Modrwyo’r unig gyw ar nyth gweilch Llyn Clywedog

Y cyw gwalch yn y nyth gyda'r fodrwy las yn dangos '496'

Cafodd modrwy adnabod ei roi ar yr unig gyw i ddeor eleni o nyth gweilch Llyn Clywedog, ger Llanidloes. Cafodd ei fodwryo ar 25 Mehefin 2021.

Mae’r modrwy glas sy’n arddangos 496 ar ei goes dde yn golygu y bydd modd adnabod yr aderyn os bydd yn cael ei weld ar ôl iddo i adael y nyth.

Cafodd y cyw ei fodrwyo gan gontractwr ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) sy'n cynnal a chadw y nyth yn flynyddol o dan drwydded ac yn cydlynu'r gwaith monitro a modrwyo.

Mae’r cyw – a oedd eisoes yn pwyso 1.4kg pan yn 32 diwrnod oed – yn datblygu ei blu aeddfed yn gyflym a gwelwyd ei fod yn iach.

Dodwyd tair wy yn y nyth yn gynharach yn y tymor ar ddechrau ail flwyddyn y gwalch benywaidd ar y nyth. Roedd tywydd gwael ym mis Ebrill yn rhoi amodau deori anodd i'r gweilch, ac er i gyflenwad cryf o bysgod cael eu dwyn i'r nyth, fe wnaeth y ddau wy arall ddim deor.

Dywedodd John Williams, Swyddog Cymorth Technegol Rheoli Tir CNC: “Mae modrwyo'r gweilch bob amser yn gam cyffrous a dyma'r unig gyfle rydym yn cael i asesu eu hiechyd â llaw.
"Roeddem wrth ein bodd i weld fod y cyw yn iach a'i fod yn datblygu'n dda.
"Er ei bod hi'n amlwg yn siomedig mai dim ond un cyw sydd wedi deor eleni, mae'n ran o realiti natur sydd rhaid i ni ei dderbyn. Mae bod yr unig gyw ar y nyth yn cynyddu ei siawns o oroesi a magu plu; does ganddo ddim cystadleuaeth am fwyd ac mae'n amlwg ei fod yn cael ei fwydo’n dda."

Mewn ymdrech i leihau faint oedd rhaid cyffwrdd y cyw – sydd yn gallu lleihau rhinwedd gwrth-ddŵr y plu, modrwywyd y cyw ar y nyth yn hytrach nag ar y ddaear.

Tra bod y contractwr i fyny yn y nyth, symudwyd yr wyau a oedd heb eu deor, a glanhawyd lens y camera ffrwd fyw.

Gellir gweld datblygiad y cyw ar ffrwd fyw ar-lein y nyth sy'n cael ei hwyluso a'i ariannu gan CNC drwy ymweld â https://www.youtube.com/c/CarnyxWildWales/videos.