Anrheg arian annisgwyl yn ystod gwaith rhwydo

Pedwar dyn yn gwisgo dillad diogelwch dwr yn tymmu rhwyd fawr trwy'r dwr gyda'r gronfa ddwr yn y cefndir

Daeth swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) o hyd i syrpreis arian yn ystod gwaith diweddar i adleoli pysgod o fasn llonyddu cronfa Llys-y-frân – pwll goferu mawr – i Afon Syfni yn Sir Benfro.

Rhyfeddodd y swyddogion o ganfod nifer fawr o eogiaid ifanc a brithyll yn byw yn y basn llonyddu – cartref annisgwyl gan fod yn well ganddynt fyw mewn afonydd a nentydd fel arfer.

Roedd hwn yn ddarganfyddiad lwcus, gan fod CNC wedi cael eu galw gan Dŵr Cymru i helpu â’r gwaith o adleoli pysgod o’r basn cyn iddo gael ei ddraenio. Mae’r basn yn cael ei ddraenio i sicrhau fod y cwmni cyfleustodau dielw yn gosod tyrbin hydro yn y gronfa a fydd yn cael ei ddefnyddio i gynhyrchu ynni gwyrdd.

Cafodd oddeutu 500 o bysgod i gyd – brithyll ac ychydig o eogiaid yn bennaf – eu rhyddhau’n llwyddiannus i Afon Syfni ychydig i lawr yr afon, un ai i ymgartrefu yn yr afon neu i barhau eu taith tua’r môr.

Cafodd rhywogaethau eraill, megis brithyllod seithliw, rhufelliaid, llyfrothod dŵr croyw a chrethyll hefyd eu dal a’u rhyddhau’n ôl i gronfa Llys-y-frân.

Meddai Stuart Rees, Swyddog Pysgodfeydd Technegol CNC:

“Roedd yn ddiddorol darganfod gleisiaid a brithyllod y tu allan i’w cynefin arferol a gweld sut y maent wedi addasu i wahanol amodau amgylcheddol. Pysgod ifanc yw’r rhain sy’n newid yn fiolegol ac yn paratoi i wneud eu daith gyntaf o’r afon i’r môr.

“Nid ydym yn siŵr pam y cafodd poblogaeth o’r fath ei sefydlu yn y safle yma, ond o ystyried maint ac ansawdd y pysgod y gwnaethom eu canfod, mae’n gynefin da sydd wedi bod yn darparu popeth sydd eu hangen arnynt i ffynnu.

“Mae’n arwydd gwirioneddol dda ac mae’n rhoi gobaith inni y gellir gwella poblogaethau brithyll yn yr ardal gyfagos.”

Mae CNC wedi cynllunio rhagor o waith gyda Dŵr Cymru, Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru a phartneriaid eraill y flwyddyn nesaf i wella cynefinoedd pysgod ar Afon Syfni.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru