Adolygiad yn mynd rhagddo i ddeall blwmiau algaidd yn yr afon Gwy yn well

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn cynnal adolygiad manwl o ddata er mwyn deall yn well beth sy'n achosi'r cynnydd mewn blwmiau algaidd yn yr afon ac i gyfrannu at gynllun i wella iechyd yr afon.

Mae data samplu dŵr o'r 12 mlynedd diwethaf yn cael ei ddefnyddio i ddeall tueddiadau mewn ansawdd dŵr ac i ddeall yn well achos y blwmiau algaidd sy’n fwy na’r arfer a welir yn yr afon.

Dywedodd Ann Weedy, Rheolwr Gweithrediadau Canolbarth Cymru ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Mae’r Afon Gwy yn bwysig iawn i bobl sy’n byw yn y dalgylch, fel y dylai fod.
“Rydym yn gwneud darn o waith manwl i ddeall yn well pa gyfuniad o ffactorau sy'n achosi'r cynnydd mewn blwmiau algaidd.
“Bydd yr adolygiad yn edrych ar bob ffactor sy'n gallu achosi blwmiau algaidd gan gynnwys lefelau maetholion yn yr afon o'r 12 mlynedd diwethaf, yn ogystal ag edrych ar sut y gallai newidiadau yn y defnydd o dir ac arferion amaethyddol fod wedi effeithio ar yr afon.
“Byddwn yn ystyried y canfyddiadau hyn ynghyd â ffactorau eraill sy'n cyfrannu at achosi blwmiau algaidd gan gynnwys tymheredd y dŵr a llif yr afon.
“Mae hwn yn fater cymhleth sydd heb un ateb yn unig, ond rydym wedi ymrwymo i ddiogelu a gwella iechyd afonydd ledled Cymru gan gynnwys afon Gwy.”

Bydd CNC yn cyhoeddi cynllun i wella iechyd yr afon yn seiliedig ar yr adolygiad.