Ralïo yn ôl ar y trywydd iawn yng nghoedwigoedd Cymru

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a Motorsport UK wedi llofnodi cytundeb mynediad newydd a fydd yn caniatáu ralïo pedair olwyn cystadleuol ar dir a reolir gan CNC am y tair blynedd nesaf.

Ers degawdau, mae coedwigoedd CNC wedi bod yn gartref i amrywiaeth o chwaraeon modur, ac mae’r sefydliad wedi gweithio'n effeithiol gyda Motorsport UK i gynnal digwyddiadau ar bob lefel o’r gamp, o rasio llawr gwlad i Rali GB Cymru, sef rownd Prydain ym Mhencampwriaeth Rali'r Byd yr FIA.

Bydd y cytundeb newydd yn gweld digwyddiadau’n dychwelyd i'r ystad goetir tan 2023 gan roi hwb i’r economi leol, gyda phwyslais o'r newydd ar effeithiau posibl chwaraeon modur ar yr amgylchedd naturiol.

Dywedodd Dominic Driver, Pennaeth Stiwardiaeth Tir Cyfoeth Naturiol Cymru:

"Y coedwigoedd mae CNC yn eu rheoli yng Nghymru yw cadarnleoedd ralïo yn y DU ac maent yn rhoi her unigryw i yrwyr.
"Mae ein cytundeb â Motorsport UK yn golygu cyflwyno telerau newydd a fydd yn gwneud ralïo yng Nghymru yn fwy fforddiadwy i gyfranogwyr ac yn caniatáu i bobl fwynhau'r gamp yn ddiogel, a chan sicrhau bod coedwigoedd Cymru yn cael eu hamddiffyn a'u cynnal am genedlaethau.
"Edrychwn ymlaen at groesawu'r rhai sy'n cymryd rhan yn y gamp anhygoel – rhoddir bri mawr ym myd ralïo ar yr hynt a’r helynt sy’n digwydd ar y traciau coedwig hyn."

Daw'r cyhoeddiad yn dilyn y newyddion bod Rali GB Cymru 2020, a oedd i fod i ddigwydd yn yr hydref, yn cael ei ganslo oherwydd pandemig y Coronafeirws a'r cyfyngiadau sydd ar waith er mwyn diogelu’r cyhoedd.

A chyda chymorth yn tyfu i weld adferiad gwyrdd ar ôl COVID-19, bydd ystyriaethau amgylcheddol wrth wraidd y cytundeb newydd, gyda CNC a Motorsport UK yn ymrwymo i gydweithio ar yr uchelgais i yrru tuag at ddull carbon is, gwyrddach a mwy cynaliadwy o gynnal y digwyddiadau yn y dyfodol.

Ychwanegodd Dominic Driver: "Mae ralïo'n gwneud cyfraniad pwysig i'n heconomi wledig ac mae llawer o fanteision cymunedol yn deillio o'r digwyddiadau hyn.
"Fodd bynnag, rydyn ni hefyd yn cydnabod yn llwyr bod cynnal digwyddiadau o'r fath yn ein coedwigoedd yn dod ag ymdeimlad ehangach o gyfrifoldeb i'r cyhoedd, y cymunedau lleol ac i'n cyfrifoldebau ein hunain wrth helpu i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur.
"Mae effaith COVID-19 wedi gweld mwy a mwy o bobl yn dychwelyd at ymweld â choedwigoedd ein gwlad ac mae wedi rhoi mwy o ffocws ar yr angen i barchu ein hamgylchedd naturiol.
"Wrth gyrraedd y cytundeb hwn, mae CNC yn ystyried yn llawn effaith popeth a wnawn ar y lleoedd y mae pobl yn eu caru. Mae hyn yn cynnwys yr ymrwymiad i weithio gyda Motorsport UK ar y daith tuag at ddod yn gamp wyrddach a mwy cynaliadwy yn y dyfodol.
"Bydd yr uchelgais hwn yn parhau i fod wrth wraidd ein trafodaethau wrth i ni weithio gyda threfnwyr y rali ar y rhaglen ddigwyddiadau ar gyfer 2021 a thu hwnt".

Dywedodd Hugh Chambers, Prif Swyddog Gweithredol Motorsport UK:

"Rydym yn falch iawn o gyhoeddi cytundeb newydd gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a fydd yn caniatáu i ralïo ddigwydd yng nghoedwigoedd Cymru am o leiaf y tair blynedd nesaf. Mae ralïo’n ddisgyblaeth bwysig i Motorsport UK ac mae Cymru'n cynnig yr amgylchedd perffaith i'n digwyddiadau gael eu cynnal ar rai o'r llwyfannau mwyaf eu parch ym myd ralïo.
"Nid yn unig y mae'n bwysig i gystadleuwyr, ond mae'r digwyddiadau hyn yn hanfodol i'r seilwaith o'u cwmpas, o sectorau lletygarwch lleol, ond hefyd yr is-fusnesau sy'n gysylltiedig â'r gamp sy'n dibynnu'n fawr ar ralïo coedwig. Byddwn yn gweithio gyda CNC i gynyddu nifer y digwyddiadau, fforddiadwyedd i’n cystadleuwyr a'r cynaliadwyedd hirdymor fel y gallwn ofalu am y gamp a'r coedwigoedd am genedlaethau i’r dyfodol."