiff adroddiad ei greu. 

Dywedodd Anne Bunker, Uwch Swyddog Cadwraeth Morol CNC: 

“Mae dyfrffordd Aberdaugleddau’n gynefin gyfoethog i fywyd gwyllt ac yn rhan o Ardal Cadwraeth Arbennig Sir Benfro Forol, dynodiad sy'n adlewyrchu pwysigrwydd ei gynefinoedd a'i rywogaethau ar raddfa Ewropeaidd.  

“Mae ein swyddogion yn gweithio’n galed i stopio llygredd rhag mynd i mewn i’r ddyfrffordd, ond gall hyn fod yn her gan fod cynifer o ffynonellau posibl. 

“Mae’r data sydd wedi cael ei gasglu yn ystod y prosiect yn hynod o werthfawr inni, a bydd yn helpu sicrhau ein bod ni’n targedu ein hymdrechion ac adnoddau yn y lleoedd cywir er mwyn gwneud y mwyaf o effaith ag y gallwn ni.” 

Dywedodd Sue Burton, Swyddog Ardal Cadwraeth Arbennig dros ACA Sir Benfro Forol: 

“Cefais syndod o weld faint o ddiddordeb oedd yn y prosiect, ond roedd y nifer enfawr o wirfoddolwyr yn golygu y gallen ni arolygu ardal eang iawn o’r ddyfrffordd. 

“Mae ansawdd a maint y data sydd wedi cael ei greu y tu hwnt i’n disgwyliadau ac mae’n rhoi darlun mwy manwl inni o lygredd nitrad nag a welwyd erioed o’r blaen. Mae hyd yn oed y weithred syml o gofnodi’r myrdd o fewnlifoedd dŵr croyw’n fudd.  

“Gobeithio y gallwn ni nodi ardaloedd ble bydd gwelliannau tir yn lleihau llygredd mewn maeth, a phan fydd hynny’n digwydd bydd gwelliant hanfodol mewn ansawdd dŵr fydd yn ei dro’n arwain at well cyflwr ar gyfer y nodweddion ACA yn yr amgylchedd morol.” 

Mae Dyfrffordd Aberdaugleddau’n safle a ddiogelir dan gyfraith Ewrop – Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA), ac ar hyd y blaentraeth, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA). 

Nid yw’r ddyfrffordd yn ACA Sir Benfro Forol mewn cyflwr da ar hyn o bryd. Nid yw rhan fewnol y ddyfrffordd, afon Penfro ac i fyny’r afon, yn cwrdd â safonau ‘da’ Ewrop ar hyn o bryd. 

Ym mis Rhagfyr 2018 a mis Ionawr 2019, collwyd olew o burfa Valero ddwywaith gan lygru’r ddyfrffordd. Mae’r ymchwiliadau i sut y digwyddodd hyn yn dal i fynd yn eu blaen ond ni ellir defnyddio dwy biblinell sydd dan amheuaeth o achosi’r llygredd ar ôl camau gorfodi gan CNC. 

Ni ellir eu defnyddio tan fod CNC yn fodlon nad ydyn nhw’n fygythiad i’r amgylchedd lleol.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.